Cysylltwch
Cyhoeddi Digidol

Canllaw Rhaglen Llwybr 2 2023

Partneriaethau a Chydweithio Strategol Fersiwn 1.0, 5ed Hydref 2023

7. Cyfraddau Grant Llwybr 2

Ffurfiant craig mawr ac o’i amgylch mae nifer o goed gwahanol. Ceir awyr las.

Symudedd

Grant yw hwn (a gyfrifir fel cyfraniad cost uned) yn seiliedig ar hyd symudedd corfforol a’r wlad gyrchfan.

CYNHALIAETH i:

 

DYSGWYR

Mae hwn yn grant a gyfrifir fel cyfradd ddyddiol/wythnosol (=7 diwrnod)/misol (=28 diwrnod) ac mae’n gyfraniad tuag at gostau’r cyfnod symudedd a gynlluniwyd yn seiliedig ar hyd symudedd a chyrchfan.


IEUENCTID & YSGOLION
Cyfradd grant (£)

AB & AHG, ADDYSG OEDOLION
Cyfradd grant (£)

Cyfradd ddyddiol fesul grwp gwlad
1 / 2 / 3:

Cyfradd ddyddiol fesul grwp gwlad
1 / 2 / 3:

Pythefnos cyntaf (cyfradd ddyddiol)

55/50/45 

109/94/80 

2-8 wythnos (cyfradd ddyddiol)

40/35/30 

76/66/56 

PERSON SY’N GWMNI

Wedi’i ddiffinio fel person i fynd gyda chyfranogwyr symudedd lle bo angen fel rhan o ddiogelu, dyletswydd gofal, at ddiben gweithgareddau symudedd grŵp tymor byr a arweinir gan staff, neu ar gyfer amgylchiadau eraill y gellir eu cyfiawnhau.  


IEUENCTID & YSGOLION
Cyfradd grant (£)

AB & AHG, ADDYSG OEDOLION
Cyfradd grant (£)

(cyfradd ddyddiol)

Yr un fath â DYSGWYR

Yr un fath â DYSGWYR

STAFF

mae’r dyfarniad yn gyfraniad tuag at gostau cynhaliaeth a gyfrifir fel cyfraniad cost uned, yn seiliedig ar hyd symudedd a chyrchfan. Disgwylir i sefydliadau buddiolwyr ddilyn eu polisïau a’u prosesau ariannol sefydliadol ar gyfer ad-dalu costau teithio, gan gynnwys ynghylch taliadau ar wariant â derbynebau. 


IEUENCTID & YSGOLION
Cyfradd grant (£)

AB & AHG, ADDYSG OEDOLION
Cyfradd grant (£)

Pythefnos cyntaf (cyfradd ddyddiol)  

85/75/65

85/75/65

2-8 wythnos (cyfradd ddyddiol)  

60/50/40 

60/50/40 

8 wythnos- 12 mis (cyfradd ddyddiol)

35/30/25 

35/30/25 

TEITHIO / TEITHIO GWYRDD

Bydd cyllid ar gael tuag at gost uniongyrchol teithio a bydd yn dibynnu ar y pellter rhwng y sefydliadau sy’n anfon a’r sefydliadau sy’n derbyn. Mae hwn yn gyfraniad tuag at gost taith gron. Bydd swm grant teithio uwch ar gael i gyfranogwyr sy’n defnyddio opsiynau ‘Teithio Gwyrdd’ amgylcheddol gynaliadwy.


IEUENCTID & YSGOLION
Cyfradd grant (£)

IEUENCTID & YSGOLION
Cyfradd grant (£)

Pob cyfranogwr i bob gwlad: yn unol â’r band pellter isod. (Dangosir y cyfraddau teithio gwyrdd mewn ‘bold’)

10 i 99km

20

20

100 i 499km

150/180

150/180

500 i 1,999km

230/270

230/270

2,000 i 2,999km

300/350

300/350

3,000 i 3,999km

450/520

450/520

4,000 i 7,999km

700

700

8,000 i 12,000km

1200

1200

12,000km+

1400

1400

CYMORTH CYNHWYSIANT


IEUENCTID & YSGOLION
Cyfradd grant (£)

IEUENCTID & YSGOLION
Cyfradd grant (£)

Disgrifiad categori

Cyfranogwyr gydag Anableddau a/neu Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)  

100% o gostau cymwys

100% o gostau cymwys

Dysgwyr sydd ag anhawster dysgu neu anabledd sy’n galw am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol.

