Cysylltwch
Cyhoeddi Digidol

Canllaw Craidd Rhaglen Taith 2023

Fersiwn 1.0, 5ed Hydref 2023

5. Cyn cyflwyno cais

Ffurfiant craig mawr ac o’i amgylch mae nifer o goed gwahanol. Ceir awyr las. A large rock formation with different trees surrounding it. There are blue skies.

5.1. Capasiti

Capasiti gweithredol

Mae’n rhaid i bob sefydliad sy’n gwneud cais fod â’r galluoedd proffesiynol angenrheidiol a’r gallu i neilltuo adnoddau a staff priodol sy’n cyd-fynd â maint eu prosiect Taith.

Capasiti ariannol

Rhaid i bob sefydliad sy’n gwneud cais ddangos bod ganddynt ffynhonnell sefydlog a digonol o incwm i gynnal gweithgareddau cymwys drwy gydol y cyfnod pan fydd prosiect Taith yn cael ei gynnal.

  • Gall Taith gynnal gwiriadau capasiti ariannol, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i:
  • Adolygiad o gyfrifon diweddaraf Tŷ’r Cwmnïau neu’r Comisiwn Elusennau, lle bo’n berthnasol.
  • Adolygiad o gyfrifon rheoli diweddaraf y sefydliad.
  • Adolygiad o ddogfennau llywodraethu’r sefydliad i gadarnhau y gall y sefydliad dderbyn y cyllid, paru enwau cyfrifon banc a gwiriadau eraill, lle bo’n berthnasol.
    Gwiriad o gofnodion asiantaethau gwirio credyd lle bo’n briodol.
  • Adolygiad o gyfriflenni banc cyfredol y sefydliad yn dangos y balans terfynol

5.2. Llenwi’r ffurflen gais

I wneud cais am gyllid gan y rhaglen Taith, mae’n rhaid i sefydliadau lenwi ffurflen gais y Llwybr perthnasol, sydd ar gael ar wefan Taith.

Mae’r ffurflen gais yn gofyn am atebion naratif i ystod o gwestiynau gan gynnwys trosolwg o’r prosiect, manylion am y gweithgareddau arfaethedig fydd yn rhan o’r prosiect, manylion dulliau rheoli’r prosiect a’r cyllid, a manylion sy’n nodi ym mha ffyrdd mae’r prosiect yn cyd-fynd ag amcanion rhaglen Taith, i gyd yn gysylltiedig â’r Llwybr Taith penodol. 

Ynghyd â chwblhau’r ffurflen gais, bydd yn ofynnol i sefydliadau sy’n gwneud cais gwblhau’r adnodd cyfrifo grant. Bydd yr adnodd hwn yn cyfrifo cyfanswm y grant y gwneir cais amdano yn seiliedig ar yr amrywiol weithgareddau y gwneir cais amdanynt. Ceir gwybodaeth am y cyfraddau grant ar gyfer pob Llwybr yn Atodiad 3 y canllaw hwn. 

Dim ond un cais y gall sefydliadau ei gyflwyno fesul sector ar gyfer pob galwad am gyllid ar gyfer Llwybr. Os bydd sefydliad sy’n gwneud cais yn cyflwyno mwy nag un cais i’r un llwybr sector yn yr un alwad, ni fydd yn bosibl uno ceisiadau lluosog a bydd Taith yn gofyn i’r sefydliad sy’n gwneud cais ddewis pa un o’r ceisiadau y mae am fwrw ymlaen ag ef. 

Mae’r dyddiadau cau ar gyfer galwadau ariannu Llwybr i’w gweld ar wefan Taith, neu ar fersiwn gyfredol pob Canllaw Rhaglen Llwybr.