Cwynion
Diffinnir cwyn yn anfodlonrwydd â gwasanaeth y bydd Taith yn ei roi’n uniongyrchol. Os bydd y gŵyn yn ymwneud â gwasanaeth gan sefydliad sy’n fuddiolwr neu’n gyd-fuddiolwr ac sydd wedi cael ei ariannu gan y rhaglen, dilynwch weithdrefn gwyno’r sefydliad sy’n fuddiolwr neu’n gyd-fuddiolwr cyn cyflwyno cwyn i Taith. Gallwch gyflwyno cwyn i Taith unrhyw bryd yn ystod y broses o wneud cais neu ar bob cam o broses y prosiect.
Cyflwynwch eich cwyn yn ysgrifenedig gan ddefnyddio’r Ffurflen Gwyno a’i hebostio atom gyda’r testun ‘Cwyn’ i ymholiadau@taith.cymru
Bydd tîm Taith yn ystyried pob cwyn. Os bydd cwyn yn dod i law, ei nod yw cydnabod derbyn y gŵyn cyn pen un diwrnod gwaith ac ateb y gŵyn yn llawn cyn pen 10 diwrnod gwaith. Weithiau, bydd hyn yn cymryd rhagor o amser gan fod rhai cwynion yn gymhleth. Mewn achos o’r fath, bydd Taith yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r achwynydd am ei gŵyn
Apeliadau
Diffinnir apêl yn gais i adolygu penderfyniad a wnaed gan Taith os bydd ymgeisydd yr apêl yn ystyried nad yw gweithdrefnau’r rhaglen gyhoeddedig wedi cael eu dilyn. Dim ond sefydliad sy’n gwneud cais (y person neu’r sefydliad sy’n cyflwyno cais am grant i Taith) all gyflwyno apêl, os bydd ymgeisydd yr apêl yn gallu rhoi tystiolaeth o gamgymeriad gweinyddol gan Taith neu os na chadwyd at weithdrefnau cyhoeddedig. Ni ellir ystyried gwybodaeth na chafodd ei chynnwys yn y cais gwreiddiol.
Yn achos buddiolwyr Taith (y person neu’r sefydliad sy’n llofnodi Llythyr Dyfarnu Grant Taith), gellir ystyried apeliadau mewn perthynas â dyfarniad y grant os bydd tystiolaeth o gamgymeriad gweinyddol neu os na chadwyd at amodau arbennig ac atodiadau’r Llythyr Dyfarnu Grant. Dim ond un apêl fesul cais y gellir ei wneud.
Dylid cyflwyno apeliadau o fewn yr amserlenni a ganlyn:
- Yn achos apeliadau sy’n ymwneud â chais sydd heb fod yn gymwys – dylid cyflwyno’r ffurflen cyn pen 10 diwrnod calendr wedi ichi gael gwybod am y penderfyniad.
- Yn achos apeliadau sy’n ymwneud â phenderfyniadau eraill gan Taith – dylid cyflwyno’r ffurflen cyn pen 30 diwrnod calendr wedi ichi gael gwybod am y penderfyniad
Cyflwynwch eich apêl yn ysgrifenedig gan ddefnyddio’r Ffurflen Apelio a’i hebostio gyda’r testun ‘Apêl’ i ymholiadau@taith.cymru
Os bydd apêl yn dod i law, nod Taith yw cydnabod hynny’n ysgrifenedig cyn pen 3 diwrnod gwaith. Nod Taith yw ateb yr apelydd yn llawn gan roi gwybod am benderfyniad yr apêl, a hynny yn ysgrifenedig, cyn pen 10 diwrnod gwaith ar ôl cydnabod ei derbyn. Weithiau, bydd hyn yn cymryd rhagor o amser gan fod rhai apeliadau’n gymhleth. Yn yr achosion hyn, bydd Taith yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r ymgeiswyr ynghylch cynnydd yr apêl.
Dim ond os gall yr apelydd roi tystiolaeth o gamgymeriad gweinyddol neu fethiant i ddilyn gweithdrefnau cyhoeddedig gan Taith y gellir ystyried apêl. Os nad yw’r amgylchiadau hyn yn berthnasol, cyfeiriwch at Weithdrefn Gwyno Taith.
Adborth
Rydym yn croesawu eich adborth a’ch sylwadau cyffredinol ynghylch yr hyn rydym yn ei wneud gan fod hyn yn ein helpu i ddeall yr hyn sy’n ddefnyddiol. Mae hefyd yn dangos y newidiadau neu’r gwelliannau posibl o ran y ffordd rydym yn rhoi Taith ar waith.
Ebostiwch ymholiadau@taith.cymru gan gynnwys y testun ‘Adborth’.