6. Beth sy’n digwydd ar ôl cyflwyno cais
6.1. Trefn asesu
Bydd pob cais yn cael ei asesu drwy ddilyn proses asesu dau gam:
Cam 1 – Cadarnhau bod y sefydliad yn gymwys a bod ganddo gapasiti ariannol.
Cam 2 – Asesiad allanol o’r cais yn erbyn y meini prawf asesu cyhoeddedig, a amlinellir yn y Canllaw Rhaglen Llwybr perthnasol.
Bydd Taith yn rhoi adborth i bob ymgeisydd. Bydd proses apelio ar gael i ymgeiswyr aflwyddiannus (gweler adran 8.1 y canllaw hwn).
Cam 1 – Cadarnhau bod y sefydliad yn gymwys a bod ganddo gapasiti ariannol
Yng Ngham 1, bydd ceisiadau’n cael eu harchwilio gan Taith, a fydd yn cadarnhau bod pob cais:
- Yn cael ei gyflwyno gan sefydliad cymwys sy’n gwneud cais heb fod yn hwyrach na dyddiad cau’r alwad ar gyfer y llwybr
- Yn cael ei gyflwyno gan sefydliad sydd â statws endid cyfreithiol wedi’i ddilysu, capasiti ariannol digonol i gyflawni’r prosiect arfaethedig a’r polisïau a’r gweithdrefnau gofynnol ar waith
Gall Taith ofyn am ragor o wybodaeth/tystiolaeth yn ystod y gwiriadau cymhwysedd ac ariannol.
Os na ellir cadarnhau bod y sefydliad yn gymwys a bod ganddo gapasiti ariannol, ni fydd y cais yn symud ymlaen i Gam 2. Mae gan sefydliad a gyflwynodd gais sy’n aflwyddiannus ar Gam 1 yr hawl i apelio. Mae’r broses apelio i’w gweld yn adran Apeliadau a Chwynion ar ein gwefan.
Cam 2 – Asesiad ansoddol
Yng Ngham 2, caiff ceisiadau eu hasesu gan ddau aseswr allanol, annibynnol. Bydd pob cais yn mynd drwy:
- Asesiad ansoddol, i asesu i ba raddau y mae’r cais yn bodloni amcanion a meini prawf asesu rhaglen Taith.
- Dilysiad o weithgareddau arfaethedig y prosiect yn erbyn gweithgareddau a chostau cymwys.
6.2. Penderfynu dyfarnu grant
Bydd Pwyllgor Ariannu perthnasol Taith yn ystyried y rhestr o geisiadau y bernir eu bod yn gymwys i dderbyn cyllid. Pwrpas y Pwyllgor yw craffu ar gadernid y broses asesu a rhoi sicrwydd ar yr argymhellion i Fwrdd Cyfarwyddwyr ILEP Ltd fod yr asesiad wedi ei gynnal mewn modd teg a thryloyw. Mae aelodaeth y pwyllgor yn cynnwys Cyfarwyddwr ILEP Ltd, Cadeirydd Bwrdd Cynghori Taith ac arbenigwr annibynnol.
Mae gan y Pwyllgor Ariannu’r opsiwn i wrthod neu gytuno ar yr argymhellion, a gyflwynir wedyn i Fwrdd Cyfarwyddwyr ILEP Ltd i’w cytuno’n derfynol.
Mae cynwysoldeb a hygyrchedd yn ffocws strategol ar gyfer Taith ac, felly, byddwn yn edrych i ariannu ystod mor eang â phosibl o sefydliadau, a chymaint ohonynt â phosibl. Ein nod, lle y bo’n bosibl, fydd ariannu pob sefydliad sy’n pasio’r broses asesu ac yr ystyrir felly ei fod yn gymwys i’w gyllido.
Mae cyllid Taith yn gyfyngedig ac mae’n debygol y ceir galwadau am gyllid lle bydd gwerth ceisiadau llwyddiannus sy’n ‘gymwys i’w cyllido’ yn uwch na’r gyllideb sydd ar gael i’w dyrannu. Lle nad oes digon o gyllideb i ariannu’r holl geisiadau yn llawn, gall Taith fabwysiadu dull gweithredu i leihau’r cyllid ar draws sefydliadau llwyddiannus ar sail deg. Os bydd ceisiadau am gyllid yn sylweddol uwch na’r gyllideb sydd ar gael, gall Taith fabwysiadu model ariannu amgen megis rhestr raddio neu fodel tebyg.
Er bod Taith yn anelu at fod mor hygyrch a chynhwysol â phosibl, bydd gofyniad bob amser i sefydliadau sy’n gwneud cais basio trothwyon ansawdd penodol y Llwybr ac ni fydd pob cais yn llwyddiannus. Mae Taith wedi ymrwymo i ddarparu adborth a chefnogaeth i sefydliadau sy’n aflwyddiannus i’w galluogi a’u hannog i gyflwyno ceisiadau yn y dyfodol.
Cyfeiriwch at y Canllaw Llwybr perthnasol i gael rhagor o wybodaeth am y cyllid sydd ar gael gan gynnwys uchafswm gwerthoedd ceisiadau.
6.3. Hysbysiad o ganlyniad
Ar ôl i Fwrdd Cyfarwyddwyr ILEP Ltd ystyried argymhellion y Pwyllgor Ariannu a’u cymeradwyo, bydd yr holl ymgeiswyr yn cael gwybod am ganlyniad eu cais trwy ebost oddi wrth Taith ymhen pedwar mis ar ôl y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael rhagor o wybodaeth ac adnoddau yn dilyn yr ebost hwn, gan gynnwys llythyr Cytundeb Grant y prosiect.