Llwybr 2 2024 yn agor 3 Hydref a bydd y dyddiad cau ar 21 Tachwedd

Cysylltwch

Astudiaethau achos Taith: Llwybr 2 – Prosiectau

Yn y bôn, mae astudiaeth achos yn adrodd hanes eich prosiect a ariannwyd gan Taith, bydd yn rhannu eich profiadau ac yn dangos yr effeithiau a’r canlyniadau.

Bydd astudiaethau achos yn cael eu defnyddio ar wefan Taith ac yn cael eu hyrwyddo ar y cyfryngau cymdeithasol, ac mae’n bosib y bydd Llywodraeth Cymru, ein Cyrff Trefnu Sectorau a sefydliadau perthnasol eraill hefyd yn eu rhannu.

Diben astudiaeth achos yw i gynulleidfa eang (gan gynnwys y rheini nad oes ganddynt efallai unrhyw wybodaeth am Taith neu gyfnewidiadau rhyngwladol yn gyffredinol) gael cipolwg bywyd go iawn ar y cyfleoedd sydd ar gael drwy gyllid Taith, gan ddangos yr effaith y mae eich prosiect rhyngwladol ar y cyd yn ei chael yng Nghymru ac yn rhyngwladol.

Rydym yn gwerthfawrogi’n fawr eich bod wedi cytuno i rannu eich profiadau gyda ni ac rydym wedi cynnwys rhai cwestiynau isod. Arweiniad yn unig yw’r rhain felly mae croeso ichi rannu unrhyw wybodaeth a ddymunwch. Mae’n debygol y bydd yr wybodaeth y byddwch yn ei rhoi yn cael ei golygu i gyd-fynd â’n harddull mewnol a’r cyfyngiadau ar nifer y geiriau, ond gallwch fod yn dawel eich meddwl na chaiff fersiwn derfynol ei chyhoeddi hyd nes y byddwch wedi cymeradwyo’r testun yn llawn.

Weithiau mae’n bosibl y bydd rhannau o’ch astudiaeth achos yn cael eu cymryd a’u defnyddio’n ddarn unigol o ddeunydd hyrwyddo ar gyfer platfformau penodol (h.y. hwyrach y bydd dyfyniad gan rywun mewn astudiaeth achos sy’n dweud “Bydd y pecyn cymorth hyfforddi a luniwyd gennym gan ddefnyddio cyllid Taith yn cael ei ddefnyddio gan athrawon ledled Conwy yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf” yn cael ei dynnu allan a’i ddefnyddio yn y cyfryngau cymdeithasol neu mewn taflen) ond yr un fyddai’r geiriad/cyd-destun y cytunwyd arno pan gafwyd cymeradwyaeth derfynol yn rhan o’r astudiaeth achos yn gyffredinol.

 

Syniadau ar gyfer cwestiynau

  • Eich enw:
  • Enw’r sefydliad/ysgol/prifysgol (ac ati):
  • Soniwch wrthym am eich prosiect:
    • Beth yw e? (ar gyfer cynulleidfa heb unrhyw wybodaeth flaenorol)
    • Pam dewisoch chi’r prosiect hwn?
    • Beth oedd nodau eich prosiect?
    • Wnaethoch chi lwyddo i gyflawni’r nodau roeddech chi wedi bwriadu’u cyflawni?
    • Beth oedd allbynnau eich prosiect?
    • Sut gwnaethoch chi rannu/lledaenu’r allbynnau?
    • Sut y bydd yn gwella/effeithio ar addysg yng Nghymru?
    • Sut y bydd yn helpu dysgwyr yng Nghymru?
    • Soniwch wrthym am eich sefydliad partner (pwy, sut, pam ac ati):
    • Soniwch wrthym am rai o’r gweithgareddau y gwnaethoch chi a’ch grŵp gymryd rhan ynddyn nhw:
    • Beth yn eich barn chi oedd uchafbwynt y prosiect hwn a pham?
  • Oedd symudedd rhyngwladol yn rhan o’ch prosiect? Os oedd, ble, pam, ac ati:
  • Pwy gymerodd ran yn y symudedd? (Os mai hwn oedd profiad rhyngwladol cyntaf rhywun, pa effaith gafodd hwnnw arno?)
  • Pwy drefnodd y daith/ymgeisiodd am gyllid Taith? (a wnaed hyn yn uniongyrchol gennych chi neu drwy gonsortiwm?)
  • Sut brofiad oedd gwneud cais am gyllid Taith, a llwyddo i’w gael?
  • Sut clywsoch chi am Taith am y tro cyntaf?
  • A fyddech chi’n gwneud cais am arian gyda ni unwaith eto?
  • A fyddech chi’n annog sefydliadau eraill i wneud cais am gyllid Taith? Pa un darn o gyngor fyddech chi’n ei roi iddyn nhw?

 

Delweddau:

Mae angen lluniau o gyfnod eich symudedd i gyd-fynd â’ch astudiaeth achos. Mae’n rhaid cael caniatâd i ddefnyddio pob llun (h.y. ffurflenni cydsyniad lluniau a drefnwyd gan yr ysgol).

 

Cysylltwch â:

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am rannu astudiaeth achos Taith gyda ni, ebostiwch cefnogaeth@taith.cymru

Templedi cyfryngau a chanllawiau brandio

Dewch ar daith gyda ni

Cofrestrwch i fod ar ein rhestr bostio i gael y newyddion diweddaraf ynglŷn â’r rhaglen.

Drwy gofrestru, rydych chi’n cytuno â’n polisi preifatrwyddy, gan gynnwys trosglwyddo eich gwybodaeth i’n platfform marchnata, Mailchimp. Gallwch ddad-danysgrifio ar unrhyw adeg.