Ardal derbynwyr grantiau

Taith yw raglen gyfnewid dysgu rhyngwladol Cymru.

Gwyliwch ein fideo
Gwyliwch ein fideo

Mae effaith ein prosiect Taith wedi rhagori ar ein disgwyliadau ac wedi cyfrannu at ein nod o leihau rhwystrau i’n cleientiaid sydd â phrofiad bywyd o anfantais gymhleth. Fel cyfranogwyr anhraddodiadol, roedd llawer ohonynt wedi ymddieithrio oddi wrth addysg brif ffrwd, ac yn awr maent wedi darganfod angerdd i barhau â’u taith addysg oedolion neu yn eu geiriau nhw ddechrau taith newid bywyd!

Lucy Leighton, Rheolwr Cyflenwi Gwasanaethau Cymunedol, St Giles Cymru

Nid oedd y teithiau hyn yn ymwneud ag archwilio gwledydd newydd yn unig, ond â phrofi, gyda’r gefnogaeth gywir, y gall pob plentyn, waeth beth fo’i anghenion, gofleidio’r byd a disgleirio.

Ryan Sheppard, Athro, Ysgol Arbennig Portfield

Mae bod yn rhan o brosiect Taith yn fywyd ei hun. Mae’n cynnwys dysgu, rhannu, cyd-drafod, cyfathrebu, bod yn agored a hael, wynebu heriau ac ofnau, a dod â syniadau a phobl at ei gilydd, pa un bynnag ydynt, ble bynnag y maent, beth bynnag a wnânt. Fel cymuned. Fel bywyd.

Sara Novo, Cydlynydd Prosiect – Rhaglen Dramor, Coleg Gwent

Rhoddodd y daith i Sweden brofiadau cyfoethogi bywyd i’n disgyblion gan gyfoethogi eu sgiliau cerddorol a’u hyder. Mae’r myfyrwyr hyn wedi dychwelyd adref gyda gwerthfawrogiad o ddiwylliannau dysgu, sy’n cyfoethogi amgylchedd y dosbarth ac yn annog disgyblion eraill i anelu at gyfleoedd tebyg.

Rhys Roberts, Rheolwr, Sistema Cymru (Codi’r To)

Mae prosiect Taith wedi darparu cyfleoedd i ddysgwyr na fyddai byth wedi bod yn bosib fel arfer. Nid oedd rhai myfyrwyr erioed wedi gadael Cymru, ac eto darparodd cyllid Taith gymorth i brynu pasbortau, teithio, llety, cynhaliaeth a chyllid gweithgareddau i gefnogi dysgwyr i ymgolli mewn diwylliannau lleol dramor, gan gefnogi eu taith ar ddod yn ddinasyddion byd-eang. I rai, mae’r cyfle hwn wedi bod yn ddigwyddiad trawsnewidiol o ran eu bywydau personol, eu gyrfaoedd, a hyd yn oed gwneud ffrindiau o bob rhan o’r Byd.

Richard Gordon, Uwch Reolwr Rhaglenni a Chynigion a Ariennir, Coleg Caerdydd a’r Fro

Rhoddodd Taith y cyfle i’n hysgolion archwilio agweddau allweddol ar ein treftadaeth tra’n darparu cyfleoedd i ddisgyblion, na fyddai llawer ohonynt wedi gallu ymwneud â phrofiadau o’r fath fel arall, gyda’r cyfle i ymgolli yn iaith a diwylliant gwlad wahanol - diolch yn fawr iawn i Taith!

Phil Matthews, Cydlynydd MFL, Ysgol Gynradd Ystrad Mynach

Mae prosiect symudedd rhyngwladol Taith 2023/24 wedi cael effaith ddofn ar ein dysgwyr a’n staff, gan ddarparu profiadau sy’n newid bywydau sydd wedi cyfoethogi ein cwricwlwm ac ehangu safbwyntiau byd-eang. Mae'r partneriaethau rydyn ni wedi'u meithrin, a'r mewnwelediadau byd go iawn o'r diwydiant a enillwyd nid yn unig wedi cryfhau ein harlwy addysgol ond hefyd wedi gwella cyflogadwyedd a hyder ein myfyrwyr.

Christy Anson-Harries, Cyfarwyddwr Recriwtio, Dilyniant a Phartneriaethau Dysgwyr, Coleg Ceredigion

Darganfyddwch mwy am ein cyfleoedd ariannu

Chwech o fyfyrwyr a’u cefnai i’r camera yn edrych ar gofeb Medi 11eg yn Efrog Newydd. Y mae yna nifer o entrychdai wedi e’u hadlewyrchu yn erbyn yr awyr las dwfn yn y cefndir. Six students facing away from the camera looking at the September 11 memorial in New York. There are a number of skyscrapers reflected against a deep blue sky in the background.

Llwybr 1 – Symudedd cyfranogwyr

Mae’r cyllid ar gyfer Llwybr 1 yn cefnogi cyfleoedd dysgu rhyngwladol i unigolion neu grwpiau o unigolion, gan roi cyfleoedd iddyn nhw gael profiadau dysgu, gwaith neu wirfoddoli tymor byr a thymor hir. Mae Llwybr 1 yn agored i sefydliadau ar draws holl sectorau Taith – Ysgolion, Ieuenctid, Addysg Oedolion, Addysg Bellach, Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol ac Addysg Uwch. I gael rhagor o wybodaeth am Lwybr 1 cliciwch yma

Delwedd o gynulleidfa o’r cefn lle mae dau berson wedi codi’u llaw. Yn y cefndir mae delwedd aneglur o bedwar o bobl.

Llwybr 2 – Partneriaethau a chydweithredu strategol

Mae’r cyllid hwn yn cefnogi arloesedd addysgol, a datblygiad prosiectau cydweithredol rhyngwladol sy’n mynd i’r afael â mater penodol neu flaenoriaeth sector yng Nghymru. Arweinir y prosiectau hyn gan sefydliadau addysg a hyfforddiant yng Nghymru. Mae Llwybr 2 yn agored i sefydliadau yn y sectorau Ysgolion, Ieuenctid, Addysg Oedolion ac Addysg Bellach ac Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol. I gael rhagor o wybodaeth am Llwybr 2 cliciwch yma

Profiadau personol

#TaithStories

Yn dilyn anturiaethau cyfranogwyr a ariennir gan Taith ledled y byd

Dewiswch eich sector

Rydym yn gweithio gyda llawer o sectorau i gynnig cyfleoedd cyfnewid dysgu rhyngwladol i bawb. Dewiswch eich sector isod i ddysgu mwy.

Newyddion diweddaf

Gwelwch popeth
Golyga o ddynes yn eistedd wrth ddesg gyda gluniadur, ffeiliau a nodiadau papur. Mae hi’n adolygu’r testun ar y papur.

Cyfle i fod yn Weithiwr Cymorth Hygyrchedd i Taith

Mae Taith yn lansio cynllun Grantiau Bach

Grŵp o staff Taith yn dal tystysgrif

Creu amgylchedd cynhwysol a theg

Dewch ar daith gyda ni

Cofrestrwch i fod ar ein rhestr bostio i gael y newyddion diweddaraf ynglŷn â’r rhaglen.

Drwy gofrestru, rydych chi’n cytuno â’n polisi preifatrwyddy, gan gynnwys trosglwyddo eich gwybodaeth i’n platfform marchnata, Mailchimp. Gallwch ddad-danysgrifio ar unrhyw adeg.