Bydd Llwybr 1 2025 yn dod yn fuan, cliciwch yma i ddarganfod mwy

Cysylltwch
Cyhoeddi Digidol

Canllaw Rhaglen Llwybr 2 2023

Partneriaethau a Chydweithio Strategol Fersiwn 1.0, 5ed Hydref 2023

5. Asesu

Ffurfiant craig mawr ac o’i amgylch mae nifer o goed gwahanol. Ceir awyr las.

Ceir gwybodaeth fanwl am broses asesu Taith a sut y gwneir penderfyniadau ynghylch cyllid yn adran 6 Canllawiau Craidd y Rhaglen.

5.1. Asesu ceisiadau

Er mwyn cael ei ystyried am gyllid, rhaid i sefydliad sy’n gwneud cais ddangos yn y cais sut y mae’n bodloni meini prawf asesu Llwybr 2 (gweler isod). Bwriad y meini prawf yw galluogi Taith i werthuso ansawdd y ceisiadau sy’n dod i law a rhoi sgôr gyffredinol i bob cais. Bydd pob cais yn cael ei sgorio allan o uchafswm o 100, yn seiliedig ar y meini prawf a’r pwysoliadau isod.

Er mwyn i sefydliadau gael eu hystyried yn gymwys i’w cyllido, mae’n rhaid iddynt: 

  • Sgorio o leiaf 60 allan o gyfanswm o 100 ac
  • Mae’n rhaid i o leiaf hanner y cyfanswm pwyntiau fod wedi’u hennill yn yr adran ‘Perthnasedd ac ansawdd amcanion prosiect a chanlyniadau a gynllunnir’.

Bydd sefydliadau sy’n llwyddo i wneud yr uchod yn cael eu hystyried yn rhai y gellid eu cyllido. Bydd ceisiadau nad ydynt yn cwrdd â’r trothwy o ran meini prawf ansawdd yn cael eu hystyried yn aflwyddiannus. Beth bynnag fydd canlyniad y cais neu’r sgorio, caiff pob sefydliad sy’n gwneud cais adborth. 

Mae cyllidebau dangosol Llwybr 2 fesul sector, ynghyd â gwybodaeth am uchafswm gwerth y symiau a geisir i’w gweld yn adran 6.

5.2. Llwybr 2 Meini Prawf Asesu

Mae cwestiynau’r cais yn dod o dan ddau bennawd – ‘perthnasedd ac ansawdd amcanion y prosiect a’r canlyniadau arfaethedig’, a ‘gweithgareddau’r prosiect’. Caiff ceisiadau eu sgorio allan o 100 pwynt, gyda 70 pwynt ar gyfer y pennawd cyntaf (perthnasedd ac ansawdd amcanion y prosiect a chanlyniadau arfaethedig) a 30 pwynt am yr ail bennawd (gweithgareddau’r prosiect).

Mae cwestiynau a meini prawf asesu’r cais yn y tabl isod. Mae pob cwestiwn yn cyfateb i un neu fwy o’r meini prawf asesu – gweler y manylion isod. Rydyn ni’n argymell yn gryf bod ymgeiswyr yn darllen trwy’r rhain yn drylwyr cyn dechrau’r cais.

Amcanion y prosiect a chanlyniadau arfaethedig (uchafswm sgôr 70 pwynt)

Cwestiwn cais

Meini prawf asesu

Beth yw angen neu flaenoriaeth y sector y mae eich prosiect yn edrych i fynd i’r afael ag ef?

Mae’r cais yn amlinellu’n glir yr angen neu’r flaenoriaeth sector penodol yng Nghymru y mae’r prosiect yn ceisio mynd i’r afael â nhw. Er yr anogir effaith ehangach ar draws y sectorau, rhaid i’r angen/flaenoriaeth fod o fewn y sector y gwneir cais am arian iddo.

Pa rai o themâu prosiect y bydd y prosiect yn cyd-fynd â nhw (Newid hinsawdd, Amrywiaeth a chynhwysiant, Datblygiadau mewn addysg)?

Mae’r prosiect yn cyd-fynd ag o leiaf un o themâu’r prosiect.

Eglurwch nodau ac amcanion y prosiect a sut y bydd yn mynd i’r afael ag angen/blaenoriaeth y sector a nodir uchod. Sut bydd y prosiect yn creu buddion hirdymor ehangach i’r sector yng Nghymru yn ogystal ag i’ch sefydliad chi?

