5. Ymgeisio ar gyfer Llwybr 1
5.1. Dyddiad cau
Y dyddiad cau i anfon cais ar gyfer galwad Llwybr 1 2024 yw’r 20 Mawrth 2024 am 12.00yp GMT. Ni asesir ceisiadau a gyrhhaeddith ar ôl y dyddiad cau hwn.
5.2. Cyn gwneud cais
Cyn gwneud cais, argymhellir bod ymgeiswyr yn:
- Darllen Canllaw’r Rhaglen.
- Gwirio bod eich sefydliad yn gymwys.
- Darllen y canllaw Llwybr 1 hwn yn drylwyr, yn enwedig y wybodaeth sy’n benodol i’r sector ynghylch gweithgareddau cymwys, hyd, cyfranogwyr a chostau.
- Gwirio bod gan eich sefydliad ddigon o gapasiti yn ariannol ac o ran gweithredu.
- Ymgyfarwyddo â meini prawf asesu Llwybr 1 – yn adran 5.4
- Mynd i’r digwyddiadau cymorth am sut i gwblhau cais a darllen drwy adnoddau Llwybr 1 ar ein gwefan.
5.3. Llenwi cais
Mae cynhwysedd a hygyrchedd yn ffocws strategol ar gyfer Taith ac mae’r rhaglen yn ceisio ariannu cymaint ag y bo modd ac ystod mor eang o sefydliadau. O’r herwydd, ni fydd unrhyw sefydliad yn gallu gwneud cais am fwy na 40% o gyllideb y sector dangosol cyhoeddedig.
I wneud cais am gyllid ar gyfer Llwybr 1 Taith, mae’n rhaid i sefydliadau sy’n gwneud cais ddefnyddio ffurflen gais Llwybr 1 sydd ar gael trwy wefan Taith. O fewn y ffurflen gais mae cyfrifydd grant.
Mae’r ffurflen gais yn gofyn am atebion naratif i ystod o gwestiynau gan gynnwys trosolwg o’r prosiect, manylion am y gweithgareddau arfaethedig fydd yn rhan o’r prosiect, manylion dulliau rheoli’r prosiect a’r cyllid, ac ym mha ffyrdd mae’r prosiect yn cyd-fynd ag amcanion a phwrpas rhaglen Taith.
Ynghyd â chwblhau’r ffurflen gais, bydd yn ofynnol i sefydliadau sy’n gwneud cais gwblhau’r cyfrifydd grant, a fydd yn cyfrifo cyfanswm y grant y gwneir cais amdano yn seiliedig ar yr amrywiol weithgareddau y gwneir cais amdanynt. Ceir gwybodaeth am y cyfraddau grant yn adran 4.
Yn rhan o’r broses ymgeisio, bydd angen i sefydliadau sy’n gwneud cais gadarnhau a ydynt am wneud cais am gyllid ar gyfer gweithgareddau symudedd mewnol. Mae cyllid ar gyfer symudiadau mewnol ar gael ar gyfer costau teithio, cynhaliaeth a chymorth sefydliadol, am hyd at uchafswm o 30% o’r costau symudedd allanol cyfatebol. Bydd y cyllid sydd ar gael ar gyfer hyn yn cael ei gyfrifo’n awtomatig drwy’r cyfrifydd grant.
Asesir ceisiadau yn erbyn y meini prawf asesu ar gyfer Llwybr 1 fel gellir gweld yn adran 5.4. Argymhellir bod sefydliadau sy’n gwneud cais yn darllen drwy’r meini prawf asesu yn drylwyr cyn dechrau’r cais fel eich bod yn glir ynghylch yr hyn y mae’r cais yn gofyn amdano, a sut y caiff ei asesu. Mae amrywiaeth o adnoddau ar wefan Taith sydd wedi’u creu i gefnogi sefydliadau gyda’u cais. Mae’r rhain yn cynnwys y gwybodaeth wedi ei recordio ar sut i lenwi’r ffurflen gais a’r cyfrifydd grant.
