Byd o gyfle
Mae Taith yn rhaglen cyfnewid dysgu rhyngwladol a sefydlwyd i greu cyfleoedd sy’n newid bywydau i bobl yng Nghymru ddysgu, astudio a gwirfoddoli ledled y byd.
Rydym yn ymgorffori ymagwedd ryngwladol ym mhob lefel o’n system addysg. Mae Taith ar gyfer pobl ym mhob rhan o Gymru, ac ym mhob math o leoliad addysg. Y sectorau sy’n gymwys ar gyfer cyllid yw:
- Ysgolion
- Ieuenctid
- Addysg Oedolion
- Addysg Bellach ac Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol
- Addysg Uwch (yn cynnwys Addysg ac Ymchwil)
Cyfle i bawb
Mae Taith wedi ymrwymo i gyrraedd unigolion a sefydliadau nad ydynt yn draddodiadol efallai wedi bod yn ymwybodol o gyfleoedd cyfnewid rhyngwladol neu wedi cael mynediad at gyllid yn flaenorol.
Ein nod yw gwella mynediad i bobl o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol gan gynnwys:
- pobl ag anabl
- pobl o gefndiroedd ethnig lleiafrifol
- pobl ag anghenion dysgu ychwanegol
- pobl o gefndiroedd difreintiedig
Mae cyllid ychwanegol ar gael i gefnogi cyfranogwyr sy’n wynebu rhwystrau ariannol i gyfranogiad. Mae dau fath o gymorth cynhwysiant ar gael – ar gyfer pobl Anabl a’r rhai ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY), a’r rhai o gefndiroedd difreintiedig.
Gwahodd y byd i Gymru
Mae Taith yn hyrwyddo cydweithrediadau rhwng sefydliadau Cymreig a rhyngwladol sy’n galluogi cyfnewidiadau dysgu dwy ffordd. Mae cynnal pobl yng Nghymru yn egwyddor sylfaenol o’r rhaglen gyda chyllid ar gael i groesawu dysgwyr, gwirfoddolwyr a staff o sefydliadau partner ledled y byd i Gymru.
Gwneud argraff
Mae symudedd a phrosiectau Taith yn ceisio ysbrydoli dysgwyr a chodi dyheadau. Dylai prosiectau addysgwyr a staff greu buddion uniongyrchol a pharhaol i genedlaethau o ddysgwyr. Mae Taith yn creu cyfleoedd i ehangu gorwelion, profi ffyrdd newydd o fyw, a dod â gwersi yn ôl i’w rhannu â phobl gartref.
Cwestiynau allweddol
Mae Taith yn cael ei ariannu’n gyfan gwbl gan Lywodraeth Cymru. Dyrennir cyllid ar sail flynyddol a rhaid ei wario o fewn cyfnod blwyddyn ariannol Llywodraeth Cymru (1 Ebrill – 31 Mawrth). Nid yw Taith yn derbyn cyllid ymlaen llaw gan Lywodraeth Cymru i ariannu’r prosiectau Llwybr. Telir am hyn ar sail pwynt angen.
Rhaid i bob sefydliad sy’n gwneud cais ddangos bod ganddynt ffynhonnell incwm sefydlog a digonol i gynnal gweithgareddau cymwys trwy gydol y cyfnod y mae’r prosiect Taith yn cael ei gynnal.
Gall Taith gynnal gwiriadau gallu ariannol, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i:
- Adolygiad o gyfrifon diweddaraf Tŷ’r Cwmnïau neu’r Comisiwn Elusennau, lle bo’n berthnasol.
- Adolygiad o gyfrifon rheoli diweddaraf y sefydliad a/neu ddatganiad llif arian.
- Adolygiad o ddogfennau llywodraethu’r sefydliad i gadarnhau y gall y sefydliad dderbyn y cyllid, yr enw ar barau cyfrif banc a gwiriadau eraill, lle bo’n berthnasol.
- Gwiriad o gofnodion asiantaethau gwirio credyd lle bo’n briodol.
- Adolygiad o gyfriflenni banc cyfredol y sefydliad yn dangos y balans terfynol.
Mae nifer o wiriadau prosiect parhaus y mae tîm Taith yn eu cynnal yn fisol fel rhan o broses fonitro Derbynwyr Grant. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Cymhariaeth o’r gwariant prosiect a ragwelir yn erbyn gwariant gwirioneddol y prosiect hyd yma.
- Cymhariaeth o’r gweithgareddau a nifer y cyfranogwyr a ragwelir yn erbyn y gweithgareddau a nifer y cyfranogwyr gwirioneddol hyd yma.
- Adborth gan y tîm Grantiau a Chyllid a’r tîm Rhaglenni ynghylch sut mae’r Derbynwyr Grant yn cyflawni eu prosiectau.
Fel rhan o’r gwiriadau hyn, neilltuir categori risg perfformiad grantiau i bob sefydliad sy’n Dderbynnydd Grant. Sylwer – Gall y sgôr risg perfformiad grant hwn newid yn fisol
Bydd pob Derbynnydd Grant yn derbyn taliad cychwynnol unwaith y bydd y Llythyr Cytundeb Grant wedi’i lofnodi. Bydd faint y bydd Derbynnydd Grant yn ei dderbyn (fel canran o gyfanswm y grant a ddyfarnir) yn dibynnu ar gategori risg y sefydliad, fel y disgrifir uchod a’r gyllideb sydd ar gael. Bydd maint y grant a chategori risg y sefydliad hefyd yn pennu proffil gweddill y cyllid.
Gwneir taliadau grant yn y dyfodol (chwarterol / interim / terfynol) i Dderbynwyr Grant ar ôl cwblhau adroddiad boddhaol.
Cymru Fyd-eang
Mae taith wedi dyrannu dros £10m i Brifysgolion Cymru i gyflawni trydydd cam Cymru Fyd-eang (prosiect Cymru Fyd-eang III), a fydd ar agor tan 2025. Mae Partneriaeth Cymru Fyd-eang yn darparu dull strategol a chydweithredol o ymdrin ag addysg bellach ac uwch rhyngwladol yng Nghymru. Ymysg nodau prosiect Cymru Fyd-eang III mae adeiladu partneriaethau rhyngwladol a chynyddu nifer y myfyrwyr o bedair marchnad â blaenoriaeth: Ewrop, India, Gogledd America a Fietnam. I gael rhagor o wybodaeth am Cymru Fyd-eang, ewch i wefan Prifysgolion Cymru.
wefan Prifysgolion CymruAdroddiadau Gwerthuso Annibynnol (Crynodebau Gweithredol)
Fel rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru, mae’n ofynnol bod Taith yn cael ei gwerthuso’n annibynnol gan werthuswr allanol. Comisiynwyd Wavehill ym mis Awst 2023 i gynnal gwerthusiad cam cychwynnol o Taith, ochr yn ochr â gwerthusiad penodol o Cymru Fyd-eang III (y grant unigol mwyaf a ariennir gan Taith). Mae dolenni i’r Crynodebau Gweithredol o’r adroddiadau gwerthuso cychwynnol ar gyfer Taith a Cymru Fyd-eang III isod.