Mae nodau ac amcanion y prosiect wedi eu mynegi’n glir.

Mae tystiolaeth glir o sut mae’r prosiect arfaethedig yn mynd i’r afael ag angen/blaenoriaeth y sector a nodwyd.

Mae tystiolaeth glir o’r buddion y bwriedir i’r prosiect eu cynnig i’r sefydliad sy’n ymgeisio a’u sector yng Nghymru.

Disgrifiwch allbwn arfaethedig eich prosiect. A yw allbwn y prosiect yn newydd neu a fydd yn adeiladu ar ddeunydd/gwaith presennol (naill ai o fewn eich sefydliad neu o fewn eich sector)? Os yw allbwn y prosiect yn adeiladu ar waith/deunydd presennol, nodwch sut y bydd cyllid Taith yn galluogi gwelliant/datblygiad sylweddol i’r allbwn.

Mae’r cais yn disgrifio’n glir beth fydd allbwn y prosiect ac yn dangos y bydd yr allbwn o ansawdd uchel, yn cael effaith, yn fesuradwy ac o werth i sefydliadau eraill a sector(au) yr ymgeisydd, yn ogystal â bod yn berthnasol ac yn briodol ar gyfer y prosiect a’r gynulleidfa arfaethedig.

Rhagwelir y bydd allbynnau’r prosiect yn newydd er mwyn mynd i’r afael ag angen neu flaenoriaeth sector sydd heb gael sylw eto. Lle nad yw allbynnau prosiect yn newydd ond yn adeiladu ar waith/deunydd presennol, rhaid i’r cais ddangos tystiolaeth glir o’r gwerth ychwanegol a ddaw yn sgil y datblygiad – i’r sefydliad ac i’r sector perthnasol yn ehangach

Eglurwch pam mae pob partner (rhyngwladol a Chymreig) yn hanfodol i lwyddiant y prosiect a beth fydd pob partner yn ei gyfrannu at y prosiect ac allbwn y prosiect.

Mae’r cais yn nodi’n glir pam mae’r holl bartneriaid a enwir yn hanfodol i lwyddiant y prosiect a beth fydd cyfraniad pob u

Eglurwch pam eich bod wedi dewis cydweithio â’r partner(iaid) rhyngwladol penodol, gan gynnwys:

  • Eu harbenigedd a’u gwybodaeth benodol yn ymwneud â’r prosiect arfaethedig
  • Y rhesymeg dros ddewis y wlad bartner yn hytrach na gwledydd partner rhyngwladol posibl eraill h.y. mae’r wlad yn cael ei chydnabod fel arweinydd byd yn yr angen/blaenoriaeth sector a nodwyd.

Mae tystiolaeth glir bod sgiliau, profiad a gwybodaeth benodol y partner rhyngwladol yn gwneud y prosiect yn bosibl a’u bod yn hanfodol i gyflawni’r prosiect a chreu allbwn y prosiect.

Mae’r cais yn nodi’n glir pam na allai’r prosiect gael ei gyflawni gyda phartner gwahanol neu gyda sefydliadau eraill yng Nghymru.

Mae tystiolaeth glir o resymeg gadarn y tu ôl i’r wlad bartner ryngwladol a ddewiswyd.

Eglurwch sut y byddwch yn lledaenu allbwn eich prosiect, pwy fydd y gynulleidfa a pham mai’r dull hwn yw’r mwyaf priodol ar gyfer y sector a’r gynulleidfa.

Mae tystiolaeth glir bod y gweithgaredd lledaenu yn briodol ac yn hygyrch i’r gynulleidfa a sector yr ymgeisydd, ac yn berthnasol i fformat a bwriad allbwn y prosiect.

Sut byddech chi’n rheoli’r prosiect?
(Cynnwys gallu gweinyddol y sefydliadau i redeg y prosiect, rheolaeth ariannol, a darparu cymorth/adnoddau ar gyfer cyflawni’r allbwn prosiect a fwriadwyd).

Mae’r sefydliad sy’n gwneud cais wedi dangos bod ganddo ddigon o gapasiti gweinyddol sy’n gymesur â maint y prosiect arfaethedig.

