Cysylltwch
Cyhoeddi Digidol

Taith Llwybr 1 Symudedd Cyfranogwyr 2024

Ieuenctid Version 1.0, January 2024

6. Beth sy’n digwydd ar ôl i gais gael ei gyflwyno

Llinell o bobl yn sefyll mewn eira i gael tynnu eu llun; maent yn gwenu at y camera. Ceir coed yn y cefndir hefyd.

Bydd pob cais yn cael ei asesu gan aseswyr allanol.  Ceir gwybodaeth fanwl ar y broses asesu, a sut gwneir penderfyniadau ariannu yn adran 6 y Canllaw Rhaglen.

6.1. Asesu ceisiadau

Er mwyn cael ei ystyried am gyllid, rhaid i sefydliad sy’n gwneud cais ddangos yn ei gais sut y mae’n bodloni meini prawf asesu Llwybr 1 (gweler adran 5.4 uchod). Bwriad y meini prawf asesu yw galluogi Taith i werthuso ansawdd y ceisiadau a dderbyniwyd a sefydlu sgôr asesu cyffredinol ar gyfer pob cais. Bydd pob cais yn cael ei sgorio allan o uchafswm o 100, yn seiliedig ar y meini prawf a’r pwysiadau isod.

Er mwyn i sefydliadau gael eu hystyried yn gymwys i gael grant, mae’n rhaid iddynt: 

  • Sgorio o leiaf 60 allan o 100

Bydd sefydliadau sy’n llwyddo i wneud yr uchod yn cael eu hystyried yn rhai y gellid eu cyllido. Bydd ceisiadau nad ydynt yn cwrdd â’r trothwy o ran meini prawf ansawdd yn cael eu hystyried yn aflwyddiannus. Rhoddir adborth i bob cais.

6.2. Dyraniadau cyllid

Mae cynwysoldeb a hygyrchedd yn ffocws strategol ar gyfer Taith ac mae’r rhaglen yn edrych i ariannu ystod mor eang â phosibl o sefydliadau, a chymaint ohonynt a sydd bosib. O’r herwydd, ni fydd unrhyw sefydliad yn gallu derbyn mwy na 40% o gyllideb y sector a gyhoeddwyd.

Nod Taith, lle bo modd, fydd ariannu’r holl sefydliadau sy’n pasio’r broses asesu ac yr ystyrir eu bod yn gyllidadwy. Fodd bynnag, mae cyllid Taith yn gyfyngedig ac mae’n debygol y ceir galwadau am geisiadau lle bydd gwerth ceisiadau llwyddiannus sy’n ‘gymwys i’w cyllido’ yn uwch na’r gyllideb sydd ar gael i’w dyrannu. Lle nad oes digon o gyllideb i ariannu’r holl geisiadau yn llawn, gall Taith fabwysiadu dull gweithredu i leihau’r cyllid ar draws sefydliadau llwyddiannus ar sail deg. Os bydd ceisiadau am gyllid yn sylweddol uwch na’r gyllideb sydd ar gael, yna gall Taith fabwysiadu model ariannu amgen megis rhestr raddio neu debyg.