Cysylltwch
Cyhoeddi Digidol

Canllaw Craidd Rhaglen Taith 2023

Fersiwn 1.0, 5ed Hydref 2023

Atodiad 3 - Gwybodaeth ychwanegol am weithdrefnau Diogelu

Mae’n rhaid i’r camau canlynol gael eu cymryd yn rhan o weithdrefnau diogelu sefydliad sy’n gwneud cais:

Cynllunio
  • Gwneud asesiadau risg, a lle bo’n briodol, hysbysu’r awdurdod lleol o’r ymweliad. 
  • Cael trafodaethau gyda’r sefydliadau partner er mwyn deall eu polisïau a’u gweithdrefnau diogelu a chymryd camau i sicrhau diogelwch yr unigolion sy’n rhan o’r gweithgaredd bob amser.
  • Os bydd y cyfranogwyr yn aros gyda theuluoedd lletyol – rhannu’r gweithdrefnau diogelu sy’n cefnogi’r broses o nodi ac ymgysylltu â’r teuluoedd hynny yn ysgrifenedig gydag arweinydd diogelu’r sefydliad sy’n gwneud cais a sicrhau ei fod yn fodlon arnynt.
  • Rhoi’r holl wybodaeth am y camau diogelu a gaiff eu cymryd cyn y gweithgaredd, gan gynnwys y gweithdrefnau a’r broses i’w dilyn os bydd argyfwng, i oedolion sy’n gwmni.
  • Trefnu ymweliad paratoadol, lle bo hynny’n ymarferol ac yn briodol.
  • Os bydd y sefydliad sy’n gwneud cais yn cynllunio gweithgareddau lle bydd unigolion dros 18 oed o Gymru’n rhyngweithio ag unigolion dan 18 oed neu oedolion mewn perygl o sefydliadau partner dramor – cytuno ar gamau diogelu priodol ar y cyd â’r sefydliad partner dramor. Rhaid i fanylion y camau hyn gael eu rhannu gyda’r cyfranogwyr i sicrhau dealltwriaeth ohonynt a chydymffurfiaeth, a bod unrhyw ofynion yn cael eu gweithredu.
Oedolion sy’n gwmni
  • Os bydd oedolion sy’n gwmni (staff neu fel arall) yn dod i gysylltiad ag unigolion dan 18 oed ac oedolion mewn perygl yn rhan o unrhyw weithgareddau arfaethedig (gan gynnwys lleoliadau cyfnewid rhithwir) – gofyn i’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG) wneud gwiriad manwl.
  • Cytuno ar gymhareb unigolyn-oedolyn sy’n gwmni drwy ystyried oedran yr unigolion, anghenion ychwanegol unrhyw rai o’r unigolion a’r cymorth penodol sydd ei angen arnynt, natur y gweithgareddau, profiad yr oedolion sy’n gwmni, hyd y gweithgareddau ac unrhyw arosiadau dros nos.
  • Gwneud pob oedolyn sy’n gwmni’n ymwybodol o’i rôl a’i gyfrifoldebau ymlaen llaw.
  • Pennu gweithdrefnau recriwtio diogel sy’n sgrinio ymgeiswyr i fod yn oedolyn sy’n gwmni (staff a gwirfoddolwyr) yn ofalus.
  • Trefnu bod cymorth priodol ar gael i bob oedolyn sy’n gwmni, gan gynnwys hyfforddiant diogelu ac ymsefydlu gorfodol.
  • Gwneud oedolion sy’n gwmni’n ymwybodol o unrhyw broblemau iechyd hysbys sydd gan yr unigolion, gan gynnwys unrhyw feddyginiaethau sy’n cael eu cymryd.
  • Sicrhau bod gan bob oedolyn sy’n gwmni fanylion cyswllt argyfwng pob unigolyn dan 18 oed a phob oedolyn mewn perygl.
Cyfranogwyr ag anableddau a / neu anghenion dysgu ychwanegol
  • Sicrhau bod camau diogelu’n rhoi sylw i unrhyw unigolion dan 18 oed ac oedolion mewn perygl sydd ag anableddau neu anghenion dysgu ychwanegol, a lle bo’n berthnasol, cymryd camau ychwanegol i sicrhau eu diogelwch a’u lles.
Gwybodaeth i rieni / gofalwyr / gwarcheidwaid
  • Rhannu gwybodaeth am y gweithgaredd symudedd, manylion yr hyn y bydd y dysgwyr yn ei wneud a manylion cyswllt argyfwng gyda rhieni / gofalwyr / gwarcheidwaid cyn dechrau unrhyw weithgareddau.
  • Esbonio sut y gellir rhoi gwybod am bryderon ynghylch lles neu achosion o gam-drin, gan gynnwys sut y bydd y rhain yn cael eu trin, i rieni / gofalwyr / gwarcheidwaid cyn dechrau unrhyw weithgareddau.
  • Cyfleu disgwyliadau o ran ymddygiad (côd ymddygiad) i rieni / gofalwyr / gwarcheidwaid a’r cyfranogwyr cyn dechrau unrhyw weithgareddau.
Teuluoedd lletyol (lle bo’n berthnasol)

