Cysylltwch

Astudiaethau achos Taith: Llwybr 1 – symudedd

Yn y bôn, mae astudiaeth achos yn adrodd hanes y symudedd a ariannwyd gan Taith y buoch yn ymgymryd ag ef, ac mae’n gyfle i drafod eich profiadau ac uchafbwyntiau’r daith. Bydd astudiaethau achos yn cael eu defnyddio ar wefan Taith ac yn cael eu hyrwyddo ar gyfryngau cymdeithasol, ac mae’n bosib y bydd Llywodraeth Cymru, ein Cyrff Trefnu Sectorau, a sefydliadau eraill perthnasol hefyd yn eu rhannu.

Diben astudiaeth achos yw rhoi’r cyfle i gynulleidfa eang (gan gynnwys y rhai nad oes ganddynt efallai unrhyw wybodaeth ynghylch Taith neu symudeddau yn gyffredinol), gael clywed am brofiadau go iawn pobl sydd wedi ymgymryd â chyfleoedd sydd ar gael drwy arian Taith, a dangos yr effaith y mae’r symudeddau i Gymru, ac allan o Gymru yn eu cael ar ystod eang o unigolion, grwpiau a’r gymuned ehangach.

Rydym yn gwerthfawrogi’n fawr eich bod wedi cytuno i rannu eich profiad gyda ni ac rydym wedi nodi rhai cwestiynau isod. Arweiniad yn unig yw’r rhain felly mae croeso i chi rannu unrhyw wybodaeth yr hoffech. Mae’n debygol y bydd y wybodaeth y byddwch yn ei rhoi yn cael ei golygu i gyd-fynd â’n canllaw arddull tŷ a chyfyngiadau ar nifer geiriau, ond gallwch fod yn dawel eich meddwl na chaiff fersiwn derfynol ei chyhoeddi hyd nes y bydd cymeradwyaeth lawn wedi’i chytuno.

Mae’n bosibl, o dro i dro, y bydd dyfyniadau o’ch astudiaeth achos yn cael eu cymryd a’u defnyddio fel darn unigol o ddeunydd hyrwyddo ar gyfer rhai platfformau (hy gallai dyfyniad gan rywun yn rhan o astudiaeth achos yn dweud “Cawsom y profiad gorau erioed ar ein ymweliad a ariannwyd gan Taith i Seland Newydd” gael ei dynnu allan a’i ddefnyddio ar y cyfryngau cymdeithasol neu mewn taflen) ond byddai’r geiriad/cyd-destun yn aros fel y cytunwyd pan roddwyd cymeradwyaeth derfynol yn rhan o’r astudiaeth achos yn ei chyfanrwydd.

Syniadau o ran cwestiynau

  • Eich enw:
  • Enw’r sefydliad/ysgol/prifysgol (ac ati):
  • Ble aethoch chi ac am ba hyd?
  • Pwy aeth ar y daith?
  • Pwy drefnodd y daith / ymgeisiodd am arian Taith? (a wnaed hyn yn uniongyrchol gennych chi neu drwy gonsortiwm?)
  • Soniwch wrthym am eich sefydliad partner (pwy, sut, pam ac ati):
  • Beth oedd pwrpas/ nodau eich taith? (a pham?)
  • Soniwch am rai o’r gweithgareddau y gwnaethoch chi a’ch grŵp gymryd rhan ynddynt (gan gynnwys rhywfaint o adborth arnynt).
  • Beth oedd uchafbwynt y profiad a pham?
  • Wnaethoch chi lwyddo i gyflawni’r nodau roeddech chi wedi bwriadu’u cyflawni? A fu effaith ar yr unigolion / grŵp / sefydliad / y gymuned ehangach o ganlyniad i’ch profiadau?
  • Disgrifiwch sut mae gweithgareddau prosiect wedi effeithio ar fuddiolwyr, eich sefydliad, sector addysg neu yn fwy eang:
  • Sut brofiad oedd gwneud cais am arian Taith, a llwyddo?
  • Sut glywsoch chi am Taith am y tro cyntaf?
  • A fyddech chi’n gwneud cais am arian gyda ni eto?
  • A fyddech chi’n annog sefydliadau eraill i wneud cais am arian Taith? Pa un darn o gyngor fyddech chi’n ei roi iddyn nhw?

Delweddau:

Mae angen ffotograffau o’ch symudedd i gyd-fynd â’ch astudiaeth achos. Rhaid i bob llun a gynhwysir fod yn amodol ar roi caniatâd i ddefnyddio’r llun (hy ffurflenni caniatâd llun a drefnir gan ysgol).

Cysylltwch â:

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch cyflwyno astudiaeth achos ar gyfer Taith, cysylltwch â cefnogaeth@taith.cymru

Templedi cyfryngau a chanllawiau brandio

Dewch ar daith gyda ni

Cofrestrwch i fod ar ein rhestr bostio i gael y newyddion diweddaraf ynglŷn â’r rhaglen.

Drwy gofrestru, rydych chi’n cytuno â’n polisi preifatrwyddy, gan gynnwys trosglwyddo eich gwybodaeth i’n platfform marchnata, Mailchimp. Gallwch ddad-danysgrifio ar unrhyw adeg.