Mae Llwybr 1 2025 ar agor

Cysylltwch
Cyhoeddi Digidol

Taith Llwybr 1 Symudedd Cyfranogwyr 2024

Addysg Uwch Version 1.0, January 2024

2. Amserlen a Chyllideb Llwybr 1

Mae'r llun yn dangos pum myfyriwr yn gwenu ar y camera mewn ystafell aros maes awyr gydag awyren i'w gweld trwy ffenestr yn y cefndir. Five students smiling at the camera in an airport waiting room with an airplane visible through a window in the background.

2.1. Amserlen

Dyddiadau

31 Ionawr 2024

Agor galwad gyllid Llwybr 1 (2024). 

20 Mawrth 2024, 12yp:

Dyddiad cau. Ni asesir ceisiadau a gyrhaeddith ar ôl y dyddiad cau

Mehefin 2024

Bydd hysbysiad canlyniad yn cael ei anfon at bob sefydliad sy’n gwneud cais. 

1 Medi 2024

Gall prosiectau ddechrau. 

2.2. Cyllideb ar gael

Cyfanswm y swm a ddyrannwyd i’r sector Addysg Uwch yng Nghymru yng ngalwad Llwybr 1 2024 yw £1,500,000

Mae cynhwysedd a hygyrchedd yn ffocws strategol ar gyfer Taith ac mae’r rhaglen yn ceisio ariannu cymaint ag y bo modd ac ystod mor eang o sefydliadau. O’r herwydd, ni fydd unrhyw sefydliad yn gallu gwneud cais am fwy na 40% o gyllideb y sector dangosol cyhoeddedig.

Ar gyfer galwad ariannu Pathway 1 2024, bydd un cais unigol ar gyfer gweithgareddau Addysg ac Ymchwil Addysg Uwch. Mater i’r prifysgolion unigol sy’n gwneud cais yw penderfynu faint o gyllid i ofyn amdano a’i ddyrannu ar gyfer gweithgareddau Addysg ac Ymchwil.