Ceisiadau gan yr unigolyn
Os ydych am gael mynediad i’ch data personol eich hun, neu os oes gennych awdurdod i weithredu ar ran unigolyn, gallwch gyflwyno Cais am Fynediad at Ddata.
Gellir e-bostio cais gwrthrych am wybodaeth i ymholiadau@taith.cymru a dylai fe gynnwys y wybodaeth ganlynol:
- Eich enw, eich manylion adnabod a’ch manylion cyswllt
- Unrhyw enw arall yr oeddech yn cael eich galw gan Taith
- Disgrifiad o’r wybodaeth rydych yn chwilio amdani. Lle bo’n bosibl, dylech gynnwys:
- y cyfnod amser sy’n cwmpasu eich cais
- dogfennau penodol Taith
Os ydych yn gwneud cais ar ran unigolyn arall, rhannwch gopi o’r awdurdod a gawsoch i wneud y cais hwn ar ei ran.
Y manylion adnabod sydd eu hangen arnom yw’r canlynol:
Ar gyfer ceisiadau gan unigolion:
- Copi o basbort neu drwydded yrru dilys
Ar gyfer ceisiadau a wneir ar ran pobl eraill, cwmnïau cyfreithiol trydydd parti yn y DU sy’n gweithredu ar ran yr unigolyn dan sylw, rydym yn gofyn am ffurflen awdurdodi i weithredu ar ran yr unigolyn dan sylw ynghylch SAR.
Efallai y bydd angen I Taith ofyn am wybodaeth ychwanegol gan yr unigolion sy’n gwneud ceisiadau i nodi’r pwnc neu i sefydlu’r awdurdod i gael gwybodaeth. Efallai y bydd angen i ni hefyd ymgynghori â thrydydd partïon lle mae gwybodaeth yn cynnwys eu data personol yn ogystal â’r unigolion sydd wedi rhannu eu data.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael am eich hawl i gael mynediad at eich gwybodaeth bersonol ar wefan y Comisiynydd Gwybodaeth yn: Eich hawl i gael mynediad | ICO
Ceisiadau gan yr Heddlu neu swyddogion gorfodi’r gyfraith eraill
O dan Ddeddf Diogelu Data 2018 gall y Brifysgol rannu data personol gyda’r Heddlu neu awdurdodau cymwys eraill mewn rhai amgylchiadau, gan gynnwys ar gyfer atal neu ganfod troseddau, dal neu erlyn troseddwyr, neu asesu neu gasglu trethi neu dollau.
Dylai awdurdodau sy’n dymuno gwneud cais o dan Adran 29(3) Ddeddf Diogelu Data 2018 ebostio inforequest@caerdydd.ac.uk yn rhoi naill ai:
1. y Cais i sefydliadau allanol am ddatgelu data personol i ffurflen yr Heddlu
neu
2. y manylion perthnasol canlynol:
- enw/gwybodaeth adnabod yr unigolyn/unigolion;
- manylion am y wybodaeth sy’n ofynnol;
- y diben y mae angen y wybodaeth y gofynnir amdani ar ei gyfer.
Bydd y cais yn cael ei adolygu, a darperir gwybodaeth lle ystyrir ei bod yn angenrheidiol ac yn gymesur â’r diben y gofynnir amdani, yn unol â chyfrifoldebau’r Brifysgol o dan GDPR y DU.