Mae’n rhaid i bob cam rhesymol gael eu cymryd i sicrhau diogelwch a lles yr unigolion pan fyddant yn aros gyda theulu lletyol. Wrth ddewis a rheoli teuluoedd lletyol, mae angen sicrhau y bydd unigolion dan 18 oed ac oedolion mewn perygl yn ddiogel.

 

Gweithdrefn dewis teuluoedd lletyol:

  • Sicrhau bod gan y sefydliad partner dramor weithdrefn i asesu addasrwydd cartrefi a cheisio cadarnhad ysgrifenedig Rhaid i’r arweinydd diogelu o fewn y sefydliad sy’n gwneud cais lofnodi’r weithdrefn hon yn foddhaol.
  • Sicrhau bod archwiliadau gan yr heddlu (lle bo’n bosibl), ffurflenni hunan-ddatgan (lle bo’n berthnasol), côd ymddygiad, rheolau tŷ, ymweliadau â’r cartref a gwaith i gadarnhau strwythur y teulu ac addasrwydd trefniadau cysgu’n rhan o weithdrefnau dewis.
  • Cyfleu gweithdrefnau dewis i rieni / gofalwyr / gwarcheidwaid a gofyn iddynt gadarnhau’n ysgrifenedig eu bod yn fodlon arnynt
  • Paru teuluoedd ac unigolion yn ofalus drwy roi ystyriaeth i rywedd, deiet, crefydd neu gred ac anghenion ychwanegol.

 

Llety yn ystod ymweliad:

  • Sicrhau bod gan bob cyfranogwr ei wely ei hun mewn ystafell gyda rhywun o’r un rhyw, neu ystafell ar wahân.
  • Sicrhau y gall pob cyfranogwr wisgo, golchi a defnyddio’r toiled yn breifat.
  • Sicrhau bod cynllun wrth gefn os bydd angen i gyfranogwyr newid llety am ba bynnag reswm.

 

Canllaw i’r cyfranogwyr / teuluoedd lletyol:

  • All participants must be provided with specific guidance on how to report risks or situations which make them feel uncomfortable, if they are worried about something that happens to them when staying with a host family, or if another participant raises concerns with them. This should include name and contact details for the Designated Safeguarding Lead, or equivalent.
  • Participants and host families must be provided with the emergency contact number and have been fully briefed of the procedures should problems arise. Any report that is made must be dealt with immediately and in line with agreed procedures.
Pryderon sy’n ymwneud â diogelu
  • Rhaid i’r sefydliad sy’n gwneud cais sicrhau bod rhywun â phrofiad/cymwysterau addas ar alw 24 awr y dydd drwy gydol unrhyw weithgaredd cyfnewid dramor rhag ofn y bydd argyfwng.
  • Rhoi sylw i unrhyw wybodaeth a roddwyd ar unwaith ac yn unol â gweithdrefnau y cytunwyd arnynt.
  • Sicrhau bod proses ar gyfer cofnodi pob digwyddiad / honiad / pryder. Dylai hyn gynnwys y rheini nad ydynt yn croesi’r trothwy ar gyfer rhybuddio’r arweinydd diogelu
  • Rhaid rhoi gwybod i Taith am bob digwyddiad diogelu drwy e-bost i swyddfa@taith.cymru.
Fisâu a mewnfudo

Mae mewnfudo a fisâu i ac o Gymru yn ddarostyngedig i’r rheolau a gyhoeddir gan lywodraeth y DU. Cyfrifoldeb y buddiolwr yw rheoli a gweithredu unrhyw brosesau cymorth sy’n gysylltiedig â fisa/mewnfudo ar gyfer ei gyfranogwyr.