Cysylltwch

Pwy ydyn ni

TrosolwgPwy ydyn niBeth rydyn ni’n wneudEin strategaethPartneriaid RhyngwladolNewyddion

Taith yw rhaglen cyfnewid dysgu rhyngwladol Cymru, sy’n creu cyfleoedd sy’n newid bywydau i ddysgu, astudio a gwirfoddoli ledled y byd. Darperir Taith gan International Learning Exchange Programme Limited (ILEP Ltd), is-gwmni sy’n eiddo llwyr i Brifysgol Caerdydd. Mae’r Bwrdd yn nodi gweledigaeth a chynllun strategol Taith i sicrhau ei lwyddiant hirdymor. Mae tîm rhaglen Taith yn gyfrifol am redeg y rhaglen o ddydd i ddydd. Cefnogir y Bwrdd a thîm rhaglen Taith gan Fwrdd Ymgynghori Taith sy’n arbenigwyr yn eu maes ac sydd yno i roi arweiniad ar faterion sy’n ymwneud â chyflwyno’r rhaglen. Sefydliadau allanol yw Hyrwyddwyr Taith sy’n hyrwyddo Taith ac yn rhoi cyngor ac arweiniad i sefydliadau eraill yn eu sector a byddant yn canolbwyntio’n benodol ar y rhai sy’n gweithio gyda’r pobl mwyaf difreintiedig, y rhai o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig, pobl Anabl a/neu’r rhai ag Anghenion Dysgu Ychwanegol. Mae Grwpiau Rhanddeiliaid y Sector yn agored i bawb sydd â diddordeb mewn cefnogi datblygiad parhaus a chyflwyniad Rhaglen Taith. Am ragor o wybodaeth am bob tîm, cliciwch ar yr adran berthnasol isod.

Collage o ddau lun ar bymtheg o aelodau tîm Taith

Tîm

Mae tîm rhaglen Taith yn gyfrifol am y gwaith o redeg y rhaglen o ddydd i ddydd.

Gludwaith o aelodau'r Bwrdd

Bwrdd ILEP Ltd

Y Bwrdd sydd â throsolwg gweithredol dros Taith a yn nodi gweledigaeth a chynllun strategol Taith i sicrhau ei lwyddiant hirdymor.

Gludwaith o aelodau'r Bwrdd Cynghori

Bwrdd Cynghori

Mae’r Bwrdd Cynghori yn cynghori’r tîm rhaglen ar ddatblygu a chyflwyno Taith.

Golygfa gefn o rywun sy’n edrych ar sgrin gyfrifiadurol.

Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg (ARAC)

Pwrpas y Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg (ARAC) yw goruchwylio Fframwaith Archwilio a Sicrwydd Taith a chyfrannu i ddatblygiad strategaeth yn gyd-destun rheoli risgiau.

Hyrwyddwyr Taith

Rôl Hyrwyddwyr Taith yw codi ymwybyddiaeth a hyrwyddo Taith ymhlith sefydliadau sydd yn eu sectorau perthnasol, yn ogystal â chynghori a chynorthwyo sefydliadau i wneud cais am gyllid a chynllunio a chynnal prosiectau.

Grŵp o bobl amrywiol mewn siwtiau yn eistedd o amgylch bwrdd gyda phapurau. Maen nhw'n edrych ar gyflwynydd a sgrîn gyda'r gair Dadansoddi arno. Mae bwrdd gwyn gyda nodiadau post-it yn y cefndir.

Grwpiau Rhanddeiliaid Sectorau

Mae Grwpiau Rhanddeiliaid Sectorau yn cefnogi datblygiad parhaus a darpariaeth rhaglen Taith ac yn rhoi cyfle rheolaidd i sefydliadau ymgynghori a darparu adborth ar bolisi, prosesau, a chyfathrebu rhaglenni.

Pump o bobl yn eistedd o amgylch bwrdd gyda gliniaduron, yn edrych fel eu bod yn cymryd rhan mewn sgwrs.

Pwyllgor Cyllido

Mae'r Pwyllgor Cyllido yn craffu ar gadernid proses asesu ceisiadau am gyllid Taith.

Pum myfyriwr aeddfed yn eistedd o amgylch bwrdd gyda gliniaduron a phapurau, yn gwenu ac yn edrych fel eu bod mewn sgwrs.

Chyfleoedd

Yma gallwch ddod o hyd i'r holl swyddi a chyfleoedd presennol

Dewch ar daith gyda ni

Cofrestrwch i fod ar ein rhestr bostio i gael y newyddion diweddaraf ynglŷn â’r rhaglen.

Drwy gofrestru, rydych chi’n cytuno â’n polisi preifatrwyddy, gan gynnwys trosglwyddo eich gwybodaeth i’n platfform marchnata, Mailchimp. Gallwch ddad-danysgrifio ar unrhyw adeg.