Mae’r cynnig yn dangos agwedd ystyriol a phriodol at reoli prosiectau o ddydd i ddydd, rheolaeth ariannol, a darparu cymorth/adnoddau ar gyfer cyflawni’r allbwn prosiect arfaethedig.

Sut y byddwch yn sicrhau bod y prosiect yn gynhwysol ac yn hygyrch?

Mae’r cais yn amlinellu ymrwymiad clir a chynlluniau cydlynol i sicrhau bod y prosiect yn gynhwysol ac yn hygyrch, gan gynnwys yn y gefnogaeth i gyfranogwyr unigol (lle bo’n berthnasol).

Sut y byddwch yn monitro ac yn gwerthuso’r prosiect?

Mae’r mesurau a gynigir i fonitro gweithgareddau a chynnydd y prosiect, a’r cynlluniau i werthuso llwyddiant ei ganlyniadau yn briodol ac yn realistig.

Ansawdd a dyluniad gweithgareddau’r prosiect (Uchafswm o 30 pwynt)

Cwestiwn cais

Meini prawf asesu

Rhannwch amserlen arfaethedig o weithgareddau yn seiliedig ar hyd eich prosiect.

Mae hyd y prosiect yn rhesymol/briodol ar gyfer datblygu a lledaenu allbwn arfaethedig y prosiect.

Rhowch fanylion ar sut y byddwch yn dewis eich cyfranogwyr ar gyfer y prosiect a’r rôl y byddant yn ei chwarae yn eich prosiect. Ystyriwch hyn ar gyfer y cyfranogwyr Cymreig a chyfranogwyr rhyngwladol.

Mae’r cais yn rhoi esboniad clir o’r broses o ddewis y cyfranogwyr (Cymreig a rhyngwladol) ac yn manylu ar y gwerth y byddant yn ei roi i’r prosiect a’r allbwn.

Os ydych yn bwriadu cynnwys dysgwyr mewn unrhyw agwedd o’r prosiect (gan gynnwys symudedd) eglurwch eich gweithdrefnau diogelu a sut y byddwch yn sicrhau diogelwch / dyletswydd gofal y cyfranogwyr?

Mae’r sefydliad sy’n gwneud cais yn dangos bod ganddo fesurau diogelu / dyletswydd gofal priodol ar gyfer ei holl weithgareddau arfaethedig.

Costau staff

Manylwch ar y gweithgareddau fyddwch yn eu gwneud a sut y bydd y rhain yn cyfrannu at y prosiect ac at greu allbwn y prosiec.

Rhowch esboniad clir a chyfiawnhad dros y cyllid y gofynnir amdano ar gyfer y math hwn o weithgaredd.

Mae esboniad a rhesymeg glir ar gyfer holl weithgareddau arfaethedig y prosiect.Mae’r gweithgareddau arfaethedig yn dangos dull realistig o gyflawni amcan cyffredinol y prosiect.

Mae’r cais yn dangos gwerth am arian ac mae lefel y cyllid y gofynnir amdano yn gymesur â maint y prosiect.

Mae sail resymegol glir ar gyfer y cyllid y gofynnir amdano o fewn y math o weithgaredd, ac mae’r holl gostau’n gymwys.

Rheoli a Gweithredu’r Prosiect

Lledaenu

Manylwch ar y gweithgareddau fyddwch yn eu gwneud a sut y bydd y rhain yn cyfrannu at y prosiect ac at greu allbwn y prosiect.

Rhowch esboniad clir a chyfiawnhad dros y cyllid y gofynnir amdano ar gyfer y math hwn o weithgaredd.

Mae esboniad a rhesymeg glir ar gyfer holl weithgareddau arfaethedig y prosiect.Mae’r gweithgareddau arfaethedig yn dangos dull realistig o gyflawni amcan cyffredinol y prosiect.

Mae’r cais yn dangos gwerth am arian ac mae lefel y cyllid y gofynnir amdano yn gymesur â maint y prosiect.

Mae sail resymegol glir ar gyfer y cyllid y gofynnir amdano o fewn y math o weithgaredd, ac mae’r holl gostau’n gymwys.

Cyfieithu

Manylwch ar y gweithgareddau fyddwch yn eu gwneud a sut y bydd y rhain yn cyfrannu at y prosiect ac at greu allbwn y prosiect. t.