4. Cymhwysedd – pwy all wneud cais/cymryd rhan yn y rhaglen
Rhaid i sefydliadau sy’n gwneud cais feddu ar brofiad diweddar ac amlwg o ddarparu gweithgaredd yn y sector y maent yn gwneud cais ar ei gyfer.
Meini prawf i sefydliadau cymwys sy’n derbyn
Unrhyw sefydliad cyhoeddus neu breifat sy’n weithgar yn y farchnad lafur neu ym meysydd addysg, hyfforddiant, addysg ieuenctid/oedolion/addysg a hyfforddiant galwedigaethol/addysg uwch.
Er enghraifft, gall sefydliad o’r fath fod yn:
- fenter gyhoeddus neu breifat, menter fach, ganolig neu fawr (gan gynnwys mentrau cymdeithasol);
- corff cyhoeddus ar lefel leol, ranbarthol neu genedlaethol;
- partner cymdeithasol neu gynrychiolydd arall o fywyd gwaith, gan gynnwys siambrau masnach, cymdeithasau crefft/proffesiynol, ac undebau llafur;
- sefydliad ymchwil;
- sefydliad;
- ysgol/sefydliad/canolfan addysgol (ar unrhyw lefel, o ysgol gynradd i addysg uwchradd uwch, a chan gynnwys addysg alwedigaethol);
- sefydliad nid-er-elw, cymdeithas, sefydliad anllywodraethol (NGO);
- corff sy’n darparu arweiniad gyrfa, cwnsela proffesiynol a gwasanaethau gwybodaeth (ysgolion, ieuenctid ac AU yn unig).
Meini prawf i sefydliadau cymwys sy’n gwneud cais
- Unrhyw ysgol sy’n cael ei hariannu neu ei chynnal gan awdurdod lleol ac sydd wedi’i chofrestru yng Nghymru, ac sy’n gweithredu o Gymru, sy’n darparu addysg gyffredinol neu alwedigaethol i blant a phobl ifanc rhwng 4 a 19 oed ac a arolygir gan ESTYN;
- Unrhyw un o 22 awdurdod lleol Cymru; neu
- Gonsortiwm sy’n cynnwys un sefydliad arweiniol sy’n gwneud cais ar ran nifer o ysgolion. Rhaid i’r consortiwm gynnwys o leiaf un ysgol a enwir sy’n cael ei hariannu a’i chynnal gan awdurdod lleol ac sydd wedi’i chofrestru yng Nghymru, ac sy’n gweithredu o Gymru, a gall hefyd gynnwys awdurdodau lleol neu ranbarthol, cyrff cydgysylltu ysgolion neu fenter gymdeithasol neu sefydliadau eraill sydd â rôl yn y maes addysg ysgol. Rhaid i bob aelod o’r consortiwm gael ei reoleiddio neu ei gofrestru yng Nghymru, a gweithredu o Gymru, a rhaid i unrhyw ysgolion yn y consortiwm gael eu hariannu neu eu cynnal gan awdurdod lleol a’u cofrestru yng Nghymru, ac sy’n gweithredu ohoni. Rhaid cytuno ar bartneriaid consortiwm a’u henwi ar adeg y cais.
Meini prawf i sefydliadau cymwys sy’n derbyn
Ysgol(ion) sy’n darparu addysg gyffredinol ar lefel cyn-gynradd, cynradd neu uwchradd, a gydnabyddir ac a reoleiddir gan awdurdodau cymwys y wlad y mae’r ysgol wedi’i chofrestru ynddi;
Meini prawf i sefydliadau cymwys sy’n anfon (lleoliad cyfnewid mewnol).
Gall ysgolion a chonsortia sydd wedi’u cofrestru a’u gweithredu y tu allan i’r DU a Thiriogaethau Tramor Prydain anfon cyfranogwyr cymwys i’w cynnal yng Nghymru.
Gall sefydliadau anfon fod yn:
- Ysgol(ion) sy’n darparu addysg gyffredinol neu alwedigaethol i blant a phobl ifanc rhwng 4 a 19 oed, a gydnabyddir gan awdurdodau cymwys y wlad y mae’r ysgol wedi’i chofrestru ynddi; neu
- Awdurdodau cyhoeddus lleol, rhanbarthol neu genedlaethol, cyrff cydgysylltu a sefydliadau eraill sydd â rôl ym maes addysg ysgol; neu
- Consortiwm o sefydliadau/darparwyr, fel y’u diffinnir uchod, ym maes addysg ysgol. Rhaid i bob aelod o gonsortiwm o’r fath fod wedi’i gofrestru a’i weithredu y tu allan i’r DU a Thiriogaethau Tramor Prydain.
