Mae Llwybr 1 2025 ar agor

Cysylltwch
Cyhoeddi Digidol

Canllaw Rhaglen Llwybr 2 2023

Partneriaethau a Chydweithio Strategol Fersiwn 1.0, 5ed Hydref 2023

Mae’r ddogfen hon yn ymwneud yn benodol â galwad cyllid ar gyfer Llwybr 2 Taith 2023. Ceir gwybodaeth gyffredinol am y rhaglen, gan gynnwys nodau ac amcanion Taith, meini prawf cymhwysedd, y broses asesu, y gwaith rheoli prosiect a chyfraddau’r grantiau yng Nghanllawiau Craidd y Rhaglen. Cynghorir ymgeiswyr yn gryf i ddarllen drwy Ganllawiau Craidd y Rhaglen yn ogystal â’r wybodaeth benodol am y Llwybr dan sylw a gynhwysir yn y ddogfen hon cyn cwblhau cais.

1. Canllaw Rhaglen Llwybr 2

Ffurfiant craig mawr ac o’i amgylch mae nifer o goed gwahanol. Ceir awyr las. A large rock formation with different trees surrounding it. There are blue skies.

Bydd Llwybr 2 yn cefnogi rhannu gwybodaeth, arbenigedd a dysgu cydweithredol rhwng sefydliadau rhyngwladol ac o Gymru er mwyn datblygu theori ac arfer da mewn addysg yng Nghymru ac yn rhyngwladol.

Bydd y llwybr hwn yn cyllido partneriaethau rhyngwladol cydweithredol a arweinir gan Gymru i ddatblygu allbwn prosiect sy’n mynd i’r afael â mater penodol neu flaenoriaeth sector yng Nghymru. Dylai ceisiadau am arian adnabod yn glir y bwlch, mater neu flaenoriaeth sector mae’r prosiect yn bwriadu archwilio ac esbonio sut bydd yr allbwn prosiect yn datblygu ac ehangu gwybodaeth, dealltwriaeth ac arferion ar draws y sector.

Rhaid i’r allbynnau prosiect hyn fod o ansawdd uchel ac o werth i sefydliadau eraill a’r sector(au) yn ehangach. Mae pob galwad cyllido Llwybr 2 yn nodi themâu, gan sicrhau bod prosiectau a’u hallbynnau yn cyd-fynd â blaenoriaethau a pholisïau Cymreig yn y sectorau addysg ac ieuenctid, a galluogi dysgu traws-sector pellach drwy greu rhwydweithiau o brosiectau’n seiliedig ar themâu cyffredin. Ceir rhagor o fanylion am themâu Llwybr 2 2023 yn adran 3.1.

Drwy gymryd rhan yn y prosiectau Llwybr 2, bydd staff a dysgwyr yn datblygu eu dealltwriaeth, eu gwybodaeth a’u defnydd o thema neu bwnc allweddol. Drwy gynhyrchu a lledaenu allbwn, bydd prosiectau Llwybr 2 at greu manteision ehangach yn y tymor hir i sefydliadau sy’n cymryd rhan, i sector yr ymgeiswyr ac i Gymru a’r partner(iaid) rhyngwladol.  Bydd y prosiectau hyn felly’n cyfrannu at hyrwyddo amcanion rhaglen Taith a chael effaith gadarnhaol ar ddatblygiadau polisi mewn sectorau ledled Cymru a thramor. 

Mae symudedd yn elfen allweddol o weithgaredd Llwybr 2, ond nid manteision y symudedd i gyfranogwyr unigol yw ffocws prosiectau Llwybr 2.  Yn hytrach, mae gweithgareddau symudedd yn hwyluso datblygu a chwblhau allbwn y prosiect. Mae staff a dysgwyr yn gymwys i deithio’n rhyngwladol ar yr amod bod y symudedd hwn yn gwneud cyfraniad allweddol i ddatblygiad y prosiect. Ceir rhagor o fanylion am weithgareddau a chostau cymwys Llwybr 2 yn adran 6.3. 

Pwrpas cyllid Llwybr 2 yw cefnogi prosiectau na fyddai’n bosibl i’w cwblhau heb fewnbwn ac arbenigedd gan sefydliadau partner tramor. Rhaid i’r ymgeiswyr esbonio’n glir yn y cais sut mae’r partner(iaid) rhyngwladol yn cyfrannu at ddatblygu’r prosiect mewn ffyrdd na all sefydliadau o Gymru ei wneud.

Rhaid enwi pob partner (rhyngwladol ac o Gymru) yn y cais.