5.4. Cwestiynau’r Cais a Meini Prawf Asesu Llwybr 1
Cwestiynau / Asesu meini prawf ar gyfer Llwybr 1 Taith – Symudedd cyfranogwyr
Amcan 1 – Sicrhau bod cyfnewidiau’n darparu’r effaith fwyaf | |
---|---|
Darparwch grynodeb o’ch prosiect y gellir ei gyhoeddi, sy’n rhoi trosolwg cryno a chlir o amcanion, gweithgareddau a chyfranogwyr, fel manylion sylfaenol. | |
Beth yw nodau eich prosiect a sut mae’r rhain yn cyd-fynd â strategaeth Taith a blaenoriaethau eich sefydliad? | Mae nodau’r prosiect arfaethedig yn cyd-fynd â rhai strategaeth Taith a blaenoriaethau’r sefydliad sy’n cyflwyno cais. |
* Mae’r cwestiwn hwn ar gyfer Gweithgareddau symudedd dysgwyr* Esboniwch sut y bydd eich prosiect yn creu cyfleoedd sy’n newid bywydau i ddysgwyr a phobl ifanc, yn enwedig y rhai hynny sy’n dod o grwpiau sydd wedi’u tangynrychiol. | Mae’r cais hwn yn dangos sut y bydd gan y prosiect yr effaith fwyaf bosib a sut y bydd yn creu cyfleoedd sy’n newid bywydau i ddysgwyr a phobl ifanc, yn enwedig y rhai hynny sy’n dod o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli. |
* Mae’r cwestiwn hwn ar gyfer Gweithgareddau symudedd staff yn unig * Diben Taith yw creu cyfleoedd sy’n newid bywydau i ddysgwyr a phobl ifanc ledled Cymru, yn enwedig y rhai hynny sy’n dod o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli. Os na fydd dysgwyr yn cymryd rhan yn y prosiect, esboniwch pam nad yw hyn yn bosibl. | Mae’r sefydliad sy’n gwneud cais yn darparu rhesymau clir dros pam nad yw dysgwyr a phobl ifanc yn gallu cymryd rhan mewn symudedd Taith. |
*Mae’r cwestiwn hwn ar gyfer Gweithgareddau symudedd staff * Dylai gweithgarwch staff greu buddion uniongyrchol a pharhaol i ddysgwyr a phobl ifanc. Beth fydd yr effaith ar ddysgwyr yn sgil eich gweithgareddau symudedd i staff? Sut byddwch chi’n sicrhau y caiff yr hyn a ddysgir ei rannu gyda dysgwyr, yn enwedig y rhai hynny sy’n dod o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli? | Mae’r sefydliad sy’n cyflwyno cais yn rhoi manylion clir am sut y bydd yn targedu cyfranogwyr o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli, gan roi manylion am yr heriau a nodwyd wrth ennyn diddordeb grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ac amlinellu mesurau priodol i oresgyn yr heriau hyn. |
Rhowch fanylion am sut y byddwch chi’n targedu cyfranogwyr o grwpiau sydd wedi’u tangynrychiol. Pa heriau ydych chi’n eu rhagweld a sut byddwch chi’n goresgyn y rhain? | Mae’r sefydliad sy’n cyflwyno cais yn rhoi manylion clir am sut y bydd yn targedu cyfranogwyr o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli, gan roi manylion am yr heriau a nodwyd wrth ennyn diddordeb grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ac amlinellu mesurau priodol i oresgyn yr heriau hyn. |
SYLWER: Rhaid i o leiaf 25% o holl gyfranogwyr y gweithgaredd symudedd fod o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli. Os nad ydych chi’n cyflwyno cais am weithgareddau symudedd dysgwyr a golyga hyn na fyddwch chi’n gallu bodloni’r trothwy hwn, bydd yn rhaid i chi gynnig gwybodaeth ychwanegol isod. | |
Pa ganran o’ch cyfranogwyr fydd yn dod o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli? | Mae’r cais hwn wedi bodloni neu ragori ar y lleiafswm gofynnol o 25% o gyfranogwyr o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli. |
*Mae’r cwestiwn hwn ar gyfer Gweithgareddau symudedd staff * Faint o ddysgwyr fydd yn manteisio’n uniongyrchol o’ch gweithgaredd symudedd staff? (Gall hyn fod ar draws sefydliad cyfan, neu’n benodol i ddosbarth, neu’n grŵp o ddysgwyr wedi’i dargedu) | Ni chaiff y cwestiwn isod ei asesu ond mae’n cynnig data ar gyfer y cwestiwn isod. |
*Mae’r cwestiwn hwn ar gyfer Gweithgareddau symudedd staff * O’r dysgwyr hyn, faint fydd yn dod o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli? | Mae’r cais hwn wedi bodloni neu ragori ar y lleiafswm gofynnol o 25% o gyfranogwyr o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli. |
Amcan 2 – Ariannu prosiectau cyfnewid dysgu o safon uchel | |
---|---|
Rhowch fanylion am sut a pham rydych chi wedi dewis y partner(iaid) rhyngwladol ac esboniwch pam maent yn briodol ac yn berthnasol ar gyfer gweithgareddau ac amcanion y prosiect. Lle na fyddwch chi wedi dod o hyd i bartner(iaid) rhyngwladol eto, amlinellwch eich cynlluniau ar gyfer eu nodi a’u hymrwymo. | Mae’r partneriaid rhyngwladol a enwyd yn y cais yn briodol ac yn berthnasol ar gyfer gweithgareddau ac amcanion y prosiect. Lle nad yw partneriaid rhyngwladol wedi’u henwi yn y cais, mae’r cynlluniau a amlinellwyd ar gyfer eu nodi a’u hymrwymo’n briodol.
