Cysylltwch
Cyhoeddi Digidol

Canllaw Rhaglen Taith 2024

Version 1.0, January 2024

3. Deall y rheolau ariannu ar gyfer Taith a chydgyfnewid

A line of four women, two are wearing Basotho (mokorotlo) hats.

3.1. Rheolau ariannu

Mae’r rheolau ariannu canlynol yn berthnasol i bob sector a phob llwybr:

  • Mae Taith ar agor i geisiadau gan sefydliadau a reoleiddir neu sydd wedi’u cofrestru yng Nghymru, ac sy’n gweithredu o Gymru, oni nodir yn wahanol ym meini prawf cymhwysedd y sector. 
  • Ni all unigolion wneud cais yn uniongyrchol am gyllid. 
  • Nid oes angen i gyfranogwyr fod yn ddinasyddion y DU. 
  • Ni fydd Taith yn ariannu gweithgareddau a ariennir eisoes drwy raglenni ariannu cenedlaethol neu ryngwladol eraill.
  • Anogir dwyochredd a gellir gwneud cais am gyllid ychwanegol i gefnogi hyn.

3.2. Dwyochredd

Mae Taith yn ariannu sefydliadau cymwys yng Nghymru i ymgymryd â symudedd allanol a chymryd rhan mewn cydweithrediadau strategol. Mae egwyddorion dwyochredd a dysgu ar y cyd yn ganolog i Taith ac felly mae gennym arian grant ychwanegol ar gael y gall sefydliadau wneud cais amdano i ariannu gweithgarwch partner rhyngwladol.

Mae’n bwysig deall y derminoleg mewn perthynas â gweithgareddau symudedd allanol a mewnol a cheir crynodeb byr isod:

  • Y sefydliad sy’n gwneud cais yw’r sefydliad yng Nghymru sy’n gwneud cais am gyllid i Taith. 
  • Y sefydliad sy’n derbyn yw’r sefydliad partner rhyngwladol a fydd yn croesawu cyfranogwyr o’r sefydliad sy’n gwneud cais, neu’n gweithredu fel partner rhyngwladol mewn cydweithrediad strategol.
  • Mae’r sefydliad sy’n anfon yn sefydliad sydd wedi’i gofrestru ac yn gweithredu y tu allan i’r DU sy’n anfon cyfranogwyr i’w lletya gan y sefydliad sy’n gwneud cais fel rhan o weithgaredd symudedd mewnol.

Ceir rhagor o wybodaeth am gyllid cyfatebol yng Nghanllawiau Llwybr 1 a 2.

Argymhellir bod Derbynwyr Grant yn sicrhau bod ganddynt gytundeb(au) priodol yn eu lle gyda’r sefydliadau sy’n derbyn y grant cyn i weithgarwch prosiect neu symudedd allanol ddigwydd. Argymhellir hefyd bod gan sefydliadau anfon gytundeb(au) priodol ar waith gyda’r sefydliadau sy’n gwneud cais yng Nghymru cyn i unrhyw symudedd mewnol ddigwydd.

3.3. Cyrchwledydd a thiriogaethau cymwys

Mae Taith ar agor i bob gwlad yn y byd, ond mae’n rhaid dilyn cyngor teithio Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu (FCDO) Llywodraeth y DU. Ni fydd Taith yn ariannu teithio i wledydd/rhanbarthau lle mae’r FCDO yn cynghori yn erbyn teithio tramor. Pan fo amgylchiadau’n newid mewn gwlad y mae Derbynwyr Grant yn cynllunio symudedd iddi, sy’n arwain at gyngor FCDO yn erbyn teithio tramor, rhaid i’r Derbynnydd Grant wneud trefniadau amgen megis aildrefnu’r symudedd i wlad gyrchfan wahanol. Cyn gwneud unrhyw newidiadau, dylai Derbynwyr Grant gysylltu â Bwrdd Gweithredol Taith i drafod/cytuno.

Mae cyrchwledydd wedi’u dosbarthu’n grwpiau ar sail y costau byw cymharol ym mhob gwlad:

  • Grŵp 1 (Costau byw uwch) 
  • Grŵp 2 (Costau byw canolig)
  • Grŵp 3 (Costau byw is)  

   

Gweler Atodiad 1 – dosbarthiad gwledydd i gael rhagor o wybodaeth a rhestr lawn o wledydd a’u grwpiau.