6. Cymhwysedd
Mae’r adran hon yn manylu ar yr holl wybodaeth am gyllid sydd ar gael, gweithgareddau cymwys, cyfranogwyr, costau a hyd y prosiect.
6.1. Cyllid
Ni chaniateir cyllido dwbl yn achos y gweithgareddau a gyllidir eisoes drwy raglenni cyllido cenedlaethol neu ryngwladol eraill. Fodd bynnag, caniateir cyd-gyllido gweithgareddau gyda rhaglenni eraill. Os bydd prosiectau yn cael eu cyd-gyllido, dylai’r sefydliadau sydd yn cyflwyno cais ddarparu manylion am y trefniadau hyn yn y cais.
Cyllid ar gael fesul sector
Sector | Cyllid llwybr 2 (galwad 2023) |
---|---|
Schools | £330,000 |
Youth | £330,000 |
FE & VET | £330,000 |
Adult Education | £200,000 |
Dyraniadau cyllid
Mae cynwysoldeb a hygyrchedd yn ffocws strategol ar gyfer Taith ac mae’r rhaglen yn edrych i gyllido ystod mor eang â phosibl o sefydliadau, a chymaint ohonynt â phosibl. O’r herwydd, uchafswm y dyfarniad i brosiectau Llwybr 2 fydd £75,000.
Bydd Taith yn anelu at gyllido’r holl sefydliadau sy’n pasio’r broses asesu ac yr ystyrir eu bod yn gyllidadwy. Fodd bynnag, mae cyllid Taith yn gyfyngedig ac mae’n debygol y ceir galwadau am geisiadau lle bydd gwerth y ceisiadau llwyddiannus sy’n ‘gymwys i’w cyllido’ yn uwch na’r gyllideb sydd ar gael. Lle nad oes digon o gyllideb i gyllido’r holl geisiadau llwyddiannus yn llawn, bydd ceisiadau’n cael eu hargymell ar gyfer cyllid yn eu trefn restrol, fesul sector, nes bod cyllideb Llwybr 2 sydd ar gael ar gyfer pob sector wedi’i hymrwymo’n llawn.
6.2. Hyd y prosiectau
Gall prosiectau Llwybr 2 bara am:
- 12 mis
- 18 mis
- 24 mis
6.3. Cyfranogwyr cymwys
Gellir gweld gwybodaeth am sefydliadau cymwys i geisio am arian a derbyn cyfranogwyr yn adran cymhwyster Canllawiau Craidd Rhaglen Taith
Symudedd disgyblion
Cyfranogwyr cymwys:
- Symuded grwpiau: Disgyblion wedi eu cofrestru mewn ysgol yng Nghymru, fel y’i diffinnir yn adran sefydliadau sy’n gymwys i wneud cais yng Nghanllawiau Craidd Rhaglen Taith
Symudedd staff
Cyfranogwyr cymwys:
- Staff addysgu a staff nad ydynt yn addysgu, arweinwyr ysgolion ac arbenigwyr eraill sy’n gweithio ym maes addysg ysgolion yng Nghymru (er enghraifft staff sy’n gweithio i gonsortiwm addysg neu awdurdod lleol).
Symudedd Pobl Ifanc
Cyfranogwyr cymwys:
- Symudedd grwpiau: Pobl ifanc 11-25 oed sy’n ymgysylltu’n weithredol â sefydliad cymwys sy’n gweithio yn y maes ieuenctid, fel y’i diffinnir yn yr adran sefydliadau sy’n gymwys i wneud cais yng Nghanllawiau Craidd Rhaglen Taith
Symudedd staff
Cyfranogwyr cymwys:
- Staff sy’n gweithio yn y maes ieuenctid, sydd â chontract cyflogaeth gyda sefydliad cymwys.
- Gwirfoddolwyr sy’n gweithio yn y maes ieuenctid, a chanddynt gytundeb gwirfoddoli ffurfiol ar waith gyda sefydliad cymwys.
