4. Cymhwysedd – pwy all wneud cais/cymryd rhan yn y rhaglen
Mae gan bob sector feini prawf cymhwyster unigol ar gyfer sefydliadau ymgeisio, sefydliadau derbyn a sefydliadau anfon. Manylir ar y meini prawf ar gyfer sefydliadau ymgeisio isod, gweler y Canllaw perthnasol Llwybr 1 neu Lwybr 2 i gael gwybodaeth am sefydliadau derbyn/anfon cymwys.
Cynghorir pob sefydliad ymgeisio posibl i wirio eu bod yn gymwys i wneud cais cyn cyflwyno cais ac i gysylltu â thîm Taith os oes ganddynt unrhyw gwestiynau.
- Unrhyw ysgol sy’n cael ei hariannu neu ei chynnal gan awdurdod lleol ac sydd wedi’i chofrestru yng Nghymru, ac sy’n gweithredu o Gymru, sy’n darparu addysg gyffredinol neu alwedigaethol i blant a phobl ifanc rhwng 4 a 19 oed ac a arolygir gan ESTYN;
- Unrhyw un o 22 awdurdod lleol Cymru;
- Unrhyw un o’r 4 Consortiwm Addysg Rhanbarthol
Gonsortiwm sy’n cynnwys un sefydliad arweiniol sy’n gwneud cais ar ran dau neu ragor o sefydliadau ym maes addysg ysgolion. Rhaid i’r consortiwm gynnwys o leiaf un ysgol a enwir sy’n cael ei hariannu a’i chynnal gan awdurdod lleol ac sydd wedi’i chofrestru yng Nghymru, ac sy’n gweithredu o Gymru, a gall hefyd gynnwys awdurdodau lleol neu ranbarthol, cyrff cydgysylltu ysgolion neu fenter gymdeithasol neu sefydliadau eraill sydd â rôl yn y maes addysg ysgol. Rhaid i bob aelod o’r consortiwm gael ei reoleiddio neu ei gofrestru yng Nghymru, a gweithredu o Gymru, a rhaid i unrhyw ysgolion yn y consortiwm gael eu hariannu neu eu cynnal gan awdurdod lleol a’u cofrestru yng Nghymru, ac sy’n gweithredu ohoni. Rhaid cytuno ar bartneriaid consortiwm a’u henwi ar adeg y cais a ni chaniateir i sefydliadau sy’n gwneud cais godi ffi am gael eu cynnwys mewn cais gan gonsortiwm
Rhaid i sefydliadau sy’n gwneud cais feddu ar brofiad diweddar ac amlwg o ddarparu gweithgaredd yn y sector y maent yn gwneud cais ar ei gyfer.
Sefydliadau a grwpiau sy’n cael eu rheoleiddio neu eu cofrestru yng Nghymru, ac sy’n gweithredu o Gymru, sy’n gweithio ym maes ieuenctid gan gynnwys:
- Cyrff cyhoeddus ar lefel leol, ranbarthol neu genedlaethol;
- Sefydliadau anllywodraethol, mentrau cymdeithasol a sefydliadau dielw, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i elusennau cofrestredig a chymdeithasau corfforedig elusennol, cwmnïau budd cymunedol, cwmnïau cyfyngedig drwy warant;
- Consortiwm o sefydliadau/darparwyr sy’n cynnwys un sefydliad arweiniol sy’n gwneud cais ar ran nifer o sefydliadau sy’n gweithio ym maes ieuenctid. Rhaid i bob aelod o gonsortiwm o’r fath gael ei reoleiddio neu ei gofrestru yng Nghymru, ac gweithredu o Gymru. Rhaid cytuno ar bartneriaid consortiwm a’u henwi ar adeg y cais a ni chaniateir i sefydliadau sy’n gwneud cais godi ffi am gael eu cynnwys mewn cais gan gonsortiwm.
Gall sefydliadau sy’n gweithio ym maes ieuenctid, nad ydynt wedi’u rheoleiddio neu eu cofrestru yng Nghymru ond sy’n gweithredu ledled y DU, ac sydd â phrofiad amlwg a diweddar o gyflwyno gweithgareddau yng Nghymru, hefyd fod yn gymwys i wneud cais ar yr amod eu bod yn bodloni’r meini prawf canlynol:
Cyflwynir tystiolaeth foddhaol i ddangos:
- sut y bydd gweithgarwch arfaethedig y rhaglen o fudd i Gymru a
- bod y cyfranogwyr arfaethedig naill ai (i) ar gyfer symudedd allanol, cyfranogwyr sy’n ymgymryd â gweithgarwch dysgu yng Nghymru, neu (ii) ar gyfer symudedd mewnol, bydd y cyfranogwyr yn ymgymryd â gweithgarwch dysgu yng Nghymru.
Rhaid i sefydliadau sy’n gwneud cais feddu ar brofiad diweddar ac amlwg o ddarparu gweithgaredd yn y sector y maent yn gwneud cais ar ei gyfer.
Unrhyw sefydliad sy’n cael ei reoleiddio neu ei gofrestru yng Nghymru, ac sy’n gweithredu o Gymru, sy’n darparu addysg ffurfiol ac heb fod yn ffurfiol i oedolion, gan gynnwys:
- Awdurdodau cyhoeddus lleol a rhanbarthol, cyrff cydlynu a sefydliadau eraill sydd wedi’u cofrestru ac sy’n gweithredu o Gymru sydd â rôl ym maes addysg i oedolion.
