Cysylltwch
Cyhoeddi Digidol

Canllaw Craidd Rhaglen Taith 2023

Fersiwn 1.0, 5ed Hydref 2023

8. Apeliadau a chwynion

Ffurfiant craig mawr ac o’i amgylch mae nifer o goed gwahanol. Ceir awyr las.

8.1. Apeliadau

Diffinnir apêl yn gais i adolygu penderfyniad a wnaed gan Taith os bydd ymgeisydd yr apêl yn ystyried nad yw gweithdrefnau’r rhaglen gyhoeddedig wedi cael eu dilyn. 

Dim ond sefydliad sy’n gwneud cais (y person neu’r sefydliad sy’n cyflwyno cais am grant i Taith) all gyflwyno apêl, os bydd ymgeisydd yr apêl yn gallu rhoi tystiolaeth o gamgymeriad gweinyddol gan Taith neu os na chadwyd at weithdrefnau cyhoeddedig. Os nad yw’r amgylchiadau hyn yn berthnasol, cyfeiriwch at Weithdrefn Gwyno Taith.

Ni ellir ystyried gwybodaeth na chafodd ei chynnwys yn y cais gwreiddiol ar gyfer apêl.  

I gael rhagor o wybodaeth am apeliadau gweler y tudalennau perthnasol ar wefan Taith https://www.taith.cymru/apeliadau-a-chwynion/ 

8.2. Cwynion

Diffinnir cwyn fel anfodlonrwydd â gwasanaeth y bydd Taith yn ei roi’n uniongyrchol. Os bydd y gŵyn yn ymwneud â gwasanaeth gan sefydliad sy’n fuddiolwr neu’n gyd-fuddiolwr ac sydd wedi cael ei ariannu gan y rhaglen, dilynwch weithdrefn gwyno’r sefydliad sy’n fuddiolwr neu’n gyd-fuddiolwr cyn cyflwyno cwyn i Taith. Gallwch gyflwyno cwyn i Taith unrhyw bryd yn ystod y broses o wneud cais neu ar bob cam o broses y prosiect.  

I gael rhagor o wybodaeth am weithdrefn gwyno Taith gweler y tudalennau perthnasol ar wefan Taith https://www.taith.cymru/apeliadau-a-chwynion/