Cysylltwch
Cyhoeddi Digidol

Canllaw Craidd Rhaglen Taith 2023

Fersiwn 1.0, 5ed Hydref 2023

Atodiad 2 – Cymorth Cynhwysiant Taith

Mae Taith wedi ymrwymo i wella mynediad at weithgareddau cyfnewid rhyngwladol i bobl Anabl, anghenion dysgu ychwanegol, a’r rhai o gefndiroedd difreintiedig. Rydym yn deall y gall mynediad at gyllid digonol i dalu am gost lleoliad cyfnewid fod yn rhwystr mawr rhag cymryd rhan mewn cyfleoedd rhyngwladol. Mae’r cyllid sy’n cael ei gynnig gan Taith yn cael ei osod ar lefel sy’n ceisio goresgyn y rhan fwyaf o rwystrau ariannol. Mae model grant Taith hefyd yn cynnwys cymorth ariannol ychwanegol i gyfranogwyr difreintiedig (dysgwyr, myfyrwyr a phobl ifanc) ac i gyfranogwyr, gan gynnwys staff, ag anghenion dysgu ychwanegol ac anableddau. Ceir gwybodaeth am gyfraddau grant a’r cyllid sydd ar gael yn y Canllawiau Rhaglen Llwybr perthnasol. 

 

  1. Cyfranogwyr dan anfantais

Mae cyfranogwyr dan anfantais wedi’i ddiffinio fesul sector perthnasol. 

Bydd cyfranogwyr sy’n bodloni un neu fwy o’r meini prawf canlynol yn cael eu hystyried yn gyfranogwyr dan anfantais ac yn gymwys i gael cymorth ariannol ychwanegol:

 

Addysg Uwch:

  • Myfyrwyr lle mae incwm blynyddol y cartref yn £25,000 neu’n llai.
  • Myfyrwyr sy’n cael Credyd Cynhwysol neu fudd-daliadau sy’n seiliedig ar incwm, gan eu bod yn cynnal eu hunain yn ariannol neu’n cynnal eu hunain a rhywun arall sy’n dibynnu arnynt ac yn byw gyda nhw, megis plentyn neu bartner, yn ariannol.
  • Myfyrwyr sydd â phrofiad o fod mewn gofal. 
  • Myfyrwyr sydd â chyfrifoldebau gofalu.1
  • Myfyrwyr sydd wedi ymddieithrio (fel y’u diffinnir gan Cyllid Myfyrwyr Cymru).
  • Ffoaduriaid a cheiswyr lloches.

 

AB, AHG ac Addysg i Oedolion:

  • Dysgwyr lle mae incwm blynyddol y cartref yn £25,000 neu’n llai.
  • Dysgwyr sy’n cael Credyd Cynhwysol neu fudd-daliadau sy’n seiliedig ar incwm, gan eu bod yn cynnal eu hunain yn ariannol neu’n cynnal eu hunain a rhywun arall sy’n dibynnu arnynt ac yn byw gyda nhw, fel plentyn neu bartner, yn ariannol.
  • Dysgwyr sydd â phrofiad o fod mewn gofal.1
  • Dysgwyr sydd â chyfrifoldebau gofalu.
  • Ffoaduriaid a cheiswyr lloches.

 

Schools:

  • Disgyblion lle mae incwm blynyddol y cartref yn £25,000 neu’n llai.
  • Disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim. 
  • Disgyblion sydd â phrofiad o fod mewn gofal.1
  • Disgyblion sydd â chyfrifoldebau gofalu.
  • Ffoaduriaid a cheiswyr lloches.

 

Ieuenctid

  • Pobl ifanc lle mae incwm blynyddol y cartref yn £25,000 neu’n llai.
  • Pobl ifanc sy’n cael Credyd Cynhwysol neu fudd-daliadau sy’n seiliedig ar incwm, gan eu bod yn cynnal eu hunain yn ariannol neu’n cynnal eu hunain a rhywun arall sy’n dibynnu arnynt ac yn byw gyda nhw, fel plentyn neu bartner, yn ariannol.
  • Pobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal.1
  • Pobl ifanc sydd â chyfrifoldebau gofalu.
  • Ffoaduriaid a cheiswyr lloches.

 

  1. Unigolion ag anableddau ac anghenion dysgu ychwanegol

Mae Taith wedi ymrwymo i fod yn gynhwysol a helpu’r rhai sydd â chyflyrau iechyd, boed yn rhai ffisegol neu feddyliol, i gymryd rhan. Felly, bydd Taith yn cynnig grant i unigolion ag anableddau a / neu anghenion dysgu ychwanegol i hyd at 100% o gostau gwirioneddol cymorth sy’n uniongyrchol gysylltiedig â’u hanghenion ychwanegol. 

Gall cymorth o’r fath gynnwys gwneud asesiadau risg yn rhan o ymweliad paratoadol a sicrhau bod y cymorth sydd ei angen ar gyfer ymgymryd â’r lleoliad cyfnewid ar gael, cyllido aelodau ychwanegol o staff i gefnogi’r unigolyn a / neu dalu am offer / addasiadau / adnoddau sydd eu hangen ar yr unigolyn i gyfranogi. Mae rhagor o wybodaeth am ymweliadau paratoadol ar gael yn adran gweithgareddau cymwys y Canllaw Rhaglen.

1 Mae hyn yn cyfeirio at unrhyw un sydd wedi bod mewn gofal yn y gorffennol, sydd mewn gofal ar hyn o bryd neu sydd wedi derbyn gofal, am faint bynnag o amser, ar unrhyw adeg yn ystod eu bywyd, gan gynnwys unrhyw un a gafodd ei fabwysiadu a oedd yn derbyn gofal gynt neu sy’n cael bwrsari i fyfyrwyr â phrofiad o fod mewn gofal mewn rhannau eraill o’r DU.