Mae Llwybr 1 2025 ar agor

Cysylltwch
Cyhoeddi Digidol

Taith Llwybr 1 Symudedd Cyfranogwyr 2024

Ieuenctid Version 1.0, January 2024

2. Amserlen a Chyllideb Llwybr 1

Llinell o bobl yn sefyll mewn eira i gael tynnu eu llun; maent yn gwenu at y camera. Ceir coed yn y cefndir hefyd.

2.1. Amserlen

Dyddiadau

31 Ionawr 2024

Agor galwad gyllid Llwybr 1 (2024).  

20 Mawrth 2024, 12yp

Dyddiad cau. Ni asesir ceisiadau a gyrhaeddith ar ôl y dyddiad cau.

Mehefin 2024

Bydd hysbysiad canlyniad yn cael ei anfon at bob sefydliad sy’n gwneud cais.  

1 Medi 2024

Gall prosiectau ddechrau.  

2.2. Cyllideb ar gael

Cyfanswm y swm a ddyrannwyd i’r sector Ieuenctid yng Nghymru yng ngalwad Llwybr 1 2024 yw £650,000.  

Mae cynhwysedd a hygyrchedd yn ffocws strategol ar gyfer Taith ac mae’r rhaglen yn ceisio ariannu cymaint ag y bo modd ac ystod mor eang o sefydliadau. O’r herwydd, ni fydd unrhyw sefydliad yn gallu gwneud cais am fwy na 40% o gyllideb y sector dangosol cyhoeddedig.