|
Esboniwch eich rhesymeg dros y dewis o gyrchfan(nau). Dangoswch eich bod chi wedi ystyried y canlynol:
| Darperir rhesymeg glir mewn perthynas â’r dewis o gyrchfan(nau). Mae’r cais yn dangos y canlynol yn glir:
|
Esboniwch sut y byddwch chi’n rheoli’r prosiect a’r cyllid grant ar gyfer gweithgareddau symudedd allanol a mewnol (lle bo’n berthnasol), gan gynnwys:
Os bydd sawl sefydliad wedi’u cynnwys yn y cais, rhowch esboniad clir o rolau pob partner. | Mae’r sefydliad sy’n cyflwyno cais yn dangos bod ganddo’r gallu sy’n gymesur â graddfa’r prosiect arfaethedig i gyflwyno a rheoli’r prosiect. Mae’r cynnig yn amlinellu ymagwedd gadarn at reoli’r prosiect o ddydd i ddydd, rheoli ariannol, nodi risgiau a’u rheoli, cyflwyno’r gweithgareddau symudedd a darparu cymorth i gyfranogwyr. Lle bydd sawl sefydliad wedi’i gynnwys, mae esboniad clir o rolau pob partner. |
Beth yw’r prif risgiau mewn perthynas â chyflwyno’r prosiect yn eich barn chi, a sut byddwch chi’n rheoli’r rhain? | |
Sut byddwch chi’n monitro cynnydd gweithgareddau eich prosiect, yn mesur llwyddiant cyffredinol eich prosiect ac yn sicrhau y caiff yr hyn a ddysgir ei rannu? | Mae’r cais yn amlinellu’n glir cynllun priodol ar gyfer monitro a gwerthuso’r prosiect. |
Sut byddwch chi’n sicrhau bod mesurau diogelu/dyletswydd gofal priodol ar waith yn ystod gweithgareddau symudedd allanol a mewnol ac yn ystod gweithgareddau cyfnewid rhithwi? | Mae’r sefydliad sy’n cyflwyno cais yn dangos bod ganddo fesurau diogelu/dyletswydd gofal priodol ar gyfer ei holl weithgareddau arfaethedig a chynllun am sicrhau amgylchedd cefnogol i’r holl gyfranogwyr sy’n addas. |
Pa fesurau penodol byddwch chi’n eu rhoi ar waith i sicrhau bod eich prosiect yn gynhwysol ac yn hygyrch, yn enwedig i’r rhai hynny sy’n dod o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli? Cyfeiriwch at y canlynol:
| Mae’r sefydliad sy’n cyflwyno cais yn dangos ymrwymiad clir i gynhwysiant a hygyrchedd, sy’n cynnwys manylion ar y canlynol:
Mae’r sefydliad sy’n cyflwyno cais yn cynnig tystiolaeth glir o feddu ar ddulliau cefnogi cadarn i gyfranogwyr cyn, yn ystod ac yn dilyn gweithgareddau symudedd. |
Gweithgareddau’r Prosiect (bydd y cwestiynau hyn yn ofynnol ar gyfer pob math o weithgaredd symudedd a ddewisir) | |
---|---|
Esboniwch pam rydych chi wedi dewis y math penodol hwn o weithgaredd symudedd a sut mae’n mynd i’r afael ag anghenion y cyfranogwyr ac yn cynnig deilliannau dysgu o safon. | Mae anghenion dysgu’r cyfranogwyr wedi’u hamlinellu’n glir ac mae’r sefydliad sy’n cyflwyno cais yn dangos bod y math o weithgaredd symudedd a ddewisir yn briodol.
Dangosir i ba raddau y bydd y gweithgareddau arfaethedig yn creu deilliannau dysgu o safon i gyfranogwy. |
Cynaliadwyedd ac Effaith Ehangach | |
---|---|
Beth fyddwch chi’n ei wneud i liniaru effaith amgylcheddol eich prosiect? Lle nad yw opsiynau teithio gwyrdd yn bosib, gofynnir i chi gynnwys manylion arferion cynaliadwy eraill y byddwch chi’n eu rhoi ar waith. | Dangosir tystiolaeth bod y sefydliad sy’n cyflwyno cais yn ymwybodol o effaith amgylcheddol ei brosiect a bydd yn cymryd camau er mwyn ei lliniaru. |
Esboniwch sut y bydd eich prosiect yn mynd i’r afael â rhai, neu holl, effeithiau ehangach a nodwyd yn y strategaeth Taith. Mae’r rhain yn cynnwys y canlynol:
| Mae’r sefydliad sy’n cyflwyno cais yn cynnig manylion am sut y bydd ei brosiect yn mynd i’r afael â rhai, neu holl, effeithiau ehangach a nodwyd yn strategaeth Taith. |