Cysylltwch
Cyhoeddi Digidol

Taith Llwybr 1 Symudedd Cyfranogwyr 2024

Ysgolion (CY)Version 1.0, January 2024

2. Amserlen a Chyllideb Llwybr 1

Plant sy’n eistedd wrth ddesg ystafell ddosbarth. Mae'r rhan fwyaf yn gwisgo siwmper las a het. Mae merch ifanc mewn crys du yn eistedd wrth ochr un o'r bechgyn.

2.1. Amserlen

Dyddiadau

31 Ionawr 2024

Agor galwad gyllid Llwybr 1 (2024). 

20 Mawrth 2024, 12yp:

Dyddiad cau. Ni asesir ceisiadau a gyrhaeddith ar ôl y dyddiad cau.

Mehefin 2024 :

Bydd hysbysiad canlyniad yn cael ei anfon at bob sefydliad sy’n gwneud cais. 

1 Medi 2024:

Gall prosiectau ddechrau. 

2.2. Cyllideb ar gael

Cyfanswm y swm a ddyrannwyd i’r sector Ysgolion yng Nghymru yng ngalwad Llwybr 1 2024 yw £1,150,000

Mae cynhwysedd a hygyrchedd yn ffocws strategol ar gyfer Taith ac mae’r rhaglen yn ceisio ariannu cymaint ag y bo modd ac ystod mor eang o sefydliadau. O’r herwydd, ni fydd unrhyw sefydliad yn gallu gwneud cais am fwy na 40% o gyllideb y sector dangosol cyhoeddedig.