Bydd Llwybr 1 2025 yn dod yn fuan, cliciwch yma i ddarganfod mwy

Cysylltwch
Cyhoeddi Digidol

Canllaw Craidd Rhaglen Taith 2023

Fersiwn 1.0, 5ed Hydref 2023
Addysg i Oedolion
Mae addysg i oedolion yn darparu dysgu ffurfiol, heb fod yn ffurfiol ac anffurfiol i oedolion, i'w galluogi i ddatblygu gwybodaeth, sgiliau a chymwyseddau, ailhyfforddi, neu loywi/diweddaru eu gwybodaeth mewn maes penodol.
Dyddiad cau ar gyfer gwneud cais
Y dyddiad a'r amser olaf y gellir cyflwyno'r holl ffurflenni cais er mwyn i dîm Taith eu hystyried a'u hasesu.
Consortiwm
Dau neu ragor o sefydliadau yng Nghymru sy'n cydweithio i ddatblygu a chyflawni prosiect neu weithgaredd o fewn prosiect.
Cyfranogwr difreintiedig
Cyfranogwyr sy’n fyfyriwr neu’n berson ifanc sy'n cael eu hystyried dan anfantais yn unol ag un neu ragor o feini prawf Taith a byddant yn gymwys i gael cymorth ariannol ychwanegol. Gweler Atodiad 2 yng Nghanllaw'r Rhaglen am ragor o fanylion.
Gweithgaredd cymwys
Gweithgaredd sy'n bodloni'r meini prawf a nodir yng Nghanllaw Rhaglen Taith.
Costau cymwys
Swm y grant sy'n gysylltiedig â chynnal gweithgareddau prosiect.
Sefydliad cymwys
Sefydliad sy'n gallu gwneud cais am gyllid Taith.
Adroddiad terfynol
Adroddiad gorfodol y mae angen i'r holl fuddiolwyr ei gyflwyno i Taith ar ddiwedd y prosiect.
Dysgu ffurfiol
Unrhyw ddysgu sy'n digwydd yn rhan o raglen ddysgu sydd wedi’i threfnu neu’i strwythuro.
Galwad am gyllid
Y cyfnod o amser pryd y gellir cyflwyno ceisiadau am gyllid.
Addysg Bellach
Addysg gyffredinol a ddarperir i fyfyrwyr neu ddysgwyr dros 16 oed nad ydynt bellach o oedran ysgol gorfodol. Mae addysg bellach yn cynnwys darpariaeth nad yw'n addysg uwchradd orfodol nac sy'n rhan o addysg uwch a gall gynnwys darpariaeth alwedigaethol.
Grant
Y cyllid a ddyfernir gan Taith i sefydliad llwyddiannus sy’n gwneud cais.
Cytundeb Grant
Y cytundeb ysgrifenedig rhwng Taith a'r buddiolwr yn manylu ar delerau ac amodau'r dyfarniad cyllid yn unol â'r ffurflen gais a fydd wedi'i hasesu i fod yn gymwys i’w hariannu ac wedi'i chymeradwyo i'w hariannu gan y pwyllgor perthnasol.
Cyfraddau grant
Cyfraddau sefydlog sydd ar gael ar gyfer costau cymwys gwahanol.
Addysg Uwch
Addysg drydyddol nad yw'n gyfystyr ag addysg bellach (ond gall darparwyr addysg bellach ei darparu). Yn gyffredinol, mae'n arwain at gymhwyster penodedig ar lefel 4-8.
Dysgu anffurfiol
Dysgu sy'n digwydd y tu allan i raglen ddysgu drefnus neu strwythuredig ac nid oes cymorth dysgu yn bresennol. Cyfeirir atynt weithiau fel dysgu drwy brofiad neu achlysurol.
Adroddiad interim
Adroddiad gorfodol y mae angen i'r holl fuddiolwyr ei gyflwyno i Taith ar adeg benodol yn ystod oes y prosiect.
Y Rhaglen Gyfnewid Ryngwladol ar gyfer Dysgu (ILEP)
ILEP sy’n cyflawni Taith fel gweithrediaeth y rhaglen ac mae’n is-gwmni sy’n eiddo’n llwyr i Brifysgol Caerdydd.
Symudedd Mewnol
Cyfranogwyr o sefydliadau anfon cymwys sy'n dod i Gymru i gymryd rhan mewn gweithgaredd neu raglen a ariennir gan Taith.
Rhyngwladol
Yng nghyd-destun Taith, unrhyw wlad y tu allan i'r Deyrnas Unedig.
Mis
Wrth gyfrifo swm grantiau Taith, mae mis yn 28 diwrnod.
Dysgu anffurfiol
Dysgu sy'n digwydd y tu allan i unrhyw raglen ddysgu sydd wedi’i threfnu neu’i strwythuro, ond mae rhywfaint o gymorth dysgu yn bresennol.
Symudedd Allanol
