Llwybr 2 2024 yn agor 3 Hydref a bydd y dyddiad cau ar 21 Tachwedd

Cysylltwch

Ceisiadau am wybodaeth

Mae Taith wedi’i chofrestru â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) fel Rheolwr Data. Fel rheolwr a phrosesydd data personol mae gennym ymrwymiadau mewn perthynas â gwybodaeth bersonol unigolion, i gefnogi hawliau unigolion i gael gafael ar eu gwybodaeth bersonol ac i sicrhau bod unrhyw rannu data personol yn cael ei wneud yn gyfrifol yn unol â deddfwriaeth diogelu data. 

Yn ogystal, Rhaglen sy’n cael ei chyllido gan Lywodraeth Cymru yw Taith. Mae’n cael ei gweithredu gan International Learning Exchange Programme (ILEP) Ltd, gweithredwr y rhaglen sy’n un o is-gyrff Prifysgol Caerdydd. Mae’r Brifysgol yn awdurdod cyhoeddus at ddibenion Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004. Fel y cyfryw, rhaid iddi Taith gydymffurfio â cheisiadau dilys gan y cyhoedd i roi gwybodaeth sydd ganddi oni bai bod y wybodaeth benodol honno wedi’i heithrio rhag cael ei datgelu. 

Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn rhoi’r hawl i’r cyhoedd gael gafael ar wybodaeth a gedwir gan awdurdodau cyhoeddus neu ofyn amdani. 

Rydym wedi ymrwymo i fod yn agored ac yn dryloyw ac yn cyhoeddi ystod eang o wybodaeth am weithgareddau Taith ar ein gwefan. Rydym hefyd yn cynnal cynllun cyhoeddi sy’n nodi gwybodaeth sydd ar gael i’r cyhoedd. 

Os nad yw’r wybodaeth ar gael drwy ein gwefan neu gynllun cyhoeddi, gallwch gyflwyno cais ysgrifenedig am wybodaeth. Mae gwybodaeth benodol wedi’i heithrio rhag cael ei datgelu ac mae gennym hawl i wrthod ymateb i geisiadau trallodus ac ailadroddus. Mae rhestr lawn o eithriadau ar gael gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth. 

Mae Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 yn llywodraethu ceisiadau am wybodaeth amgylcheddol. Rydym yn cyhoeddi gwybodaeth am ymrwymiad Taith i gynaliadwyedd amgylcheddol ar ein gwefan, a, lle na chyhoeddir gwybodaeth gallwch gyflwyno cais am wybodaeth amgylcheddol. 

Mae gwybodaeth amgylcheddol yn cynnwys: 

  • cyflwr unrhyw ddŵr neu aer, cyflwr unrhyw fflora neu ffawna, cyflwr unrhyw bridd, neu gyflwr unrhyw safle naturiol neu dir arall 
  • gwastraff, allyriadau a gollyngiadau i’r amgylchedd 
  • unrhyw weithgareddau neu fesurau gweinyddol neu fesurau eraill (gan gynnwys unrhyw raglenni rheoli amgylcheddol) sydd wedi’u cynllunio i ddiogelu’r rhain 
  • cyflwr iechyd a diogelwch pobl, gan gynnwys halogi’r gadwyn fwyd. 

Nid yw bob amser yn bosibl rhyddhau gwybodaeth amgylcheddol. Mae manylion eithriadau i’r ddyletswydd i ddatgelu gwybodaeth amgylcheddol yn Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004. 

Mae GDPR y DU a Deddf Diogelu Data 2018 yn nodi’r egwyddorion a’r ymrwymiadau eraill y mae’n rhaid i sefydliadau eu dilyn er mwyn gwneud yn siŵr bod data personol unigolyn yn cael ei gasglu, ei ddefnyddio a’i gadw’n gyfrifol. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am sut mae Taith yn ymdrin â’r cyfrifoldeb hwn ar ein tudalenPolisi Preifatrwydd. Rydym yn nodi manylion ynghylch pa ddata personol rydym yn ei gasglu, sut y gellir ei ddefnyddio ac i bwy y gallwn ddatgelu’r data. Rydym hefyd yn rhoi gwybodaeth am hawliau unigolyn a sut y gall arfer yr hawliau hynny, gan gynnwys yr hawl i gael mynediad. 

Cyn cyflwyno unrhyw gais am wybodaeth, rydym yn eich annog i wirio ein cynllun cyhoeddi  i wneud yn siŵr nad yw’r wybodaeth eisoes ar gael i’r cyhoedd i arbed amser ac adnoddau. 

Er mwyn i gais fod yn ddilys o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, rhaid iddo: 

  • fod yn ysgrifenedig; 
  • cynnwys eich enw a chyfeiriad ar gyfer gohebiaeth; 
  • disgrifio’r wybodaeth rydych chi’n gofyn amdani. 

Anfonwch ebost at geisiadau Rhyddid Gwybodaeth a Gwybodaeth Amgylcheddol i ymholiadau@taith.cymru. 

Os nad yw’n glir o’ch gohebiaeth pa wybodaeth rydych chi’n chwilio amdani, bydd angen i ni ofyn i chi am eglurhad, a gall hyn effeithio ar yr amserlen ar gyfer ymateb. Mae gwybodaeth am y gofynion cyfreithiol ar gyfer gwneud cais dilys dan y Ddeddf ar gael ar wefan y Comisiynydd Gwybodaeth. 

