Beth yw cyfnewid rhyngwladol?
Mae cyfnewid rhyngwladol yn rhoi cyfle i unigolion megis dysgwyr, staff a phobl ifanc fynd dramor a chymryd rhan mewn gwahanol weithgareddau sy’n eu galluogi i rannu dysgu, profi diwylliannau gwahanol a datblygu sgiliau newydd.
Mae gweithgareddau’n wahanol i ddysgwyr a staff ond gallant gynnwys:
- astudio
- gwirfoddoli
- cysgodi swydd
- mynychu cwrs
Yr hyn rydym yn ei wneud
Rôl Taith fel asiantaeth ariannu yw ariannu sefydliadau cymwys i alluogi pobl yng Nghymru i astudio, gwirfoddoli, hyfforddi a gweithio ar draws y byd.
Dylai sefydliadau wneud cais yn uniongyrchol i Taith am gyllid ar ran eu cyfranogwyr ac rydym yn annog pob sefydliad cymwys i wneud cais boed yn newydd i gyfnewidfeydd rhyngwladol neu’n fwy profiadol.
Rydym yn darparu cefnogaeth ar bob cam o’r broses trwy weminarau, digwyddiadau wyneb yn wyneb a chefnogaeth un i un. Cysylltwch â ni yma os oes gennych unrhyw gwestiynau am raglen Taith a gwneud cais am arian.
Yn ogystal â chefnogi ymgeiswyr, rydym hefyd yn darparu cymorth i dderbynwyr grantiau llwyddiannus ar reoli eu prosiectau Taith o ddydd i ddydd.
Enw’r gweithgareddau a phrosiectau y gellir eu hariannu drwy Taith yw Llwybrau. Mae cyllid ar gael trwy ddau lwybr gwahanol. Edrychwch ar y dudalen cyfleoedd cyllido i gael gwybodaeth ar bryd y bydd pob llwybr yn agor nesaf ar gyfer ceisiadau.
Llwybr 1
Symudeddau cyfranogwyr
Mae Llwybr 1 yn cefnogi symudedd allanol a mewnol cyfranogwyr unigol neu grwpiau o gyfranogwyr. Mae cyllid ar gael i ddysgwyr, pobl ifanc a staff ymgymryd â chyfnewidiadau rhyngwladol, yn y tymor byr a’r tymor hir sy’n darparu cyfleoedd i rannu dysgu, profi diwylliannau gwahanol a datblygu sgiliau newydd.
Ymrwymiad Taith i gynhwysiant a hygyrchedd
Mae Taith yn ymrwymedig i sicrhau bod cyfnewid rhyngwladol yn fwy cynhwysol a hygyrch. Mae ein strategaeth newydd yn canolbwyntio ar gefnogi pobl sydd wedi’u tangynrychioli mewn cyfnewid rhyngwladol yn y gorffennol i gyrchu cyfleoedd. Mae hyn yn cynnwys pobl o gefndiroedd difreintiedig, cefndiroedd lleiafrifoedd ethnig, pobl Anabl a phobl ag anghenion dysgu ychwanegol.
Rhaid i sefydliadau sy’n cyflwyno cais ddangos y byddant yn cynnig cyfleoedd i’r rhai hynny a fyddai’n annhebygol o gael y cyfle i brofi symudedd rhyngwladol heb gyllid Taith. Er mwyn i raglenni cyfnewid Llwybr 1 ddarparu’r effaith fwyaf, rhaid i 25% neu fwy o ddysgwyr, neu bobl ifanc, sy’n gyfranogwyr prosiect fod o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli. Mae symudedd staff yn unig yn bosibl, ond rhaid bod ganddynt effaith glir y gellir ei dangos ar y dysgwyr, neu’r bobl ifanc, maent yn gweithio gyda nhw, yn enwedig y rhai hynny o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli.
Enghreifftiau o brosiectau Llwybr 1 blaenorol
Os hoffech chi gael ysbrydoliaeth ar sut y gall eich sefydliad gymryd rhan yn Llwybr 1 mae gennym gasgliad o astudiaethau achos o bob sector ar ein gwefan, gan rannu straeon gan gyfranogwyr sydd wedi ymweld â gwledydd ledled y byd.
Mae ysgolion yng Nghymru wedi cymryd rhan mewn llawer o gyfnewidfeydd rhyngwladol, gan gynnwys cyfnewid â Sbaen, Colombia a Singapore.
