2. Trosolwg o raglen Taith
Mae Taith yn rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy’n galluogi pobl yng Nghymru i astudio, hyfforddi, gwirfoddoli a gweithio ar draws y byd, tra’n caniatáu i sefydliadau yng Nghymru wahodd partneriaid a dysgwyr rhyngwladol i wneud yr un peth yma yng Nghymru.
Nod Taith yw rhoi cyfle i gyfranogwyr o bob oedran a chefndir ledled Cymru elwa ar gyfleoedd rhyngwladol. Bydd y rhaglen bedair blynedd hon yn galluogi dysgwyr, pobl ifanc, gwirfoddolwyr, ymchwilwyr a staff ar draws y sectorau addysg ac ieuenctid i ymgymryd â lleoliad cyfnewid rhyngwladol, a all amrywio o rai dyddiau i flwyddyn o hyd.
Mae Taith ar gyfer unigolion yn y sectorau canlynol yng Nghymru:
- Ysgolion
- Ieuenctid
- Addysg Bellach, Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol
- Addysg i Oedolion
- Addysg Uwch
2.1. Ein nodau
Pum prif amcan Taith yw:
- Cyflwyno rhaglen gynhwysol, Cymru-gyfan er mwyn cael rhagor o bobl i gymryd rhan mewn cyfnewidiadau rhyngwladol; hynny er mwyn, ehangu gorwelion a hyder pobl ifanc, dysgwyr a staff ar bob lefel yng Nghymru, rhoi cyfleoedd sy’n-gwella-bywyd iddynt, ac er mwyn eu cefnogi i fod yn uchelgeisiol ac yn ddysgwyr galluog trwy gydol eu bywydau.
- Hyrwyddo cydweithio rhwng sefydliadau yng Nghymru a sefydliadau rhyngwladol sy’n galluogi cyfnewidiadau dysgu dwyffordd i roi budd i bawb dan sylw, adeiladu cysylltiadau rhyngwladol, a chefnogi’r sectorau addysg, gan gynnwys addysg ieuenctid ac oedolion.
- Annog gweithgareddau uchelgeisiol, arloesol a chreadigol o’r radd flaenaf ym maes cyfnewidiadau addysg rhyngwladol a chydweithio.
- Codi proffil rhyngwladol Cymru fel cenedl agored, eangfrydig a chyfrifol yn fyd-eang, sydd wedi ymrwymo i adeiladu ar ei hetifeddiaeth o bartneriaethau a chysylltiadau rhyngwladol.
- Helpu i gyflawni blaenoriaethau Llywodraeth Cymru o ran trawsnewid ymgysylltu rhyngwladol, ac o ran datblygu rhagoriaeth yn y sectorau addysg rhyngwladol ac ieuenctid, trwy gamau cynaliadwy sydd yn rhoi budd i genedlaethau’r presennol a’r dyfodol yng Nghymru.
2.2. Ein hymrwymiadau
Gan ein bod am i Taith roi budd i bawb sy’n gysylltiedig, a rhoi budd i’r gymuned ehangach, rydym wedi ymrwymo i:
- wella mynediad i bobl Anabl, anghenion dysgu ychwanegol, grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, a phobl o gefndiroedd difreintiedig;
- hyrwyddo’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymreig i gyfranogwyr sy’n ymweld â Chymru yn ogystal ag arddangos Cymru i’r byd;
- annog teithio cynaliadwy yn unol ag ymrwymiadau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru i fod yn genedl sy’n gyfrifol yn fyd-eang.
2.3. Deall y Llwybrau Ariannu
Mae gan Taith dau llwybr ariannu:
Llwybr 1 – Symudedd cyfranogwyr
Mae’r llwybr hwn yn cefnogi gweithgareddau symudedd allanol a mewnol ffisegol, rhithwir a chyfunol ar gyfer unigolion neu grwpiau o unigolion, er mwyn rhoi cyfleoedd iddynt ddysgu, gweithio neu wirfoddoli dramor am gyfnod byrdymor neu hirdymor hyblyg. Mae’r Llwybr hwn yn agored i ymgeiswyr o sefydliadau ar draws holl sectorau Taith.
Llwybr 2 – Partneriaeth a chydweithio strategol
Mae’r llwybr hwn yn cefnogi datblygiad prosiectau cydweithredol rhyngwladol a arweinir gan sefydliadau addysg a hyfforddiant yng Nghymru. Mae’r Llwybr hwn yn agored i sefydliadau yn y sectorau Ysgolion, Ieuenctid, AB/AHG ac Addysg i Oedolion. Ceir gwybodaeth fanwl am weithgareddau cymwys, costau cymwys a hyd prosiectau yng Nghanllaw Rhaglen Llwybr 2.
2.4. Cefnogaeth ychwanegol gan Gyrff Trefnu Secto
Cymorth ychwanegol gan Hyrwyddwyr Taith
Er mwyn sicrhau bod sefydliadau sydd â diddordeb mewn gwneud cais am gyllid Taith yn cael eu cefnogi’n llawn drwy’r broses, rydym wedi penodi Hyrwyddwyr Taith yn y sectorau ieuenctid ac addysg oedolion. Rôl Hyrwyddwyr Taith yw codi ymwybyddiaeth a hyrwyddo Taith ymhlith sefydliadau sydd yn y sectorau perthnasol, yn ogystal â chynghori a chynorthwyo sefydliadau i wneud cais am gyllid a chynllunio a chynnal prosiectau. Bydd yr Hyrwyddwyr Taith yn canolbwyntio’n benodol ar ymgysylltu â’r sefydliadau heb lawer o brofiad neu ddim profiad o gwbl ym maes cyfnewid rhyngwladol ac sydd â llai o adnoddau yn ogystal â helpu sefydliadau sy’n gweithio gyda’r bobl fwyaf difreintiedig, y grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, pobl anabl a/neu pobl ag Anghenion Dysgu Ychwanegol. For further information and contact details for the Taith Champions, please refer to the Taith website. Am fwy o wybodaeth a manylion cyswllt ar gyfer Hyrwyddwyr Taith, ewch i’n wefan