Meini prawf i sefydliadau cymwys sy’n gwneud cais
Sefydliadau a grwpiau sy’n cael eu rheoleiddio neu eu cofrestru yng Nghymru, ac sy’n gweithredu o Gymru, sy’n gweithio ym maes ieuenctid gan gynnwys:
- Cyrff cyhoeddus ar lefel leol, ranbarthol neu genedlaethol;
- Sefydliadau anllywodraethol, mentrau cymdeithasol a sefydliadau nid-er-elw, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i elusennau cofrestredig a chymdeithasau corfforedig elusennol, cwmnïau budd cymunedol, cwmnïau cyfyngedig drwy warant;
- Consortiwm o sefydliadau/darparwyr sy’n cynnwys un sefydliad arweiniol sy’n gwneud cais ar ran dau neu ragor o ddarparwyr gwasanaethau ieuenctid ym maes ieuenctid. Rhaid i bob aelod o gonsortiwm o’r fath gael ei reoleiddio neu ei gofrestru yng Nghymru, ac gweithredu o Gymru. Rhaid cytuno ar bartneriaid consortiwm a’u henwi ar adeg y cais.
Gall sefydliadau sy’n gweithio ym maes ieuenctid, nad ydynt wedi’u rheoleiddio neu eu cofrestru yng Nghymru ond sy’n gweithredu ledled y DU, ac sydd â phrofiad amlwg a diweddar o gyflwyno gweithgareddau yng Nghymru, hefyd fod yn gymwys i wneud cais ar yr amod eu bod yn bodloni’r meini prawf canlynol:
Cyflwynir tystiolaeth foddhaol i ddangos:
- sut bydd gweithgarwch arfaethedig y rhaglen o fudd i Gymru a
- bod y cyfranogwyr a fwriedir naill ai (i) ar gyfer gweithgareddau symudedd o’r tu allan, cyfranogwyr sy’n ymgymryd â gweithgarwch dysgu yng Nghymru, neu (ii) ar gyfer symudedd mewnol, bydd y cyfranogwyr yn ymgymryd â gweithgarwch dysgu yng Nghymru.
Meini prawf i sefydliadau cymwys sy’n derbyn
Unrhyw sefydliad cyhoeddus neu breifat sy’n weithgar yn y farchnad lafur neu ym meysydd addysg, hyfforddiant ac ieuenctid, a gydnabyddir neu a reoleiddir gan awdurdodau cymwys y wlad y mae darparwr y sefydliad yn gweithredu ynddi ac yn cael ei hymgorffori a/neu’n byw ynddi.
Meini prawf i sefydliadau cymwys sy’n anfon (lleoliad cyfnewid mewnol).
Gall sefydliadau ieuenctid sydd wedi’u cofrestru ac yn gweithredu y tu allan i’r DU a Thiriogaethau Tramor Prydain anfon cyfranogwyr cymwys i’w cynnal yng Nghymru.
Gall sefydliadau anfon fod yn sefydliadau, wedi’u cofrestru gyda’r corff/cyrff rheoleiddio perthnasol, sy’n gweithio ym maes ieuenctid gan gynnwys:
- Cyrff cyhoeddus ar lefel leol, ranbarthol neu genedlaethol; a
- Sefydliadau anllywodraethol, mentrau cymdeithasol a sefydliadau nid-er-elw.
Meini prawf i sefydliadau cymwys sy’n gwneud cais
Unrhyw sefydliad sy’n cael ei reoleiddio neu ei gofrestru yng Nghymru, ac sy’n gweithredu o Gymru, sy’n darparu addysg ffurfiol ac heb fod yn ffurfiol i oedolion, gan gynnwys:
- Awdurdodau cyhoeddus lleol a rhanbarthol, cyrff cydgysylltu a sefydliadau eraill sydd wedi’u cofrestru ac sy’n gweithredu o Gymru sydd â rôl ym maes addysg i oedolion.
- Sefydliadau anllywodraethol, mentrau cymdeithasol a sefydliadau nid-er-elw, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i elusennau cofrestredig a chymdeithasau corfforedig elusennol, cwmnïau budd cymunedol, cwmnïau cyfyngedig drwy warant;
- Consortiwm o sefydliadau/darparwyr, sy’n cynnwys un sefydliad arweiniol sy’n gwneud cais ar ran dau neu ragor o ddarparwyr addysg i oedolion, ym maes addysg i oedolion. Rhaid i bob aelod o’r consortiwm gael ei reoleiddio neu ei gofrestru yng Nghymru, a bod yn gweithredu o Gymru. Rhaid cytuno ar bartneriaid consortiwm a’u henwi ar adeg y cais.
