Cysylltwch

Partneriaid Rhyngwladol

TrosolwgBeth rydyn ni’n wneudEin strategaethPartneriaid RhyngwladolNewyddion
Rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru yw Taith sy’n galluogi pobl yng Nghymru i ddysgu, astudio, gwirfoddoli a gweithio ym mhedwar ban byd, wrth ei gwneud hi’n bosib i sefydliadau yng Nghymru wahodd partneriaid a dysgwyr rhyngwladol i wneud yn debyg yma yng Nghymru.

 

Dull cydweithredol

Anogir cydgyfnewidiaeth ac mae egwyddorion cydgyfnewidiaeth a dysgu a rennir yn hanfodol i Taith. Felly, mae gennym ni gyllid ychwanegol hyd at 30% ar gael, y gall sefydliadau o Gymru gyflwyno cais ar ei gyfer, i gyllido gweithgareddau partneriaid rhyngwladol.

Dylai sefydliadau rhyngwladol sydd â phartneriaid sefydledig yng Nghymru mae ganddynt ddiddordeb mewn cefnogi rhaglenni cyfnewid gysylltu â’u partneriaid yng Nghymru i drafod a ydynt yn cynllunio anfon myfyrwyr dramor drwy Taith ac archwilio’r cyfleoedd sydd ar gael ar gyfer cytundebau cydgyfnewid.

Ar gyfer sefydliadau rhyngwladol sy’n dymuno creu partneriaethau yng Nghymru, ystyriwch gwblhau’r ffurflen isod i gofrestru eich diddordeb. Byddwn yn cadw eich manylion ar gronfa ddata i’w rhannu gyda sefydliadau yng Nghymru sy’n chwilio am bartner addas. Sylwer na fydd cwblhau’r ffurflen hon yn gwarantu y caiff partneriaeth ei chreu.

Mae’r holl wledydd yn gymwys i dderbyn cyfranogwyr o Gymru, yn unol ar gyngor teithio gan Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu (FCDO) y DU. Bydd cyrchfan dysgwyr neu staff yn dibynnu ar ble mae sefydliadau Cymru yn trefnu eu cyfleoedd a lle nad oes gwledydd neu bynciau academaidd blaenoriaeth.

Cofrestru eich diddordeb

Dewch ar daith gyda ni

Cofrestrwch i fod ar ein rhestr bostio i gael y newyddion diweddaraf ynglŷn â’r rhaglen.

Drwy gofrestru, rydych chi’n cytuno â’n polisi preifatrwyddy, gan gynnwys trosglwyddo eich gwybodaeth i’n platfform marchnata, Mailchimp. Gallwch ddad-danysgrifio ar unrhyw adeg.