Cyfranogwyr o sefydliadau cymwys yng Nghymru sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau a gefnogir gan Taith mewn sefydliadau sy'n derbyn y tu allan i'r DU (neu mewn amgylchiadau eithriadol yn unig, y tu allan i Gymru mewn sefydliadau sy'n derbyn yng ngweddill y DU).
Cyfranogwr
Unigolyn sy'n ymgymryd â gweithgaredd cyfnewid rhyngwladol ffisegol/rhithwir neu gyfunol mewn prosiect a ariennir gan Taith.
Sefydliad partner
Term generig ar gyfer unrhyw sefydliad sy'n ymwneud yn ffurfiol â phrosiect a ariennir gan Taith, lle mae perthynas neu ryngweithio’n rhan o’r prosiect. Gall gynnwys y sefydliadau hynny a nodwyd fel sefydliad sy’n gwneud cais, cydlynydd, sefydliad sy'n derbyn neu sefydliad sy'n anfon yn ogystal ag eraill sy'n ymwneud â chyflawni'r prosiect.
Partneriaeth
Cytundeb ffurfiol rhwng dau neu ragor o sefydliadau i gymryd rhan mewn prosiect a ariennir gan Taith ac i gymryd rhan mewn gweithgareddau a phrofiadau dysgu ar y cyd.
Rhag-ariannu
Taliad ymlaen llaw gyda'r bwriad o ddarparu cyllid i'r buddiolwr i allu dechrau gweithgareddau’r prosiect.
Prosiect
Gweithgareddau wedi'u trefnu a'u cynllunio y cytunir arnynt er mwyn cyflawni amcanion a chanlyniadau clir.
Cyllideb prosiect
Cyfanswm yr arian a ddyrannwyd ar gyfer gweithgareddau y cytunwyd arnynt o fewn prosiect a ariennir gan Taith.
Sefydliadau sy'n anfon
Sefydliad sydd wedi'u cofrestru ac sy’n gweithredu y tu allan i'r DU ac yn anfon cyfranogwyr i sefydliad lletyol yng Nghymru yn ystod gweithgareddau cyfnewid. Diffinnir sefydliadau anfon cymwys yn y Canllaw Rhaglen sector-benodol.
Sefydliad sy'n derbyn
Pan fydd unigolion neu grwpiau'n cymryd rhan mewn gweithgaredd cyfnewid wyneb yn wyneb drwy Taith, y sefydliad sy'n derbyn fydd eu sefydliad lletyol. Gellir cyfeirio at y sefydliad hwn yn aml fel lletywr neu bartner sefydliad rhyngwladol. Diffinnir sefydliadau derbyn cymwys yn y Canllaw Rhaglen sector-benodol.
Sefydliad sy'n gwneud cais
Y sefydliad yng Nghymru sy'n cyflwyno cais am gyllid i Taith. Gall sefydliad sy’n gwneud cais wneud hynny naill ai'n unigol neu ar ran consortiwm, sy'n cynnwys sefydliadau eraill sy'n ymwneud â'r prosiect.
Ysgolion
At ddibenion Taith, diffinnir ysgol fel ysgol a gynhelir gan yr Awdurdod Lleol sy'n darparu addysg gyffredinol neu alwedigaethol i blant a phobl ifanc 4-19 oed.
Staff
Person sy'n cael ei gyflogi gan sefydliad sy’n gwneud cais, neu'n gweithio iddo, boed ar sail broffesiynol neu wirfoddol.
Cynhaliaeth
Cyllid sydd ar gael i dalu costau byw, a all gynnwys llety, bwyd a thrafnidiaeth lleol, tra’n ymgymryd â gweithgaredd cyfnewid ffisegol.
Ieuenctid
Mae gwaith ieuenctid a darpariaeth cymorth ieuenctid yn galluogi pobl ifanc i ddatblygu'n gyfannol, gan weithio gyda nhw i hwyluso eu datblygiad personol, cymdeithasol ac addysgol, a'u galluogi i ddatblygu eu llais, eu dylanwad a'u lle mewn cymdeithas – gan eu helpu i gyrraedd eu llawn botensial.
Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol
Mae’r sector Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol yn cynnig ystod eang o gyrsiau/sgiliau sy'n helpu myfyrwyr neu ddysgwyr i ddatblygu gwybodaeth, dealltwriaeth, sgiliau a/neu gymwyseddau sy'n uniongyrchol berthnasol i alwedigaethau neu gyflogaeth benodol. Gall gwmpasu cymwysterau galwedigaethol a hyfforddiant yn y gwaith.