Gall sefydliadau sy’n gweithio ym maes Addysg i Oedolion, nad ydynt wedi’u rheoleiddio neu eu cofrestru yng Nghymru ond sy’n gweithredu ledled y DU, ac sydd â phrofiad amlwg a diweddar o gyflwyno gweithgareddau yng Nghymru, hefyd fod yn gymwys i wneud cais ar yr amod eu bod yn bodloni’r meini prawf canlynol:
Cyflwynir tystiolaeth foddhaol i ddangos:
- sut bydd gweithgarwch arfaethedig y rhaglen o fudd i Gymru a
- bod y cyfranogwyr a fwriedir naill ai (i) ar gyfer gweithgareddau symudedd o’r tu allan, cyfranogwyr sy’n ymgymryd â gweithgarwch dysgu yng Nghymru, neu (ii) ar gyfer symudedd mewnol, bydd y cyfranogwyr yn ymgymryd â gweithgarwch dysgu yng Nghymru.
Meini prawf i sefydliadau cymwys sy’n derbyn
Unrhyw sefydliad cyhoeddus neu breifat sy’n darparu addysg i oedolion a gydnabyddir ac a reoleiddir gan awdurdodau cymwys y wlad y mae’r darparwr yn gweithredu ynddi ac wedi’i ymgorffori a/neu sefydlu ynddi;
Meini prawf i sefydliadau cymwys sy’n anfon (lleoliad cyfnewid mewnol).
Gall darparwyr addysg i oedolion sy’n cael eu rheoleiddio neu sydd wedi’u cofrestru ac sy’n gweithredu y tu allan i’r DU a Thiriogaethau Tramor Prydain anfon cyfranogwyr cymwys i’w cynnal yng Nghymru.
Gall sefydliadau anfon fod yn:
- Unrhyw sefydliad cyhoeddus, neu breifat, sydd wedi’i gofrestru gyda’r corff/cyrff rheoleiddio perthnasol, sy’n darparu addysg i oedolion; neu
- Cyrff cydgysylltu cenedlaethol neu ranbarthol sy’n goruchwylio’r ddarpariaeth addysg i oedolion.
Meini prawf i sefydliadau cymwys sy’n gwneud cais
- Unrhyw sefydliad cyhoeddus neu breifat sy’n cael ei reoleiddio neu ei gofrestru yng Nghymru, ac sy’n gweithredu o Gymru sy’n weithgar ym maes addysg bellach, ac sy’n cynnig amrywiaeth o gyrsiau ar wahanol lefelau o fewn Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru, gan arwain at gymwysterau achrededig;
- Cyrff cydgysylltu cenedlaethol, rhanbarthol neu leol sy’n gweithredu yng Nghymru ac yn goruchwylio darpariaeth addysg bellach;
- Consortiwm o sefydliadau/darparwyr, sy’n cynnwys un sefydliad arweiniol sy’n gwneud cais ar ran dau neu ragor o ddarparwyr addysg bellach, ym maes addysg bellach. Rhaid i bob aelod o’r consortiwm gael ei reoleiddio neu ei gofrestru yng Nghymru, a bod yn gweithredu o Gymru. Rhaid cytuno ar bartneriaid consortiwm a’u henwi ar adeg y cais.
Meini prawf i sefydliadau cymwys sy’n derbyn
Unrhyw sefydliad cyhoeddus neu breifat sy’n darparu addysg bellach, a gydnabyddir ac a reoleiddir gan awdurdodau cymwys y wlad y mae’r darparwr yn gweithredu ynddi ac wedi’i ymgorffori a/neu sefydlu ynddi;
Meini prawf i sefydliadau cymwys sy’n anfon (lleoliad cyfnewid mewnol).
Gall darparwyr Addysg Bellach ac Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol sydd wedi’u cofrestru ac yn gweithredu y tu allan i’r DU a Thiriogaethau Tramor Prydain anfon cyfranogwyr cymwys i’w cynnal yng Nghymru.
Gall sefydliadau anfon fod yn:
- Unrhyw sefydliad cyhoeddus, neu breifat, sydd wedi’i gofrestru gyda’r corff/cyrff rheoleiddio perthnasol, sy’n darparu addysg a hyfforddiant galwedigaethol; neu
- Cyrff cydlynu cenedlaethol neu ranbarthol sy’n goruchwylio’r ddarpariaeth addysg neu hyfforddiant ym maes addysg a hyfforddiant galwedigaethol.
