Cysylltwch
Cyhoeddi Digidol

Canllaw Rhaglen Taith 2024

Version 1.0, January 2024

5. Cyn cyflwyno cais

A line of four women, two are wearing Basotho (mokorotlo) hats.

5.1. Capasiti

Capasiti gweithredol

Mae’n rhaid i bob sefydliad sy’n gwneud cais fod â’r galluoedd proffesiynol angenrheidiol a’r gallu i neilltuo adnoddau a staff priodol sy’n cyd-fynd â maint eu prosiect Taith. 

Rhaid i sefydliadau fod â threfniadau llywodraethu priodol ar gyfer rheoli prosiectau a ariennir â grant a pholisïau a gweithdrefnau priodol yn eu lle i gyflawni’r gweithgaredd arfaethedig gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • Diogelu ac Amddiffyn Plant
  • Diogelu data
  • Cyfrinachedd
  • Yswiriant

Capasiti ariannol

Rhaid i bob sefydliad sy’n gwneud cais ddangos bod ganddynt ffynhonnell sefydlog a digonol o incwm i gynnal gweithgareddau cymwys drwy gydol y cyfnod pan fydd prosiect Taith yn cael ei gynnal.

Gall Taith gynnal gwiriadau capasiti ariannol, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • Adolygiad o gyfrifon diweddaraf Tŷ’r Cwmnïau neu’r Comisiwn Elusennau, lle bo’n berthnasol.
  • Adolygiad o gyfrifon rheoli diweddaraf y sefydliad.
  • Adolygiad o ddogfennau llywodraethu’r sefydliad i gadarnhau y gall y sefydliad dderbyn y cyllid, paru enwau cyfrifon banc a gwiriadau eraill, lle bo’n berthnasol.
  • Gwiriad o gofnodion asiantaethau gwirio credyd lle bo’n briodol. 
  • Adolygiad o gyfriflenni banc cyfredol y sefydliad yn dangos y balans terfynol.

Mae gan Taith agwedd dim goddefgarwch tuag at dwyll. Rhaid i sefydliadau sy’n gwneud cais fod â gweithdrefnau ariannol priodol yn eu lle sy’n amddiffyn y sefydliad a Taith rhag llwgrwobrwyo, twyll, a gweithredoedd troseddol ariannol eraill.

5.2. Llenwi’r ffurflen gais

I wneud cais am gyllid gan y rhaglen Taith, mae’n rhaid i sefydliadau lenwi ffurflen gais y Llwybr perthnasol, sydd ar gael ar wefan Taith.

Mae’r broses ymgeisio yn cynnwys:

  • Gwiriad cyn ymgeisio i sicrhau bod sefydliadau sy’n gwneud cais yn gallu symud ymlaen at y ffurflen gais
  • Ffurflen gais llwybr
  • Cyfrifydd Grant Llwybrau
  • Rhestr wirio cymhwyster

Mae’r gwiriad cyn ymgeisio yn gofyn nifer o gwestiynau sy’n ymwneud â chymhwysedd y sefydliadau sy’n ymgeisio ac unrhyw bartneriaid consortiwm i’r sector y maent yn bwriadu gwneud cais amdano.

Mae’r ffurflen gais yn gofyn am atebion naratif i ystod o gwestiynau gan gynnwys trosolwg o’r prosiect, manylion am y gweithgareddau arfaethedig fydd yn rhan o’r prosiect, manylion dulliau rheoli’r prosiect a’r cyllid, a manylion sy’n nodi ym mha ffyrdd mae’r prosiect yn cyd-fynd ag amcanion rhaglen Taith, i gyd yn gysylltiedig â’r Llwybr Taith penodol. 

Ynghyd â’r ffurflen gais, bydd gofyn i sefydliadau sy’n gwneud cais gwblhau Cyfrifydd Grant, a fydd yn cyfrifo cyfanswm y grant y gofynnir amdano yn seiliedig ar y gweithgareddau amrywiol y gwneir cais amdanynt. Ceir gwybodaeth am y cyfraddau grant ar gyfer pob Llwybr yn y canllawiau Llwybrau perthnasol.

Ochr yn ochr â’r ffurflen gais a’r Cyfrifydd Grant, rhaid i chi gwblhau a chyflwyno rhestr wirio cymhwyster sy’n gwirio statws eich sefydliad, gallu gweithredol a gallu ariannol.

Rydym yn argymell lawrlwytho’r adnoddau sydd ar gael sydd wedi’u dylunio a’u creu i gefnogi sefydliadau gyda’u cais. Mae’r rhain i’w gweld ar wefan Taith ac yn cynnwys gwybodaeth wedi’i recordio ymlaen llaw am lenwi’r ffurflen gais a chyllideb y prosiect. Anogir pob ymgeisydd i gwblhau’r adrannau cais ansoddol all-lein, ac yna eu copïo a’u gludo i’r ffurflen gais ar-lein. Bydd hyn yn eu galluogi i weithio drwy’r adrannau wrth eu pwysau, heb y risgiau sy’n gysylltiedig â gweithio ar-lein. 

Dim ond un cais y gall sefydliadau ei gyflwyno fesul sector ar gyfer pob galwad am gyllid ar gyfer Llwybr. Os bydd sefydliad sy’n gwneud cais yn cyflwyno mwy nag un cais i’r un llwybr sector yn yr un alwad, ni fydd yn bosibl cyfuno ceisiadau lluosog a bydd Taith yn gofyn i’r sefydliad sy’n gwneud cais ddewis pa un o’r ceisiadau y mae am fwrw ymlaen ag ef. 

Mae’r dyddiadau cau ar gyfer galwadau ariannu Llwybr i’w gweld ar wefan Taith, neu ar fersiwn gyfredol pob Canllaw Llwybr.