Rhaglen cyfnewid dysgu rhyngwladol Cymru a ariennir gan Lywodraeth Cymru yw Taith. Mae Taith ar gyfer pobl ym mhob cwr o Gymru, ym mhob sector addysg – ysgolion, ieuenctid, addysg oedolion, addysg bellach, addysg a hyfforddiant galwedigaethol, ac addysg uwch, a phob math o addysg – ffurfiol, anffurfiol a heb fod yn ffurfiol.
Yn Taith, rydym wedi ymrwymo’n ddwfn i feithrin diwylliant o gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Mae’r egwyddorion hyn wrth galon ein gwerthoedd craidd, gan lywio ein llwyddiant fel rhaglen gyfnewid rhyngwladol gynhwysol.
Darllenwch fwy am ein Datganiad Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant Taith yma.Ein strategaeth ar ei newydd wedd yn canolbwyntio ar wneud cyfnewid rhyngwladol yn fwy cynhwysol a hygyrch.

Ein pwrpas
Creu cyfleoedd sy’n newid bywyd i ddysgwyr a phobl ifanc ledled Cymru trwy gyfnewidiadau dysgu rhyngwladol.

Ein cenhadaeth
Ariannu cyfleoedd cyfnewid addysgol rhyngwladol cynhwysol a hygyrch ar gyfer dysgwyr a staff ledled Cymru, gyda chyfleoedd i ddysgwyr a staff rhyngwladol ymweld â phartneriaid yng Nghymru.
Bydd Taith yn annog cyfranogiad gan bobl o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol – gan gynnwys pobl o gefndiroedd difreintiedig, cefndiroedd lleiafrifoedd ethnig, pobl Anabl a phobl ag anghenion dysgu ychwanegol.
Ein hamcanion

Amcan 1
Sicrhau bod cyfnewidiau’n darparu’r effaith fwyaf
Sut?
- Byddwn yn sicrhau bod ein modelau ariannu yn cefnogi unigolion sydd â rhwystrau i gymryd rhan mewn cyfnewidiadau rhyngwladol.
- Byddwn yn cynnig cymorth ychwanegol i sefydliadau sy’n gweithio gyda phobl o gefndiroedd difreintiedig, pobl Anabl a phobl ag anghenion dysgu ychwanegol.
- Byddwn yn gweithio’n agos gyda rhanddeiliaid i ddeall y rhwystrau i gyfranogiad yn well a sicrhau bod y cymorth yn effeithiol.

Amcan 2
Ariannu prosiectau cyfnewid dysgu o safon uchel
Sut?
- Byddwn yn sicrhau bod ein gwybodaeth a’n prosesau yn hygyrch ac yn dryloyw.
- Byddwn yn gweinyddu proses asesu gadarn, annibynnol a thryloyw.
- Byddwn yn rhannu enghreifftiau o arfer gorau ac yn adeiladu cymunedau cydweithredol sy’n gallu cefnogi ei gilydd a’r rhai y mae cyfnewid rhyngwladol yn newydd iddynt.
- Byddwn yn ymgynghori’n helaeth ac yn ymateb i dystiolaeth i wella canlyniadau’r rhaglen yn barhaus.
- Byddwn yn sicrhau bod ein modelau ariannu yn annog partneriaethau rhyngweithiol ystyrlon a chyfnewid dwyochrog.

Amcan 3
Cefnogi arloesedd addysg yng Nghymru
Sut?
- Byddwn yn cefnogi cydweithrediad rhwng sefydliadau Cymreig ac arbenigwyr rhyngwladol ar brosiectau sydd o fudd i addysg yng Nghymru.
- Byddwn yn galluogi cyfranogwyr i rannu eu gwybodaeth, syniadau ac adnoddau ledled Cymru.
- Byddwn yn targedu cyllid ar gyfer prosiectau cydweithredol ym meysydd blaenoriaeth strategol.
Cwestiynau allweddol
Cyfle y mae unigolyn yn annhebygol o brofi heb gyllid Taith. Mae’r cyfleoedd yn gymharol, ac mae’r effaith yn gyfrannol. Dylai’r profiad fod â budd parhaol a phrofadwy; bydd yr effaith yn fwy i’r rhai sydd wedi cael ychydig iawn o gyfle neu ddim o gwbl i brofi teithio a diwylliant rhyngwladol.
Dylai prosiectau geisio ysbrydoli dysgwyr a chodi dyheadau. Dylai gweithgarwch staff greu buddion yn syth ac yn barhaol ar gyfer cenedlaethau o ddysgwyr a phobl ifanc.
Mae teithio a threulio amser oddi cartref yn datblygu hyder, annibyniaeth a gwytnwch.
Mae dysgu ochr yn ochr â chyfoedion rhyngwladol yn helpu cyfranogwyr i ddatblygu gwell ddealltwriaeth o wahanol ddiwylliannau ac ieithoedd.
Mae prosiectau cydweithredol rhyngwladol yn darparu cyfle i ddysgwyr, staff a sefydliadau weithio gyda’r esiamplau rhyngwladol gorau oll a dysgu oddi wrthynt.
Dim ond trwy gydweithrediad byd-eang y mae modd datrys heriau byd-eang. Mae Taith wedi ymrwymo i annog ymarfer cynaliadwy, gan gynnwys cyllid ychwanegol ar gyfer teithio sy’n fwy cynaliadwy yn amgylcheddol.
Mae Taith yn hwyluso prosiectau ar thema newid hinsawdd.

Effeithiau ehangach
Yn ogystal â’r effaith uniongyrchol ar ddysgwyr, staff a sefydliadau sy’n cymryd rhan yn y rhaglen, mae gan Taith ystod o effeithiau ehangach:
- Hyrwyddo diwylliant a threftadaeth Cymru a’r iaith Gymraeg;
- Hyrwyddo Cymru fel gwlad gydweithredol a chroesawgar sydd yn edrych tu hwnt i’w ffiniau;
- Ymgorffori ymagwedd ryngwladol yn y sectorau addysg ar draws Cymru;
- Ysgogi rhagoriaeth addysgol ac arloesedd i ategu strategaethau presennol Llywodraeth Cymru;
- Datblygu dysgu ieithoedd a dealltwriaeth rhyngddiwylliannol ar draws Cymru.

Strategaeth Taith
PDF – 3 MB
Ein strategaeth ar ei newydd wedd yn canolbwyntio ar wneud cyfnewid rhyngwladol yn fwy cynhwysol a hygyrch. Mae hyn yn golygu creu mwy o gyfleodd i bobl o gefndiroedd difreintiedig pobl o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig Pobl Anabl a phobl ag anghenion dysgu ychwanegol.
Cyhoeddwyd gyntaf: 9 Hydref 2023
Lawrlwytho PDF