Cysylltwch

Astudiaethau achos Taith — straeon personol

Yn y bôn, mae astudiaeth achos yn adrodd hanes y symudedd a ariannwyd gan Taith y buoch yn ymgymryd ag ef, ac mae’n gyfle i drafod eich profiadau ac uchafbwyntiau’r daith.

Bydd astudiaethau achos yn cael eu defnyddio ar wefan Taith ac yn cael eu hyrwyddo ar gyfryngau cymdeithasol, ac mae’n bosib y bydd Llywodraeth Cymru, ein Cyrff Trefnu Sectorau, a sefydliadau eraill perthnasol hefyd yn eu rhannu.

Diben astudiaeth achos yw rhoi’r cyfle i gynulleidfa eang (gan gynnwys y rhai nad oes ganddynt efallai unrhyw wybodaeth ynghylch Taith neu symudeddau yn gyffredinol), gael clywed am brofiadau go iawn pobl sydd wedi ymgymryd â chyfleoedd sydd ar gael drwy arian Taith, a dangos yr effaith y mae’r symudeddau i Gymru, ac allan o Gymru yn eu cael ar ystod eang o unigolion, grwpiau a’r gymuned ehangach.

Un o’r ffyrdd mwyaf pwerus ac effeithiol o gyfleu’r neges hon yw canolbwyntio ar straeon personol unigolion sydd wedi cael profiad gwirioneddol sy’n newid eu bywyd. Gallai fod yn unigolyn o gefndir drafferthus sydd wedi cael problemau yn y gorffennol, neu rywun o ardal ddifreintiedig nad yw erioed wedi cael cyfle i deithio dramor o’r blaen. Rydym am glywed sut mae eich profiad a ariennir gan Taith wedi bod yn un bythgofiadwy ac wedi effeithio’n gadarnhaol ar eu bywyd, neu hyd yn oed wedi ei newid.

Rydym yn gwerthfawrogi’n fawr eich bod wedi cytuno i rannu eich profiadau gyda ni ac rydym wedi cynnwys rhai cwestiynau isod. Arweiniad yn unig yw’r rhain felly mae croeso ichi rannu unrhyw wybodaeth a ddymunwch. Mae’n debygol y bydd yr wybodaeth y byddwch yn ei rhoi yn cael ei golygu i gyd-fynd â’n harddull mewnol a’r cyfyngiadau ar nifer y geiriau, ond gallwch fod yn dawel eich meddwl na chaiff fersiwn derfynol ei chyhoeddi hyd nes y byddwch wedi cymeradwyo’r testun yn llawn.

Mae’n bosibl, o dro i dro, bydd dyfyniadau o’ch astudiaeth achos yn cael eu cymryd a’u defnyddio’n ddarn unigol o ddeunydd hyrwyddo ar gyfer rhai platfformau (h.y. gallai dyfyniad gan rywun yn rhan o astudiaeth achos yn dweud “Wnes i erioed feddwl y gallai hyn ddigwydd i rywun fel fi, ond mae teithio dramor am y tro cyntaf a phrofi diwylliant newydd wedi bod yn ysbrydoledig ac wedi rhoi nodau ac uchelgeisiau i mi na allwn fod wedi’u dychmygu o’r blaen” gael ei dynnu allan a’i ddefnyddio ar y cyfryngau cymdeithasol neu mewn taflen) ond byddai’r geiriau/cyd-destun yn aros fel y cytunwyd pan roddwyd cymeradwyaeth derfynol yn rhan o’r astudiaeth achos yn ei gyfanrwydd.

Syniadau ar gyfer cwestiynau

  • Eich enw:
  • O ble ydych chi’n dod? (ardal/tref):
  • Enw’r sefydliad/ysgol/prifysgol (ac ati):
  • Dywedwch ychydig wrthym amdanoch chi a’ch cefndir:
  • Ble aethoch chi ac am ba hyd?
  • Pwy aeth ar y daith?
  • Ai hwn oedd eich tro cyntaf i chi fynd dramor? (os do, sut oeddech chi’n teimlo amdano?)
  • Sut wnaethoch chi gymryd rhan yn y daith hon? Beth oedd yr amgylchiadau a arweiniodd atoch chi’n gallu cymryd rhan?
  • Soniwch am rai o’r gweithgareddau y gwnaethoch chi gymryd rhan ynddynt (gan gynnwys rhywfaint o adborth arnynt).
  • Beth oedd uchafbwynt y profiad i chi a pham?
  • Beth oedd pwrpas/ nodau eich taith? (a pham?)
  • Wnaethoch chi lwyddo i gyflawni’r nodau roeddech chi wedi bwriadu’u cyflawni?
  • Sut mae’r profiad hwn wedi effeithio arnoch chi? A yw wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol? (os felly, pam, sut, ac ati)
  • Pa un darn o gyngor fyddech chi’n ei roi i rywun sydd mewn sefyllfa debyg i chi’ch hun a fyddai’n cael y cyfle i gymryd rhan mewn symudedd rhyngwladol ond a allai fod yn rhy ofnus/nerfus ac ati?

Lluniau:

Mae angen lluniau o gyfnod eich symudedd i gyd-fynd â’ch astudiaeth achos. Mae’n rhaid cael caniatâd i ddefnyddio pob llun (h.y. ffurflenni cydsyniad lluniau a drefnwyd gan yr ysgol).

Cysylltwch â:

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am rannu astudiaeth achos Taith gyda ni, ebostiwch cefnogaeth@taith.cymru

Templedi cyfryngau a chanllawiau brandio

Dewch ar daith gyda ni

Cofrestrwch i fod ar ein rhestr bostio i gael y newyddion diweddaraf ynglŷn â’r rhaglen.

Drwy gofrestru, rydych chi’n cytuno â’n polisi preifatrwyddy, gan gynnwys trosglwyddo eich gwybodaeth i’n platfform marchnata, Mailchimp. Gallwch ddad-danysgrifio ar unrhyw adeg.