Bydd yr alwad am geisiadau Llwybr 2 Taith yn agor ar 5ed Hydref 2023! Darganfod mwy

Cysylltwch
Cyhoeddi Digidol

Canllaw Craidd Rhaglen Taith 2023

Fersiwn 1.0, 5ed Hydref 2023

1. Cyflwyniad

Ffurfiant craig mawr ac o’i amgylch mae nifer o goed gwahanol. Ceir awyr las.

Mae’r canllaw hwn yn rhoi rhagor o wybodaeth i sefydliadau ac unigolion am Taith, sut mae’r rhaglen yn gweithio a phwy sy’n gymwys i wneud cais am, a chael, cyllid. Mae’n cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei hangen ar sefydliadau i gymryd rhan. I gyd-fynd â’r Canllaw Rhaglen Graidd hwn mae gennym Ganllawiau Rhaglen Llwybr penodol, sy’n rhoi manylion am y Llwybrau Ariannu Taith unigol, gan gynnwys gweithgareddau cymwys, costau a gwybodaeth sy’n benodol i’r sector. 

Sylwch fod Canllaw Rhaglen 2023 yn berthnasol i geisiadau a gyflwynir i, a phrosiectau a ariennir gan, alwadau cyllid 2023 Taith yn unig.  Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen y canllaw hwn ochr yn ochr â’r Canllaw penodol i Lwybr ar gyfer yr alwad ariannu yr ydych yn gwneud cais/wedi derbyn cyllid ar ei chyfer.