Cysylltwch
Cyhoeddi Digidol

Taith Llwybr 1 Symudedd Cyfranogwyr 2024

Addysg Oedolion Version 1.0, January 2024

Geirfa

Consortiwm
Dau neu ragor o sefydliadau sy'n cydweithio i ddatblygu a chyflawni prosiect. Rhaid dynodi un sefydliad fel y ‘sefydliad sy’n ymgeisio’, sydd yn paratoi cais ar ei ran ei hun ac o leiaf un sefydliad cymwys arall.
Costau cymwys
Swm y grant sy'n gysylltiedig â chynnal gweithgareddau prosiect.
Cyfraddau grant
Cyfraddau sefydlog sydd ar gael ar gyfer costau cymwys gwahanol.
Cyfranogwr difreintiedig
Unrhyw gyfranogwyr (dysgwr neu staff) sydd yn bodloni un neu ragor o feini prawf Taith a byddant yn gymwys i gael cymorth ariannol ychwanegol. Mae rhagor o fanylion yn Adran 4.4.
Cyfranogwr
Unigolyn sy'n ymgymryd â gweithgaredd symudedd rhyngwladol ffisegol/rhithwir neu gyfunol mewn prosiect a ariennir gan Taith.
Cyllid dwbl
Ariennir y costau ar gyfer yr un gweithgaredd ddwywaith drwy ddefnyddio arian cyhoeddus. Er eglurder, ni chaniateir hyn ac ystyrir ei fod yn torri telerau ac amodau'r Cytundeb Grant.
Cyllideb prosiect
Cyfanswm yr arian a ddyrannwyd ar gyfer gweithgareddau y cytunwyd arnynt o fewn prosiect a ariennir gan Taith.
Cynhaliaeth
Cyllid sydd ar gael i dalu costau byw, a all gynnwys llety, bwyd a thrafnidiaeth lleol, tra’n ymgymryd â gweithgaredd symudedd ffisegol.
Cynrychiolydd cyfreithiol
Y person sydd â chyfrifoldeb cyfreithiol i gynrychioli sefydliad ac sydd â'r awdurdod cyfreithiol i ymrwymo i gontract cyfreithiol rwymol, gan gynnwys, yng nghyd-destun Taith, yr awdurdod i lofnodi Cytundeb Grant.
Cytundeb Grant
Y cytundeb ysgrifenedig rhwng Taith a'r Buddiolwr yn manylu ar delerau ac amodau’r dyfarniad grantyn unol â'r ffurflen gais a fydd wedi'i hasesu'n annibynnol i fod yn gyllidadwy ac a fydd wedi'i chymeradwyo gan International Learning Exchange Programme Limited i gael ei chyllido.
Deilliannau dysgu
Datganiadau o'r hyn y bydd dysgwr yn ei wybod, yn ei ddeall ac yn gallu ei wneud ar ôl cwblhau proses ddysgu (yn cynnwys gweithgarwch yn rhan o’r prosiect, cyfleoedd dysgu – gall y rhain fod yn ffurfiol, heb fod yn ffurfiol neu’n anffurfiol).
Derbynwyr Grant
Pan gaiff ei gymeradwyo ar gyfer cyllid prosiect, daw'r sefydliad sy'n gwneud cais yn Dderbynnydd Grant ac mae'n gyfrifol am lofnodi'r cytundeb grant.
Dyddiad cau ar gyfer gwneud cais
Y dyddiad a'r amser olaf y gellir cyflwyno'r holl ffurflenni cais er mwyn i Taith eu hystyried a'u hasesu.
Dysgu anffurfiol
Dysgu sy'n digwydd y tu allan i raglen ddysgu sydd wedi’i threfnu neu’i strwythuro ac nid oes cymorth dysgu yn bresennol. Cyfeirir atynt weithiau fel dysgu drwy brofiad neu achlysurol.
Dysgu heb fod yn ffurfiol
Dysgu sy'n digwydd y tu allan i unrhyw raglen ddysgu sydd wedi’i threfnu neu’i strwythuro ond mae rhywfaint o gymorth dysgu yn bresennol.
Dysgu ffurfiol
Unrhyw ddysgu sy'n digwydd yn rhan o raglen ddysgu sydd wedi’i threfnu neu’i strwythuro.
Dysgwr/raig
Unigolyn sy'n cymryd rhan mewn dysgu ffurfiol, anffurfiol neu heb fod yn ffurfiol gyda sefydliad cymwys. Mae gan bob sector feini prawf penodol. Mae meini prawf cymhwysedd yn amrywio rhwng pob sector.
Galwad cyllid
Y cyfnod pryd gellir cyflwyno ceisiadau am gyllid.
Grant
Y cyllid a ddyfernir gan Taith i sefydliad sy’n gwneud cais llwyddiannus.
Gweithgaredd cymwys
