Atodiad 1 – Categorïau grwpiau gwlad / tiriogaeth
Bydd sefydliadau llwyddiannus yn cael grant i gynnig lleoliadau cyfnewid dramor, gan gynnwys grantiau cynhaliaeth er mwyn helpu’r cyfranogwyr i dalu costau byw yn y gyrchwlad.
Mae cyrchwledydd wedi’u dosbarthu’n dri grŵp ar sail y costau byw perthynol yn y gyrchwlad. Drwy gydol y gweithgaredd cyfnewid, bydd cyfranogwyr yn cael y swm cynhaliaeth sy’n berthnasol (cyfradd ddyddiol), yn dibynnu ar hyd y gweithgaredd cyfnewid a’r gyrchwlad.
Gofynnir i sefydliadau nodi nifer y lleoliadau cyfnewid disgwyliedig fesul cyrchwlad wrth wneud cais. Mae’r tri grŵp fel a ganlyn:
- Grŵp 1 (Costau byw uwch)
- Grŵp 2 (Costau byw canolig)
- Grŵp 3 (Costau byw is)
Bydd Cymru (at ddibenion symudedd mewnol) a’r DU (mewn achosion lle caniateir lleoliadau cyfnewid domestig) yn wledydd Grŵp 1 i adlewyrchu’r costau byw uwch yn y DU.
Mae pob gwlad neu ranbarth wedi’i dosbarthu fel a ganlyn:
Grŵp 1 (Gwledydd/tiriogaethau costau byw uwch) | |
---|---|
Awstralia | Jersey |
Grŵp 2 (Gwledydd/tiriogaethau costau byw canolig) | |
---|---|
Antarctica ac Ynysoedd y De (heb ei nodi fel arall) | Latfia |
Grŵp 3 (Gwledydd costau byw is) | |
---|---|
Albania | Mauritius |
* Mae gweithgareddau cyfnewid rhyngwladol gyda’r gwledydd hyn wedi’u heithrio o alwad am geisiadau Taith 2023. |