2. Trosolwg o raglen Taith
Taith yw rhaglen cyfnewid dysgu rhyngwladol Cymru a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Mae ar gyfer pobl ym mhob rhan o Gymru, ym mhob sector addysg – Ysgolion, Ieuenctid, Addysg Oedolion, Addysg Bellach, Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol, ac Addysg Uwch, a phob math o addysg – ffurfiol, anffurfiol a heb fod yn ffurfiol.
Mae ein strategaeth yn canolbwyntio ar wneud cyfnewid rhyngwladol yn fwy cynhwysol a hygyrch. Nod Taith yw rhoi cyfle i gyfranogwyr o bob oed ac o bob cefndir ledled Cymru elwa ar gyfleoedd rhyngwladol. Bydd y rhaglen yn cynnwys teithiau cyfnewid rhyngwladol i ddysgwyr, pobl ifanc, gwirfoddolwyr, ymchwilwyr a staff ar draws y sectorau addysg ac ieuenctid, yn amrywio o nifer o ddyddiau i flwyddyn o hyd.
Mae Taith ar gyfer unigolion yn y sectorau canlynol yng Nghymru:
- Ysgolion
- Ieuenctid
- Addysg Oedolion
- Addysg Bellach, Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol
- Addysg Uwch
Mae dwyochredd yn ganolog i Taith, ac mae cyllid ar gael i ddysgwyr a staff rhyngwladol deithio i Gymru i ddysgu, gweithio a gwirfoddoli.
2.1. Ein pwrpas
Creu cyfleoedd sy’n newid bywydau dysgwyr a phobl ifanc ledled Cymru drwy gyfnewidfeydd dysgu rhyngwladol.
2.2. Ein cenhadaeth
Ariannu cyfleoedd cyfnewid addysgol rhyngwladol cynhwysol a hygyrch i ddysgwyr a staff ledled Cymru, gyda chyfleoedd i ddysgwyr a staff rhyngwladol ymweld â phartneriaid yng Nghymru.
Bydd Taith yn annog cyfranogiad gan bobl o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol – gan gynnwys y rhai o gefndiroedd difreintiedig, cefndiroedd lleiafrifoedd ethnig, pobl Anabl a phobl ag anghenion dysgu ychwanegol.
2.3. Ein hamcanion
Mae gan Taith dri phrif amcan
- Sicrhau bod cyfnewidiau’n darparu’r effaith fwyaf
- Ariannu prosiectau cyfnewid dysgu o safon uchel
- Cefnogi arloesedd addysg yng Nghymru
2.4. Effeithiau ehangach
- Hyrwyddo diwylliant, treftadaeth a’r iaith Gymraeg;
- Hyrwyddo Cymru fel gwlad gydweithredol a chroesawgar sy’n edrych tu hwnt i’w ffiniau;
- Ymgorffori ymagwedd ryngwladol yn y sectorau addysg ar draws Cymru;
- Ysgogi rhagoriaeth addysgol ac arloesedd i ategu strategaethau presennol Llywodraeth Cymru;
- Datblygu dysgu ieithoedd a dealltwriaeth ryngddiwylliannol ar draws Cymru.
Mae ein strategaeth lawn ar gael yma
2.5. Deall ein Llwybrau ariannu
Mae gan Taith ddau lwybr ariannu:
Llwybr 1 – Symudedd cyfranogwyr
Mae’r llwybr hwn yn cefnogi gweithgareddau symudedd allanol a mewnol corfforol a rhithwir ar gyfer unigolion neu grwpiau o unigolion, er mwyn rhoi cyfleoedd iddynt ddysgu, gweithio neu wirfoddoli dramor am gyfnod hir neu fyr. Mae’r Llwybr hwn yn agored i ymgeiswyr o sefydliadau ar draws holl sectorau Taith, gan gynnwys Ysgolion, Ieuenctid, Addysg Oedolion, Addysg Bellach ac Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol ac Addysg Uwch. Ceir gwybodaeth fanwl am weithgareddau cymwys, costau cymwys a hyd prosiectau ar gyfer pob sector yng Nghanllawiau penodol Llwybr 1.
Llwybr 2 – Partneriaeth a chydweithio strategol
Mae’r llwybr hwn yn cefnogi datblygiad prosiectau cydweithredol rhyngwladol a arweinir gan sefydliadau addysg a hyfforddiant yng Nghymru. Mae’r Llwybr hwn yn agored i sefydliadau yn y sectorau Ysgolion, Ieuenctid, Addysg Oedolion ac Addysg Bellach ac Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol.
Ceir gwybodaeth fanwl am weithgareddau cymwys, costau cymwys a hyd prosiectau yng Nghanllaw Llwybr 2.
2.6. Cefnogaeth ychwanegol gan Hyrwyddwyr Taith
Er mwyn sicrhau bod sefydliadau sydd â diddordeb mewn gwneud cais am gyllid Taith yn cael eu cefnogi’n llawn drwy’r broses, rydym wedi ymgysylltu â Hyrwyddwyr Taith yn y sectorau Ysgolion, Ieuenctid ac Addysg Oedolion. Rôl Hyrwyddwyr Taith yw codi ymwybyddiaeth a hyrwyddo Taith ymhlith sefydliadau yn eu sector perthnasol, a darparu cyngor a chefnogaeth i fudiadau i wneud cais am arian ac i gynllunio a rhedeg prosiectau. Bydd Hyrwyddwyr Taith yn canolbwyntio’n benodol ar ymgysylltu â sefydliadau sydd ag ychydig neu ddim profiad o gyfnewid rhyngwladol a chyda llai o adnoddau ar gael, a’r rhai sy’n gweithio gyda’r mwyaf difreintiedig, y rhai o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig a phobl anabl a/neu’r rhai ag Anghenion Dysgu Ychwanegol. Am ragor o wybodaeth a manylion cyswllt ar gyfer Hyrwyddwyr Taith, ewch i wefan Taith.