Gallwch ddisgwyl ymateb oddi wrthym cyn pen 20 diwrnod gwaith ar ôl derbyn eich cais. 

  • cadarnhau a ydym yn cadw’r wybodaeth a 
  • naill ai rhoi copi neu grynodeb o’r wybodaeth neu ddweud wrthych pam mae’r wybodaeth wedi’i chadw’n ôl 

Mae sawl math ar wybodaeth y mae Taith yn ei dal nad yw’n ofynnol i ni ei rhyddhau. Cyfeirir at y rhain fel eithriadau ac maent yn cynnwys: 

  • data personol sy’n dod o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 
  • gwybodaeth sydd i’w chyhoeddi yn y dyfodol 
  • gwybodaeth a fyddai’n niweidio buddiannau masnachol 
  • manylion a gwybodaeth diogelwch a allai beryglu unrhyw berson 
  • gwybodaeth a fyddai’n niweidio’r ffordd y rhedir materion cyhoeddus 
  • gwybodaeth a gynhyrchwyd yn wreiddiol yn gyfrinachol ac sy’n dal i fod yn gyfrinachol yn gyfreithiol 
  • gwybodaeth sydd ar gael yn ein cynllun cyhoeddi. 

Mewn rhai achosion mae’n ofynnol i ni ystyried budd y cyhoedd wrth ddatgelu’r wybodaeth a byddwn yn egluro hyn i chi yn ein hymateb. Lle mae Taith yn gwrthod rhyddhau gwybodaeth wrth ymateb i gais byddwn yn nodi pa eithriad sy’n berthnasol ac fel arfer yn rhoi esboniad.  At hynny, mewn rhai amgylchiadau, ni fydd yn rhaid i ni gadarnhau na gwadu a oes gennym y wybodaeth y gofynnwyd amdani a bydd ein hymateb yn nodi ein rhesymau. 

Mae Taith yn cadw’r hawl i wrthod ceisiadau trallodus ac ailadroddus. 

Mae rhestr lawn o eithriadau ar gael gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth. 

Gellir codi tâl lle mae costau atgynhyrchu’r wybodaeth ar y fformat y gofynnwyd amdano ac unrhyw ffioedd postio/cludwyr sy’n ofynnol yn gwneud cyfanswm o £10 neu ragor. Fel arfer ni chodir tâl am amser staff wrth ymateb i’r cais. 

O dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth nid yw’n ofynnol i’r Brifysgol ymateb i geisiadau lle byddai’n costio dros £450 mewn amser staff i ni ddod o hyd i’r wybodaeth a’i hadalw. 

Pe dewisem ymateb i gais o’r fath, byddai rhybudd ffioedd yn cael ei rhoi i’r sawl sy’n holi gan nodi’r costau a amcangyfrifir sydd ynghlwm wrth y cais. Pan fyddai’r ffi wedi cael ei chasglu’n unig y byddai’r gwaith yn mynd rhagddo. Os nad oedd y ffi wedi’i chasglu cyn pen 60 diwrnod gwaith byddir yn tybio bod y cais wedi’i dynnu’n ôl. 

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein Polisi Ffioedd Gwybodaeth. 

Os ydych yn anfodlon â chanlyniad eich cais, neu’r broses o ymdrin â’ch cais, gallwch gyflwyno cais ysgrifenedig am Adolygiad Mewnol i: 

ebost: ymholiadau@taith.cymru

neu:

Pennaeth Gweithrediadau
Taith
Unedau 5a a 5b
Sbarc
Heol Maendy 
Cathays
Caerdydd
CF24 4HQ 

Dylid cyflwyno eich cyflwyniad ar gyfer Adolygiad Mewnol o fewn 40 diwrnod gwaith i gyhoeddi ein hymateb cychwynnol i’ch cais. Rhowch eich cyfeirnod unigryw o’ch cais, gwybodaeth am pam eich bod yn anfodlon ac unrhyw fanylion yr hoffech i ni eu hystyried fel rhan o broses yr Adolygiad Mewnol. 

Byddwn yn ceisio ymateb i’ch cais am Adolygiad Mewnol o fewn 20 diwrnod gwaith.  Byddwn yn rhoi gwybod i chi os ydym yn disgwyl i’r adolygiad gymryd mwy nag 20 diwrnod a rhoi dyddiad disgwyliedig i chi i gael ymateb. 

Os ydych yn anfodlon â’r canlyniad i’ch cais am Adolygiad Mewnol, mae gennych hawl i wneud cais i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn: 

Information Commissioner’s Office
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Sir Gaer
SK9 5AF 

Dewch ar daith gyda ni

Cofrestrwch i fod ar ein rhestr bostio i gael y newyddion diweddaraf ynglŷn â’r rhaglen.

Drwy gofrestru, rydych chi’n cytuno â’n polisi preifatrwyddy, gan gynnwys trosglwyddo eich gwybodaeth i’n platfform marchnata, Mailchimp. Gallwch ddad-danysgrifio ar unrhyw adeg.