Sylwer: Bydd cyfran o’r cyllid yn cael ei ddal yn ôl yn ganolog, gan Weithrediaeth y Rhaglen, ar y cam dyfarnu grant a’i weinyddu ar sail costau gwirioneddol unwaith y bydd y buddiolwyr yn nodi cyfranogwyr ag anghenion dysgu ychwanegol a chymorth ychwanegol sydd ei angen.

Cyfranogwyr o Gefndir difreintiedig

(costau teithio eithriadol a chostau cynhaliaeth ychwanegol)  

Cyfradd ddyddiol safonol wedi’i gosod ar lefel i fod yn gynhwysol

Cyfradd ddyddiol safonol wedi’i gosod ar lefel i fod yn gynhwysol

Mae’r diffiniad a’r meini prawf yn benodol i’r sector ac fe’u disgrifir yng Nghanllawiau’r Rhaglen Graidd.

Cyfranogwyr o Gefndir difreintiedig

(costau teithio drud eithriadol a chostau cynhaliaeth ychwanegol) 

100% o’r costau cymwys gwirioneddol yn ymwneud â chostau teithio

100% o’r costau cymwys gwirioneddol yn ymwneud â chostau teithio

Costau eithriadol yn ymwneud â theithio gan gynnwys costau fisas, pasbortau, brechiadau, profion COVID-19, yswiriant iechyd, dillad a bagiau priodol, yn ôl yr angen. Yn berthnasol i gostau teithio o/i ardal anghysbell hefyd.

Sylwer: Bydd cyfran o’r cyllid yn cael ei ddal yn ôl yn ganolog, gan Weithrediaeth y Rhaglen, ar y cam dyfarnu grant a’i weinyddu ar sail costau gwirioneddol unwaith y bydd cyfranogwyr ag anghenion ADY a chymorth ychwanegol sydd ei angen wedi’u nodi gan fuddiolwyr.

COSTAU EITHRIADOL 


IEUENCTID & YSGOLION
Cyfradd grant (£)

IEUENCTID & YSGOLION
Cyfradd grant (£)

Disgrifiad categori

Teithio drud eithriadol

80% o’r gost wirioneddol, os nad yw’r swm gwreiddiol a ddarparwyd yn cwmpasu o leiaf 70%

80% o’r gost wirioneddol, os nad yw’r swm gwreiddiol a ddarparwyd yn cwmpasu o leiaf 70%

Costau teithio o/i ardal anghysbell (dim ond ar gyfer y rhai sy’n gymwys i dderbyn grant teithio).

 

Sylwer: Mae cyfranogwyr o grwpiau difreintiedig yn gymwys i gael 100% o’r costau gwirioneddol ar gyfer teithio eithriadol o ddrud o dan y categori ‘costau eithriadol cysylltiedig â theithio’, fel yr amlinellir uchod.

Costau eithriadol oherwydd Cofid 

100% o’r costau gwirioneddol  

100% o’r costau gwirioneddol  

Costau sy’n cwmpasu costau eithriadol sy’n gysylltiedig â Cofid, yn benodol lle mae statws y wlad gyrchfan yn newid yn ystod symudedd, gan achosi i’r cyfranogwr fynd i gostau ychwanegol sylweddol oherwydd gofyniad i gwarantîn mewn cyfleuster pwrpasol, cydymffurfio â gofynion profi uwch neu debyg.

Costau staff

Mae cyfraniad at gostau staffio sy’n ymwneud yn uniongyrchol â datblygu, creu a lledaenu allbwn y prosiect yn cael ei gyfrifo ar gyfradd ddyddiol, yn unol â’r categori/lefel staff:


Swyddogaeth

Cyfradd ddyddiol (£)

Aelod Staff Uwch / Rheolwyr

255

Athrawon/ Hyfforddwyr / Ymchwilwyr / Gweithwyr Ieuenctid

209

Staff Cymorth Arbenigol

165

Staff Gweinyddol

136