Yn y sector ieuenctid, teithiodd Kokoro Arts i Gyprus i ddatblygu cynlluniau ar gyfer taith gyfnewid ieuenctid dros yr haf yn Latfia. Mae Kokoro Arts yn anelu at ddarparu cyfleoedd artistig i bobl ifanc yng Nghymru ac maen nhw â diddordeb arbennig mewn gweithio gyda chymunedau lleiafrifol i ddod ag amrywiaeth a hyrwyddo cydraddoldeb i fyd celfyddydol Cymru.
Mewn Addysg Oedolion, ymwelodd staff o’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol â Chatalwnia i ddysgu am gynllun iaith sy’n cefnogi dysgwyr a darganfod syniadau newydd ac arfer gorau.
Teithiodd staff o golegau Addysg Bellach ledled Cymru i Barcelona fel rhan o raglen ColegauCymru i greu fframwaith ar gyfer integreiddio cyfleoedd symudedd rhyngwladol i gymhwyster newydd Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru.
Ymwelodd myfyriwr ymchwil o Brifysgol Metropolitan Caerdydd â Malaysia i ymchwilio i sut y gellir defnyddio robotiaid i gynorthwyo nyrsys i wella a gwella gofal claf mewn lleoliadau gofal iechyd.
Llwybr 2
Partneriaethau a Chydweithio Strategol
Mae’r llwybr hwn yn ymwneud â gweithio ar y cyd â phartneriaid rhyngwladol i fynd i’r afael â mater neu flaenoriaeth sector. Bydd prosiectau’n canolbwyntio ar ddatblygu a gweithredu arferion arloesol mewn addysg drwy greu allbwn prosiect, a fydd yn cael ei rannu ledled Cymru a thu hwnt. Dyma enghreifftiau o brosiectau a ariannwyd yn yr alwad Llwybr 2022:
Ysgolion – Datblygu Ysgolion Cymunedol yng Nghymru: Dysgu oddi wrth a chyda phartneriaid cymunedol yn Florida.
Ymdrin ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad er mwyn cyrraedd safonau uchel a dyheadau pawb yw’r flaenoriaeth allweddol i addysg yng Nghymru. Yn ganolog i’r ymrwymiad i hyn, mae’n datblygu ysgolion sy’n canolbwyntio ar y gymuned. Bydd y prosiect yn creu cyfres o Safonau Ysgolion sy’n Canolbwyntio ar y Gymuned a fydd yn gweithredu fel adnodd ymarferol i helpu ysgolion i weithredu a datblygu strategaethau ysgolion sy’n canolbwyntio ar y gymuned. Bydd y safonau’n cael eu datblygu drwy bartneriaeth rhwng ymarferwyr mewn ysgolion, gan gynnwys uwch arweinwyr, swyddogion ymgysylltu â theuluoedd a rheolwyr ysgolion cymunedol yng Nghymru a chydweithwyr mewn ysgolion cymunedol yn Florida, gan dynnu ar arbenigedd technegol a chymorth Canolfan Ysgolion Cymunedol UCF yn Orlando.
Addysg Oedolion – Mannau Cyhoeddus Cynhwysol: Penderfyniadau, dylunio a chyflwyno yn Sweden a Barcelona
Bydd prosiect Chwarae Teg yn dwyn ynghyd dystiolaeth o lenyddiaeth bresennol ac arfer gorau rhyngwladol i greu adnoddau ymarferol i gefnogi creu mannau cyhoeddus mwy cynhwysol yng Nghymru. Yr amcanion allweddol yw llunio argymhellion ac offer sy’n seiliedig ar dystiolaeth i helpu rhanddeiliaid allweddol sy’n ymwneud â phenderfyniadau, dylunio a darparu mannau cyhoeddus i ddeall pam y dylai cynhwysiant fod yn ystyriaeth ganolog a chael ei rymuso i wneud newidiadau yn y ffordd y maent yn gweithio, i ddarparu mannau cyhoeddus cynhwysol ledled Cymru. Mae ystyriaethau ED&I mewn mannau cyhoeddus wedi bod yn amlwg ymhlith prosiectau datblygu rhyngwladol ers blynyddoedd lawer, nid yw’n gyffredin yng Nghymru. Felly, drwy weithio gyda phartneriaid rhyngwladol arbenigol, ymweld â phrosiectau sydd wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl a chasglu tystiolaeth o lenyddiaeth bresennol, gallwn sicrhau ein bod yn datblygu atebion yn seiliedig ar y dystiolaeth gryfaf bosibl o’r hyn sy’n gweithio a chreu Cymru fwy cyfartal.
