Gofynnwn i bawb sy’n cymryd rhan yn un o’r prosiectau symudedd a ariennir gan Taith ddogfennu eu profiad drwy dynnu lluniau ffotograffig a recordio fideos. Rhoddir y rhain wedyn i Taith i’w defnyddio at ddibenion marchnata a chyfathrebu.
Er nad yw’n orfodaeth, mae mynd ati’n benodol i roi gwybod am yr effaith a gafodd eich gweithgarwch a ariannwyd gan Taith yn agwedd hynod bwysig ar y rhaglen ac mae tîm Taith yn gwerthfawrogi’ch cymorth wrth gasglu’r cynnwys hwn yn fawr iawn.
Bydd eich lluniau a/neu fideos yn cael eu defnyddio i roi gwybod am hanes eich profiad a ariannwyd gan Taith ar ein gwefan ac ar sianeli ein cyfryngau cymdeithasol. Hwyrach y bydd rhai delweddau yn cael eu defnyddio at ddibenion deunyddiau hyrwyddo megis taflenni, pamffledi neu faneri naid.
Mae’r canllaw hwn yn cynnwys rhai syniadau a awgrymir i’w cadw mewn cof pan fyddwch chi’n dogfennu eich taith:
Cydsyniad:
Mae’n rhaid i unigolyn neu grŵp o unigolion roi ei gydsyniad priodol yn achos pob delwedd/fideo. Bydd gan bob ysgol a mwyafrif y sefydliadau dysgu eu gweithdrefnau caniatâd/cydsyniad eu hunain a byddwch yn glynu wrth y rhain wrth rannu cynnwys â’ch sianeli ar y cyfryngau cymdeithasol. Bydd Taith yn anfon ffurflenni cydsyniad pan fydd angen hyn.
Dal yr effaith addysgol:
Er bod mynd allan a blasu gwlad/diwylliant newydd (a hwyrach y bydd hyn yn cynnwys bwyd, diod, gweithgareddau sy’n llawn hwyl ac ati) yn bethau gwych i’w gweld ac yn agwedd bwysig ar eich symudedd/prosiect, mae’n hanfodol eich bod yn cyfleu’r agwedd ddysgu ar eich profiad, gan roi enghreifftiau gan gynnwys:
- sut mae’n wahanol
- sut y bydd yn datblygu addysg yng Nghymru
- sut y bydd yn helpu dysgwyr yng Nghymru
- sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i unigolion/ysgolion/sefydliadau/y gymuned ehangach, ac ati
Profiad personol:
Weithiau, bydd hanesion pobl unigol yn cael llawer o effaith. Os dyma’r tro cyntaf erioed i rywun deithio dramor/mynd ar awyren, mae dal y profiad hwnnw mewn blog fideo (cofnod ar ffurf fideo) – efallai y bydd hyn ar ffurf dyddiadur fideo byr dyddiol o’r daith er enghraifft – yn ffordd effeithiol o roi gwybod am eich hanes, gan gyfleu felly eich neges.
Y naws:
Gan fod y rhain yn glipiau fideo gonest a phersonol a heb fod yn ffilmiau marchnata hynod raenus sy’n cael eu creu’n broffesiynol, byddem yn disgwyl i naws ac iaith unrhyw flogiau fideo fod yn gyfeillgar ac yn anffurfiol; gorau po naturiol a dilys.
Safon:
Nid ydym yn disgwyl delweddau arbenigol na fideos caboledig iawn. Mae tynnu lluniau/hunluniau/clipiau fideo ar eich ffôn fel y byddech chi wrth ddal unrhyw brofiad yn hen ddigon ac yn ychwanegu at ddilysrwydd yr hanes sy’n cael ei adrodd.
Nifer:
Wrth dynnu lluniau o grŵp, ceisiwch gymryd nifer o’r rhain gan y bydd rhywun â’i lygaid ar gau bob amser neu’n edrych y ffordd anghywir. Mae tynnu nifer o luniau’n golygu y bydd llun braf lle mae pawb yn edrych i gyfeiriad y camera.
Amrywiaeth:
O ran y lluniau, rydym yn croesawu ystod o rai byrfyfyr sy’n dal eich profiad yn llawn. Ymhlith y rhain bydd:
- lluniau o grŵp mewn ystod o leoliadau megis lleoedd arbennig neu bwysig neu leoliadau dysgu
- lluniau o unigolion/grwpiau sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau
- y sawl sy’n cymryd rhan wrthi’n dangos eu gwaith neu’u prosiectau
Ychydig o awgrymiadau cyflym ar gyfer ffilmio
Er mwyn cael y gorau o’ch ffilmio, cofiwch y canlynol:
- Wrth ddefnyddio ffôn clyfar, cofiwch droi’r camera yn llorweddol, felly siâp tirlun, yn hytrach na phortread (Meddyliwch am ddangos y llun ar deledu, neu sgrin cyfrifiadur yn hytrach na ffôn symudol).
- Golau haul llachar sydd orau bob amser ar gyfer lluniau clir, yn enwedig gyda ffonau camera, ond cofiwch beidio â ffilmio’ch testun yn erbyn ffenestr neu gyda’r haul y tu ôl iddynt gan y byddant yn ymddangos yn siâp du yn unig.
- Ceisiwch gael cymysgedd gwahanol o safbwyntiau, hynny yw, maint y lluniau. Gwnewch yn siŵr bod gennych safbwynt eang i ddangos grwpiau mwy o bobl, safbwynt agos i ddangos unrhyw waith cymhleth, a rhai canolig, efallai o ganol y corff i fyny.
- Gwnewch yn siŵr bod gennych luniau statig sy’n dangos y gweithgaredd yn glir, ond peidiwch â bod ofn cael hwyl a bod yn greadigol. Defnyddiwch onglau diddorol, chwiliwch am safbwyntiau gwahanol (efallai ceisiwch orwedd ar y llawr i greu llun neu safbwynt anarferol, neu ddal y camera’n uchel uwch eich pen er mwyn gweld ystafell gyfan – efallai y bydd yn teimlo ychydig yn od ond efallai y cewch chi safbwynt wych hefyd).
- Ceisiwch gadw’ch lluniau llonydd yn sefydlog gyda thrybedd, neu rhowch y camera ar ddesg neu fwrdd. Os ydych chi’n gafael yn y camera â’ch llaw, a does dim byd gennych i’w gadw’n sefydlog, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n symud yn araf gan y bydd hyn yn lleihau unrhyw siglo neu ysgwyd. Gall modrwyon dwbl (gimbal) a sadwyr ar gyfer ffonau fod ychydig yn ddrud, ond bydd ffon hunlun syml yn eich helpu i gadw’ch lluniau’n sefydlog.
- Tynnwch gymaint o luniau a ffilmiwch gymaint ag y gallwch. Gall hyd yn oed y ddelwedd fwyaf dibwys weithiau helpu i bortreadu’ch prosiect mewn ffyrdd annisgwyl.
Cysylltwch â:
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ffotograffiaeth a/neu fideo mewn perthynas â’ch prosiect neu’ch symudedd a ariennir gan Taith, ebostiwch: cefnogaeth@taith.cymru
Templedi cyfryngau a chanllawiau brandio