7. Beth fydd yn digwydd os bydd eich cais yn llwyddiannus
Ar ôl clywed bod eich cais wedi bod yn llwyddiannus, bydd proses yn dechrau lle anfonir eich llythyr cytundeb grant ac atodlenni cysylltiedig atoch yn electronig i’ch sefydliad eu darllen a’u cymeradwyo’n ffurfiol. Mae’r rhain yn rhoi manylion telerau ac amodau’r dyfarniad cyllid. Yn dilyn hyn bydd eich taliad grant cyntaf yn cael ei anfon er mwyn i chi allu dechrau cynllunio eich prosiect.
Ceir gwybodaeth fanylach am y broses gontractio a thalu a rheoli prosiectau yn adran 7 y Canllaw Rhaglen.
7.1. Rheoli prosiect
Mae tîm Taith bob amser wrth law i gynnig cymorth i Dderbynwyr Grant ar reoli eu prosiectau Taith o ddydd i ddydd drwy weminarau a chymorth un i un. Fodd bynnag, fe welwch isod grynodeb o ambell elfen y bydd angen i chi eu hystyried fel rhan o’ch cynlluniau rheoli prosiect.
7.1.1 Dewis cyfranogwyr
Mae’r Derbynwyr Grantiau’n gyfrifol am ddewis cyfranogwyr ar gyfer gweithgareddau symudedd. Rhaid bod y broses ddewis yn dryloyw, yn drefnus, yn deg ac wedi’i dogfennu. Rhaid i broffil y cyfranogwyr gyd-fynd â’r meini prawf cymhwysedd a amlinellir yn y Canllaw Llwybr 1 hwn.
7.1.2 Talu cyfranogwyr
Mae’r Derbynwyr Grantiau’n gyfrifol am dalu grant teithio a chynhaliaeth i’w cyfranogwyr. Gellir talu grantiau’n uniongyrchol i gyfranogwyr neu gellir talu costau llety a theithio ar eu rhan. Fodd bynnag, rhaid i dderbynwyr grantiau sicrhau bod y cyfranogwyr yn derbyn yr holl hawl ariannol sy’n ddyledus iddynt (cost lawn yr uned) am deithiau a chynhaliaeth, boed hynny drwy eu talu’n uniongyrchol neu wneud trefniadau ar eu rhan.
7.1.3 Darparwyr Trydydd Parti
Caniateir i Dderbynwyr Grant ddefnyddio gwasanaethau darparwyr trydydd parti i gefnogi’r prosiect wrth gynllunio a gwneud trefniadau ymarferol. Rhaid i’r holl gontractau gyda darparwyr trydydd parti sicrhau y bydd y cyfranogwyr yn dal i dderbyn eu hawl ariannol llawn am deithio a chynhaliaeth, naill ai drwy daliad uniongyrchol gan Dderbynnydd Grant neu daliadau ar eu rhan. Rhaid i unrhyw gyllid Taith sy’n cael ei roi i ddarparwr trydydd parti nad yw’n cael ei wario’n gyfan gwbl tuag at deithio a chynhaliaeth y cyfranogwyr, e.e. costau staff, costau gweithredol neu orbenion, ddod o gyllid cymorth sefydliadol; ni ellir defnyddio cyfraddau teithio a/neu gynhaliaeth at y diben hwn. Rhaid i Dderbynwyr Grantiau dderbyn sicrwydd ysgrifenedig at y perwyl hwn gan unrhyw a phob darparwr trydydd parti y maent yn gweithio gyda nhw, a gellir gofyn am hyn neu gall hyn fod yn ofynnol fel rhan o archwiliad.
7.2. Cyllid ychwanegol
Pan fydd cais yn llwyddiannus ac yn ystod y broses o gynllunio prosiectau, gall derbynwyr grantiau gyflwyno cais am gyllid ychwanegol am y canlynol:
- Teithio gwyrdd
- Costau Eithriadol (gan gynnwys Teithio i hyb Cludiant yn y DU – cyfranogwyr sy’n ddysgwyr yn unig).
- Costau Cynhwysiant (100% o gostau cynhwysiant cymwys i gyfranogwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) a/neu anableddau, 100% o wir gostau yn achos costau sy’n gysylltiedig â theithio ychwanegol, e.e. fisâu, pasbortau, yswiriant teithio, bagiau (lle bo’n angenrheidiol) i gyfranogwyr o gefndiroedd difreintiedig)
- Mae sefydliadau yn gymwys i dderbyn £25 o gyllid Cymorth Sefydliadol ychwanegol fesul cyfranogwr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. Gellir hawlio hyn yn y cam adrodd terfynol ar gyfer cyfranogwyr heb gynrychiolaeth ddigonol yr adroddir arnyn nhw.
7.3. Adrodd
Bydd yn ofynnol i bawb sy’n derbyn grant adrodd ar brosiectau Taith, a bydd manylion y gofynion adrodd yn cael eu darparu yn eich llythyr cytundeb grant ac atodlenni.
Bydd yn ofynnol i bob sefydliad ymgeisio sy’n llwyddiannus fynychu cyfarfod cychwynnol gyda Taith, cyn dechrau unrhyw gweithgareddau prosiect. Bydd angen cyfarfodydd rheolaidd ar ôl hynny (darperir manylion yn llythyr y Cytundeb Grant). Pwrpas y cyfarfodydd hyn yw cefnogi Derbynwyr Grant i gyflawni eu prosiectau a sicrhau bod gofynion grant Taith yn cael eu bodloni.
7.4. Tystysgrifau Gwariant
Rhaid i bob Derbynnydd Grant sy’n derbyn dyfarniadau Grant o fwy na £50,000 gwblhau tystysgrif gwariant. Sylwch fod yn rhaid i gyfrifydd annibynnol neu archwilydd allanol gwblhau hwn a bydd cost ynghlwm wrth hyn. Gall costau cymorth sefydliadol Derbynnydd Grant dalu’r gost hon.