Mae’r ddogfen hon yn ymwneud yn benodol â galwad cyllid ar gyfer Llwybr 1 Taith (2024) ar gyfer y sector Addysg Uwch. Ceir gwybodaeth gyffredinol am raglen Taith, gan gynnwys pwrpas ac amcanion Taith, y broses asesu a’r gwaith rheoli prosiect yng Nghanllaw y Rhaglen. Dylai pob ymgeisydd ddarllen drwy Ganllaw’r Rhaglen yn ogystal â’r wybodaeth benodol am y Llwybr dan sylw a gynhwysir yn y ddogfen hon cyn cwblhau cais.
1. Taith Llwybr 1
1.1. Cyflwyniad i Lwybr 1
Mae cyfnewid ryngwladol yn gyfnewid dysgu rhwng unigolyn neu grŵp o bobl o Gymru, ac unigolyn neu grŵp o bobl o wlad arall. Mae’r cyfnewid hwn yn ei gwneud hi’n bosib i gyfranogwyr ddysgu gan ei gilydd, i rannu profiadau a meithrin cyfeillgarwch.
Mae Llwybr 1 yn cefnogi cyfnewid dysgu rhyngwladol drwy symudedd allanol (sef cyfranogwyr yn mynd o Gymru) a mewnol (sef cyfranogwyr yn dod i Gymru) o naill ai grŵpiau neu unigolion sy’n gyfranogwyr. Mae cyllid ar gael i ddysgwyr, pobl ifanc a staff i ymgymryd â chyfnewid rhyngwladol, a,gyufnod byr neu hir, sy’n cynnig cyfleoedd i rannu dysgu, profi diwylliannau gwahanol a datblygu sgiliau newydd.
Mae Taith yn ymrwymedig i sicrhau bod cyfnewid rhyngwladol yn fwy cynhwysol a hygyrch. Mae ein strategaeth ar ei newydd wedd yn canolbwyntio ar gefnogi pobl sydd wedi’u tangynrychioli mewn cyfnewid rhyngwladol yn y gorffennol i gyrchu cyfleoedd. Mae hyn yn cynnwys pobl o gefndiroedd difreintiedig, cefndiroedd lleiafrifoedd ethnig, pobl Anabl a phobl ag anghenion dysgu ychwanegol.
Rhaid i sefydliadau sy’n cyflwyno cais ddangos y byddant yn cynnig cyfleoedd i’r rhai hynny a fyddai’n annhebygol o gael y cyfle i brofi symudedd rhyngwladol heb gyllid Taith. Er mwyn i raglenni cyfnewid Llwybr 1 ddarparu’r effaith fwyaf, rhaid i 25% neu fwy o ddysgwyr, neu bobl ifanc, sy’n gyfranogwyr prosiect fod o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli. Mae symudedd staff yn unig yn bosibl, ond rhaid bod ganddynt effaith glir y gellir ei dangos ar y dysgwyr, neu’r bobl ifanc, maent yn gweithio gyda nhw, yn enwedig y rhai hynny o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli.
Mae cyllid Taith yn cefnogi unigolion sy’n wynebu rhwystrau i allu cymryd rhan mewn cyfnewid ryngwladol. Mae model grantiau Taith yn cynnwys cymorth ariannol ychwanegol i dynnu’r rhan fwyaf o’r rhwystrau ariannol i bobl sy’n dod o gefndiroedd difreintiedig, pobl Anabl a phobl ag anghenion dysgu ychwanegol. Gweler Atodiad 1 o’r Canllaw Llwybr hwn am ragor o wybodaeth.
Mae Taith hefyd yn cynnig cymorth ychwanegol i sefydliadau sy’n gweithio gyda’r bobl fwyaf difreintiedig, y rhai hynny o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig a phobl Anabl a/neu’r rhai hynny ag Anghenion Dysgu Ychwanegol drwy ein Hyrwyddwyr Taith. Ceir rhagor o wybodaeth yma.
1.2. Symudedd mewnol (Dwyochredd)
Mae cyfnewid dwy ffordd a rhannu dysgu yn rhan allweddol o Lwybr 1, ac mae cyllid ar gael i ddysgwyr a staff rhyngwladol deithio i Gymru i ddysgu, gweithio a gwirfoddoli.
Yn seiliedig ar swm y cyllid y gwneir cais amdano am symudedd allanol, gall sefydliadau wneud cais am hyd at 30% ychwanegol i ariannu symudedd mewnol i Gymru. Rhaid i gyfranogwyr ar raglenni cyfnewid mewnol aros yng Nghymru yn ystod y symudedd.
1.3. Sectorau cymwys
Mae Llwybr 1 yn agored i holl sectorau Taith:
- Ysgolion
- Ieuenctid
- Addysg Oedolion
- Addysg Bellach (AB) ac Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol (AHG)
- Addysg Uwch (AU)
1.4. Cynaliadwyedd
Mae Taith yn ariannu costau teithio miloedd o deithiau rhyngwladol, y mae’r rhan fwyaf ohonynt yn docynnau awyren, sy’n arwain at ôl troed carbon sylweddol. Mae tystiolaeth ddigonol bod manteision i gyfnewid rhyngwladol corfforol sy’n newid bywydau, ond mae hefyd yn bwysig bod Taith yn cyfrannu (lle bo’n bosibl) at liniaru effaith amgylcheddol teithio rhyngwladol.
Mae Taith yn rhaglen fyd-eang, gan ddarparu’r cyfle i unigolion i ddysgu, gweithio a gwirfoddoli mewn gwledydd ledled y byd. Er mwyn sicrhau bod y rhaglen mor gynaliadwy â phosib, bydd rhaid i sefydliadau sy’n cyflwyno cais roi manylion am eu rhesymeg dros y gyrchfan/cyrchfannau maent yn cyflwyno cais iddynt, gan ddarparu esboniad clir o ran pam mai’r wlad honno/y gwledydd hynny yw’r opsiwn gorau ar gyfer y cyfranogwyr. Bydd aseswyr yn ystyried hyn fel rhan o’r broses asesu, yn enwedig y cyrchfannau hynny a fydd yn creu ôl troed carbon mwy.
Anogir teithio gwyrdd (trên, bws/coets, rhannu car) lle bo’n bosib. Oherwydd gall yr opsiynau hynny arwain at gostau uwch, gall prosiectau sy’n defnyddio teithio gwyrdd am yr holl daith (i’r gyrchfan ac oddi yno) wneud cais yn dilyn y cais gwreiddiol am gostau teithio gwirioneddol (lle mae’r costau’n uwch na’r gyfradd teithio a ddyrannwyd). Byddai angen tystiolaeth o’r gwerth gorau am arian fel rhan o’r cais hwn am gyllid ychwanegol.
Mae’n bosib i gyfranogwyr ymgymryd â mwy nag un symudedd Taith. Serch hynny, ni chaniateir i ddysgwyr sy’n gyfranogwyr deithio i’r un gyrchfan mwy nag unwaith mewn un prosiect unigol. Gall cyfranogwyr sy’n staff deithio i’r un gyrchfan mwy nag unwaith ar gyfer ymweliad paratoadol a/neu fel person sy’n mynd gyda chyfranogwyr yn ogystal â chymryd rhan mewn un gweithgaredd staff cymwys.