Atodiad 2 – Cymorth Cynhwysiant Taith
Mae Taith wedi ymrwymo i wella mynediad at weithgareddau cyfnewid rhyngwladol i bobl o gefndiroedd difreintiedig, pobl Anabl a phobl ag anghenion dysgu ychwanegol. Rydym yn deall y gall mynediad at gyllid digonol i dalu am gost lleoliad cyfnewid fod yn rhwystr mawr rhag cymryd rhan mewn cyfleoedd rhyngwladol, felly mae model grant Taith hefyd yn cynnwys cymorth ariannol ychwanegol i gyfranogwyr o’r grwpiau hynny. Ceir gwybodaeth am gyfraddau grant a’r cyllid sydd ar gael yn y Canllawiau Llwybr perthnasol.
1. Cyfranogwyr o gefndiroedd difreintiedig
Mae cyfranogwyr o gefndiroedd difreintiedig wedi’u diffinio fesul sector perthnasol isod.
Bydd cyfranogwyr sy’n bodloni un neu fwy o’r meini prawf canlynol yn cael eu hystyried yn gyfranogwyr dan anfantais ac yn gymwys i gael cymorth ariannol ychwanegol:
Ysgolion:
- Disgyblion a staff lle mae incwm blynyddol y cartref yn £26,225 neu’n llai.
- Staff sy’n cael Credyd Cynhwysol neu fudd-daliadau sy’n seiliedig ar incwm, gan eu bod yn cynnal eu hunain yn ariannol neu’n cynnal eu hunain a rhywun arall sy’n dibynnu arnynt ac yn byw gyda nhw, fel plentyn neu bartner, yn ariannol.
- Disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim.
- Disgyblion sydd â phrofiad o fod mewn gofal.1
- Disgyblion sydd â chyfrifoldebau gofalu.
- Ffoaduriaid a cheiswyr lloches.
Ieuenctid
- Pobl ifanc a staff lle mae incwm blynyddol y cartref yn £26,225 neu’n llai.
- Pobl ifanc a staff sy’n cael Credyd Cynhwysol neu fudd-daliadau sy’n seiliedig ar incwm, gan eu bod yn cynnal eu hunain yn ariannol neu’n cynnal eu hunain a rhywun arall sy’n dibynnu arnynt ac yn byw gyda nhw, fel plentyn neu bartner, yn ariannol.
- Disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim
- Pobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal.1
- Pobl ifanc sydd â chyfrifoldebau gofalu.
- Ffoaduriaid a cheiswyr lloches.
Addysg i Oedolion:
- Dysgwyr a staff lle mae incwm blynyddol y cartref yn £26,225 neu’n llai.
- Dysgwyr a staff sy’n cael Credyd Cynhwysol neu fudd-daliadau sy’n seiliedig ar incwm, gan eu bod yn cynnal eu hunain yn ariannol neu’n cynnal eu hunain a rhywun arall sy’n dibynnu arnynt ac yn byw gyda nhw, fel plentyn neu bartner, yn ariannol.
- Dysgwyr sydd â phrofiad o fod mewn gofal.1
- Dysgwyr sydd â chyfrifoldebau gofalu.
- Ffoaduriaid a cheiswyr lloches.
Addysg Bellach ac Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol:
- Dysgwyr a staff lle mae incwm blynyddol y cartref yn £26,225 neu’n llai.
- Dysgwyr a staff sy’n cael Credyd Cynhwysol neu fudd-daliadau sy’n seiliedig ar incwm, gan eu bod yn cynnal eu hunain yn ariannol neu’n cynnal eu hunain a rhywun arall sy’n dibynnu arnynt ac yn byw gyda nhw, fel plentyn neu bartner, yn ariannol.
- Disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim
- Dysgwyr sydd â phrofiad o fod mewn gofal.1
- Dysgwyr sydd â chyfrifoldebau gofalu.
- Ffoaduriaid a cheiswyr lloches.
Addysg Uwch:
- Myfyrwyr a staff lle mae incwm blynyddol y cartref yn £26,225 neu’n llai.
- Myfyrwyr a staff sy’n cael Credyd Cynhwysol neu fudd-daliadau sy’n seiliedig ar incwm, gan eu bod yn cynnal eu hunain yn ariannol neu’n cynnal eu hunain a rhywun arall sy’n dibynnu arnynt ac yn byw gyda nhw, megis plentyn neu bartner, yn ariannol.
- Myfyrwyr sydd â phrofiad o fod mewn gofal.
- Myfyrwyr sydd â chyfrifoldebau gofalu.
- Myfyrwyr sydd wedi ymddieithrio (fel y’u diffinnir gan Cyllid Myfyrwyr Cymru).
- Ffoaduriaid a cheiswyr lloches.
2. Pobl Anabl a phobl ag anghenion dysgu ychwanegol
Mae Taith wedi ymrwymo i fod yn gynhwysol a helpu’r rhai sydd â chyflyrau iechyd, boed yn rhai corfforol neu feddyliol, i gymryd rhan. Felly, bydd Taith yn cynnig grant i unigolion Anabl a’r rhai ag anghenion dysgu ychwanegol i hyd at 100% o gostau gwirioneddol cymorth sy’n uniongyrchol gysylltiedig â’u hanghenion ychwanegol.
Gall cymorth o’r fath gynnwys gwneud asesiadau risg yn rhan o ymweliad paratoadol a sicrhau bod y cymorth sydd ei angen ar gyfer ymgymryd â’r symudedd ar gael, cyllido aelodau ychwanegol o staff i gefnogi’r unigolyn a / neu dalu am offer / addasiadau / adnoddau sydd eu hangen ar yr unigolyn i allu cymryd rhan. Mae rhagor o wybodaeth am ymweliadau paratoadol ar gael yn adran gweithgareddau cymwys y Canllaw Llwybr.
1 Mae hyn yn cyfeirio at unrhyw un sydd wedi bod mewn gofal yn y gorffennol, sydd mewn gofal ar hyn o bryd neu sydd wedi derbyn gofal, am faint bynnag o amser, ar unrhyw adeg yn ystod eu bywyd, gan gynnwys unrhyw un a gafodd ei fabwysiadu a oedd yn derbyn gofal gynt neu sy’n cael bwrsari i fyfyrwyr â phrofiad o fod mewn gofal mewn rhannau eraill o’r DU.