- Sefydliadau anllywodraethol, mentrau cymdeithasol a sefydliadau dielw, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i elusennau cofrestredig a chymdeithasau corfforedig elusennol, cwmnïau budd cymunedol, cwmnïau cyfyngedig drwy warant;
- Consortiwm o sefydliadau/darparwyr, sy’n cynnwys un sefydliad arweiniol sy’n gwneud cais ar ran dau neu ragor o ddarparwyr addysg i oedolion, ym maes addysg i oedolion. Rhaid i bob aelod o’r consortiwm gael ei reoleiddio neu ei gofrestru yng Nghymru, a bod yn gweithredu o Gymru. Rhaid cytuno ar bartneriaid consortiwm a’u henwi ar adeg y cais a ni chaniateir i sefydliadau sy’n gwneud cais godi ffi am gael eu cynnwys mewn cais gan gonsortiwm.
Gall sefydliadau sy’n gweithio ym maes Addysg i Oedolion, nad ydynt wedi’u rheoleiddio neu eu cofrestru yng Nghymru ond sy’n gweithredu ledled y DU, ac sydd â phrofiad amlwg a diweddar o gyflwyno gweithgareddau yng Nghymru, hefyd fod yn gymwys i wneud cais ar yr amod eu bod yn bodloni’r meini prawf canlynol:
Cyflwynir tystiolaeth foddhaol i ddangos:
- sut y bydd gweithgarwch arfaethedig y rhaglen o fudd i Gymru a
- bod y cyfranogwyr arfaethedig naill ai (i) ar gyfer symudedd allanol, cyfranogwyr sy’n ymgymryd â gweithgarwch dysgu yng Nghymru, neu (ii) ar gyfer symudedd mewnol, bydd y cyfranogwyr yn ymgymryd â gweithgarwch dysgu yng Nghymru.
Rhaid i sefydliadau sy’n gwneud cais feddu ar brofiad diweddar ac amlwg o ddarparu gweithgaredd yn y sector y maent yn gwneud cais ar ei gyfer
AB
- Unrhyw sefydliad cyhoeddus neu breifat sy’n cael ei reoleiddio neu ei gofrestru yng Nghymru, ac sy’n gweithredu o Gymru sy’n weithgar ym maes addysg bellach, ac sy’n cynnig amrywiaeth o gyrsiau ar wahanol lefelau o fewn Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru, gan arwain at gymwysterau achrededig;
- Cyrff cydgysylltu cenedlaethol, rhanbarthol neu leol sy’n gweithredu yng Nghymru ac yn goruchwylio darpariaeth addysg bellach;
- Consortiwm o sefydliadau/darparwyr, sy’n cynnwys un sefydliad arweiniol sy’n gwneud cais ar ran nifer o ddarparwyr addysg bellach, ym maes addysg bellach. Rhaid i bob aelod o’r consortiwm gael ei reoleiddio neu ei gofrestru yng Nghymru, a bod yn gweithredu o Gymru. Rhaid cytuno ar bartneriaid consortiwm a’u henwi ar adeg y cais a ni chaniateir i sefydliadau sy’n gwneud cais godi ffi am gael eu cynnwys mewn cais gan gonsortiwm.
Rhaid i sefydliadau sy’n gwneud cais feddu ar brofiad diweddar ac amlwg o ddarparu gweithgaredd yn y sector y maent yn gwneud cais ar ei gyfer a chael eu cydnabod fel darparwr addysg/dysgu yn y sector hwnnw.
AHG
Unrhyw sefydliad cyhoeddus neu breifat sy’n cael ei reoleiddio neu ei gofrestru yng Nghymru, ac sy’n gweithredu o Gymru sy’n weithgar ym maes addysg a hyfforddiant galwedigaethol, sy’n cynnig amrywiaeth o gyrsiau, gan arwain at gymwysterau achrededig, gan gynnwys:
- Cyrff cydgysylltu cenedlaethol sy’n gweithredu yng Nghymru ac yn goruchwylio’r ddarpariaeth addysg neu hyfforddiant ym maes addysg a hyfforddiant galwedigaethol;
- Cwmnïau a sefydliadau cyhoeddus neu breifat eraill sy’n cynnal, hyfforddi neu fel arall yn gweithio gyda dysgwyr a phrentisiaid mewn addysg a hyfforddiant galwedigaethol;
- Consortiwm o sefydliadau, sy’n cynnwys un sefydliad arweiniol sy’n gwneud cais ar ran nifer o ddarparwyr addysg a hyfforddiant galwedigaethol, ym maes addysg a hyfforddiant galwedigaethol. Rhaid i bob aelod o’r consortiwm gael ei reoleiddio neu ei gofrestru yng Nghymru, a bod yn gweithredu o Gymru. Rhaid cytuno ar bartneriaid consortiwm a’u henwi ar adeg y cais a ni chaniateir i sefydliadau sy’n gwneud cais godi ffi am gael eu cynnwys mewn cais gan gonsortiwm.
Rhaid i sefydliadau sy’n gwneud cais feddu ar brofiad diweddar ac amlwg o ddarparu gweithgaredd yn y sector y maent yn gwneud cais ar ei gyfer
- Unrhyw sefydliad addysg uwch (SAU) yng Nghymru, a reoleiddir neu a ariennir gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC);
- Darparwr addysg uwch, y mae ei gyrsiau wedi’u dynodi’n benodol at ddibenion bod yn gymwys i gael cymorth i fyfyrwyr, ac sy’n gweithredu yng Nghymru.