Gweithgaredd sy'n bodloni'r meini prawf a nodir yng Nghanllaw Rhaglen Taith.
Mis
Wrth gyfrifo swm y grantiau Taith, mae mis yn 28 diwrnod.
Partneriaeth
Cytundeb ffurfiol rhwng dau neu ragor o sefydliadau i gymryd rhan mewn prosiect a ariennir gan Taith ac i gymryd rhan mewn gweithgareddau a phrofiadau dysgu ar y cyd.
Person sy’n gwmni
Oedolyn, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, aelodau staff y sefydliad neu bartner consortiwm sy'n gwneud cais, fydd gyda’r dysgwyr mewn gweithgaredd symudedd ac yn eu cefnogi i sicrhau eu bod yn cael y budd mwyaf posibl o'r gweithgareddau.
Prosiect
Gweithgareddau wedi'u trefnu a'u cynllunio y cytunir arnynt er mwyn cyflawni amcanion a deilliannau clir.
Rhyngwladol
Yng nghyd-destun Taith, unrhyw wlad y tu allan i'r Deyrnas Unedig.
Sefydliad cymwys
Sefydliad sy'n gallu gwneud cais am gyllid Taith.
Sefydliad partner
Unrhyw sefydliad sy'n ymwneud yn ffurfiol â phrosiect a ariennir gan Taith, lle mae perthynas neu ryngweithio’n rhan o’r prosiect. Gall gynnwys y sefydliadau hynny a nodwyd fel sefydliad sy’n gwneud cais, cydlynydd, sefydliad sy'n derbyn neu sefydliad sy'n anfon yn ogystal ag eraill sy'n ymwneud â chyflawni'r prosiect.
Sefydliad sy'n gwneud cais
Y sefydliad yng Nghymru sy'n cyflwyno cais am gyllid i Taith. Gall sefydliad sy'n gwneud cais wneud hynny naill ai'n unigol neu ar ran consortiwm, sy'n cynnwys sefydliadau eraill sy'n ymwneud â'r prosiect.
Sefydliad sy'n derbyn
Pan fydd unigolion neu grwpiau'n cymryd rhan mewn gweithgaredd symudedd corfforol drwy Taith, y sefydliad sy'n derbyn fydd eu sefydliad lletyol. Gellir cyfeirio at y sefydliad hwn yn aml fel lletywr neu bartner sefydliad rhyngwladol. Diffinnir sefydliadau derbyn cymwys adran 3.2.
Sefydliadau sy’n anfon
sydd wedi'u cofrestru ac sy’n gweithredu y tu allan i'r DU ac yn anfon cyfranogwyr i sefydliad lletyol yng Nghymru yn ystod gweithgareddau symudedd ffisegol. Diffinnir sefydliadau anfon cymwys yn adran 3.3.
Staff
Person sy'n cael ei gyflogi gan sefydliad sy’n gymwys, neu'n gweithio iddo, boed ar sail broffesiynol neu wirfoddol.
Symudedd allanol
Cyfranogwyr o sefydliadau cymwys yng Nghymru sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau a gefnogir gan Taith mewn sefydliadau sy'n derbyn y tu allan i'r DU (neu mewn amgylchiadau eithriadol yn unig, y tu allan i Gymru mewn sefydliadau sy'n derbyn yng ngweddill y DU).
Symudedd corfforol
Symud yn gorfforol i wlad ar wahân i'r wlad breswyl i gymryd rhan mewn gweithgarwch prosiect a/neu gyfle dysgu ffurfiol, heb fod yn ffurfiol neu anffurfiol.
Symudedd
Cyfnod yn dysgu dramor. Caniateir symudedd yn y DU fel rhan o symudedd rhagarweiniol – gweler adran 3.4.1 am fanylion.
Symudedd mewnol
Cyfranogwyr o sefydliadau anfon cymwys sy'n dod i Gymru i gymryd rhan yn un o raglenni Taith.
Symudedd rhithwir
Cymryd rhan mewn gweithgarwch prosiect ar-lein yn unig a/neu gyfle dysgu ffurfiol, heb fod yn ffurfiol neu anffurfiol, lle mae cyfranogwyr yn cymryd rhan mewn cyfleoedd dysgu gan ddefnyddio platfformau neu offer dysgu ar-lein a hynny mewn cydweithrediad ag o leiaf un sefydliad mewn gwlad arall.
Teithio Gwyrdd
Dulliau trafnidiaeth cynaliadwy, h.y. teithio sy'n defnyddio dulliau trafnidiaeth ag allyriadau isel ar gyfer prif ran y daith. Er enghraifft, bysiau, trenau neu rannu ceir.