AB ac AHG – Adnodd Dysgu Ar-lein ar Gystadleuaeth Sgiliau, mewn cydweithrediad â EuroSkills
Mae’r prosiect hwn yn archwilio sut y gellir defnyddio cystadlaethau sgiliau i godi safonau’r ddarpariaeth mewn prentisiaethau yng Nghymru. Mae’n gwerthuso manteision ac anfanteision cymryd rhan; y mathau o sgiliau a ddatblygwyd yn y cystadlaethau ac yn codi ymwybyddiaeth o sut y gall darparwyr gymryd rhan.
Bydd adnodd e-ddysgu ar-lein yn cael ei gynhyrchu i alluogi ymarferwyr, rheolwyr a chyflogwyr i gael gafael ar wybodaeth ac ymchwil ar y diwydiant gwasanaeth (trin gwallt a gofal yn benodol) a chystadlaethau TG a sut y gall cystadlu mewn cystadlaethau sgiliau hybu sgiliau llythrennedd, rhifedd a chyflogadwyedd. Bydd yr adnodd ar-lein am ddim yn cynnwys fideos byrion, astudiaethau achos a thaflenni gwybodaeth y gellir eu cyrchu gan addysgwyr galwedigaethol ledled Cymru, i’w galluogi i weld manteision cymryd rhan mewn gweithgareddau cystadleuol i’w dysgwyr; eu hunain fel ymarferwyr; eu sefydliad a’u sector; bydd hefyd yn codi ymwybyddiaeth o rwystrau posibl a sut i oresgyn y rhain.
Ieuenctid – Gwella Effaith System Adrodd Iechyd Pobl Ifanc SHRN (Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgol), mewn cydweithrediad â phartneriaid o Ganada
Trwy ofyn yn uniongyrchol am ac ystyried ffactorau amddiffynnol hunan-adnabyddedig pobl ifanc o amgylch eu tai, eu perthnasau teuluol a chyfoedion, agweddau tuag at droseddu, a’u teimladau o ddiogelwch personol, nod y prosiect hwn yw casglu data ar y risgiau posibl o ddod yn ddigartref, NEET (nid mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant), o droseddu, camddefnyddio sylweddau a’r tebygolrwydd y bydd angen ymyriadau hirdymor a ariennir gan iechyd arnynt yn y dyfodol.
Bydd y prosiect yn adolygu pa ddata sy’n cael ei ddefnyddio gan asiantaethau allweddol fel addysg, iechyd, gwasanaethau ieuenctid a phrosiectau’r trydydd sector i gefnogi prosesau adnabod cynnar. Bydd rhan o’r adolygiad hwn yn cynnwys pa ddangosyddion sy’n cael eu defnyddio mewn prosiectau a gyflwynir yn llwyddiannus yn y DU a Chanada a mecanweithiau o sut maent yn casglu’r data ar gyfer y dangosyddion hyn. Nod yr adolygiad yw creu holiadur peilot sy’n cael ei gwblhau yn ysgolion Sir Benfro drwy addasu holiadur SHRN drwy asiantaeth ymchwil i’r farchnad.
Rhestr wirio Taith
Beth yw Taith?
Rydym yn asiantaeth ariannu i ariannu sefydliadau cymwys i alluogi pobl yng Nghymru i astudio, gwirfoddoli, hyfforddi a gweithio ar draws y byd.
Pryd i wneud cais?
Mae gan Taith alwadau ariannu penodol ar adegau penodol o'r flwyddyn pan fydd y ffenestr i wneud cais am arian ar agor. Byddwn yn rhoi cyhoeddusrwydd i'r dyddiadau ar gyfer y rhain ar ein gwefan.
Pwy sy'n gallu cyflwyno cais?
Dylai sefydliadau cymwys wneud cais yn uniongyrchol i Taith am arian ar ran eu cyfranogwyr. Nid yw unigolion yn gymwys i wneud cais yn uniongyrchol.
Yma i helpu
Rydym yn darparu cefnogaeth trwy gydol y broses gyfan gyda gweminarau, digwyddiadau wyneb yn wyneb a chefnogaeth un i un.
Cysylltwch
Mae croeso i chi gysylltu unrhyw bryd gyda chwestiynau am Taith a gwneud cais am arian: ymholiadau@taith.cymru