Meini prawf i sefydliadau cymwys sy’n gwneud cais
Unrhyw sefydliad cyhoeddus neu breifat sy’n cael ei reoleiddio neu ei gofrestru yng Nghymru, ac sy’n gweithredu o Gymru sy’n weithgar ym maes addysg a hyfforddiant galwedigaethol, sy’n cynnig amrywiaeth o gyrsiau, gan arwain at gymwysterau achrededig, gan gynnwys:
- Cyrff cydgysylltu cenedlaethol sy’n gweithredu yng Nghymru ac yn goruchwylio’r ddarpariaeth addysg neu hyfforddiant ym maes addysg a hyfforddiant galwedigaethol;
- Cwmnïau a sefydliadau cyhoeddus neu breifat eraill sy’n cynnal, hyfforddi neu fel arall yn gweithio gyda dysgwyr a phrentisiaid mewn addysg a hyfforddiant galwedigaethol;
- Consortiwm o sefydliadau, sy’n cynnwys un sefydliad arweiniol sy’n gwneud cais ar ran nifer o ddarparwyr addysg a hyfforddiant galwedigaethol, ym maes addysg a hyfforddiant galwedigaethol. Rhaid i bob aelod o’r consortiwm gael ei reoleiddio neu ei gofrestru yng Nghymru, a bod yn gweithredu o Gymru. Rhaid cytuno ar bartneriaid consortiwm a’u henwi ar adeg y cais.
Gall sefydliadau sy’n gweithio ym maes Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol sy’n cynnig ystod o gyrsiau sy’n arwain at gymwysterau achrededig, nad ydynt wedi’u rheoleiddio neu eu cofrestru yng Nghymru ond sy’n gweithredu ledled y DU, ac sydd â phrofiad amlwg a diweddar o gyflwyno gweithgareddau yng Nghymru, hefyd fod yn gymwys i wneud cais ar yr amod eu bod yn bodloni’r meini prawf canlynol:
Cyflwynir tystiolaeth foddhaol i ddangos:
- sut bydd gweithgarwch arfaethedig y rhaglen o fudd i Gymru; a
- bod y cyfranogwyr a fwriedir naill ai (i) ar gyfer gweithgareddau symudedd o’r tu allan, cyfranogwyr sy’n ymgymryd â gweithgarwch dysgu yng Nghymru, neu (ii) ar gyfer symudedd mewnol, bydd y cyfranogwyr yn ymgymryd â gweithgarwch dysgu yng Nghymru.
Meini prawf i sefydliadau cymwys sy’n derbyn
Unrhyw sefydliad cyhoeddus neu breifat sy’n weithgar ym maes addysg a hyfforddiant galwedigaethol a gydnabyddir ac a reoleiddir gan awdurdodau cymwys y wlad y mae’r darparwr yn gweithredu ynddi ac sydd wedi’i ymgorffori a/neu sefydlu ynddi;
Meini prawf i sefydliadau cymwys sy’n anfon (lleoliad cyfnewid mewnol).
Gall darparwyr Addysg Bellach ac Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol sydd wedi’u cofrestru ac yn gweithredu y tu allan i’r DU a Thiriogaethau Tramor Prydain anfon cyfranogwyr cymwys i’w cynnal yng Nghymru.
Gall sefydliadau anfon fod yn:
- Unrhyw sefydliad cyhoeddus, neu breifat, sydd wedi’i gofrestru gyda’r corff/cyrff rheoleiddio perthnasol, sy’n darparu addysg a hyfforddiant galwedigaethol; neu
- Cyrff cydlynu cenedlaethol neu ranbarthol sy’n goruchwylio’r ddarpariaeth addysg neu hyfforddiant ym maes addysg a hyfforddiant galwedigaethol.
Meini prawf i sefydliadau cymwys sy’n gwneud cais
- Unrhyw sefydliad addysg uwch (SAU) yng Nghymru, a reoleiddir neu a ariennir gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC);
- Darparwr addysg uwch, y mae ei gyrsiau wedi’u dynodi’n benodol at ddibenion bod yn gymwys i gael cymorth i fyfyrwyr, ac sy’n gweithredu yng Nghymru.
Meini prawf i sefydliadau cymwys sy’n derbyn
Darparwr AU sy’n cael ei gydnabod neu ei reoleiddio gan yr awdurdodau cymwys cenedlaethol perthnasol neu gorff/cyrff rheoleiddio’r wlad y mae’r darparwr AU yn gweithredu ynddi ac wedi’i hymgorffori a/neu’n byw ynddi (gan gynnwys campysau tramor a weithredir gan SAU yng Nghymru);
Meini prawf i sefydliadau cymwys sy’n anfon (lleoliad cyfnewid mewnol).
Gall darparwyr Addysg Uwch sydd wedi’u cofrestru gyda’r corff/cyrff rheoleiddio perthnasol ac sy’n gweithredu y tu allan i’r DU a Thiriogaethau Tramor Prydain anfon cyfranogwyr cymwys i’w cynnal yng Nghymru.
Disgwylir i gyfranogwyr cymwys gael eu cynnal yn y sefydliad sy’n gwneud cais yng Nghymru. Gall y sefydliad sy’n gwneud cais drefnu i’r cyfranogwr gael ei gynnal gan drydydd parti, mewn amgylchiadau eithriadol.