- Arbenigwyr sy’n gweithio yn y maes ieuenctid.
Symudedd dysgwyr
Cyfranogwyr cymwys:
- Dysgwyr sy’n ymgymryd ag addysg i oedolion ac sy’n ymwneud â gweithgareddau dysgu ac wedi cofrestru mewn sefydliad cymwys sy’n ddarparwr addysg i oedolion;
- Aelodau staff, sy’n mynd gyda’r dysgwyr sy’n oedolion lle bo angen, ac sydd wedi’u cyflogi gan sefydliad cymwys sy’n darparu addysg i oedolion.
Symudedd staff
Cyfranogwyr cymwys:
- Staff sy’n ymwneud â darparu dysgu addysg i oedolion ac a gyflogir gan y darparwr addysg cymwys sy’n cymryd rhan.
- Aelodau staff eraill a gyflogir gan sefydliad cymwys sy’n cymryd rhan sy’n darparu addysg i oedolion.
Symudedd dysgwyr
Cyfranogwyr cymwys:
- Dysgwyr AB sy’n ymwneud â gweithgareddau dysgu ac wedi cofrestru ar raglen achrededig mewn coleg AB cymwys.
- Dysgwyr AHG sy’n ymwneud â gweithgareddau dysgu neu hyfforddi ac wedi cofrestru gyda darparwr AHG.
Symudedd staff
Cyfranogwyr cymwys:
- Staff sy’n ymwneud â darparu dysgu addysg i oedolion ac a gyflogir gan y darparwr addysg cymwys sy’n cymryd rhan.
- Aelodau staff eraill a gyflogir gan sefydliad cymwys sy’n cymryd rhan sy’n darparu addysg i oedolion.
6.4. Gweithgareddau a chostau cymwys
Bydd Llwybr 2 yn cyllido gweithgareddau sy’n arwain at greu, datblygu a lledaenu allbynnau prosiect sy’n rhoi sylw i un o’r themâu a nodwyd gan Taith.
Gweler manylion ar weithgareddau cymwys isod. Mae cap ar y ganran o’r gyllideb a ellir ei defnyddio ar gyfer costau staff. Wrth lenwi’r ffurflen gais a’r offeryn cyfrifo grant, a fyddech cystal â sicrhau nad yw’r costau staff yn uwch na 35% na chyfanswm y grant, ac nad yw cyfanswm y grant y gwneir cais amdano yn fwy na £75,000.
Rhaid i sefydliadau sy’n gwneud cais ddarparu manylion a chyfiawnhad clir yn y ffurflen gais ar gyfer y cyllid y gofynnir amdano ym mhob math o weithgaredd. Mae Llwybr 2 yn canolbwyntio ar ddatblygu cydweithrediad strategol, ac felly rhaid i geisiadau ddangos yn glir sut y bydd partneriaid Cymreig a rhyngwladol yn cydweithio i gyflawni nod cyffredin.
Gall y sefydliadau partner rhyngwladol dderbyn hyd at 30% o gyfanswm y grant.
Nid oes cyfyngiad ar y gyfran o gyllid y gellir ei defnyddio ar gyfer symudedd, ar yr amod bod y rhain yn amlwg yn hwyluso datblygu a chwblhau allbwn y prosiect. Mae staff a dysgwyr yn gymwys i deithio’n rhyngwladol. Mae enghreifftiau yn cynnwys aelod o staff yn teithio i sefydliad partner dramor i ddysgu, datblygu dealltwriaeth, cydweithio ac ati. Mae symudedd dysgwyr yn bosibl lle mae sail resymegol glir dros eu rhan yn natblygiad allbwn y prosiect – naill ai fel cyd-grewyr neu i brofi/weithredu allbwn y prosiect. Mae symudedd dysgwyr cymwys yn cynnwys symudedd grŵp yn unig, nid yw symudedd dysgwyr unigol yn gymwys yn Llwybr 2.
Os na fydd symudedd corfforol yn rhan o’r prosiect, rhaid darparu sail resymegol glir am hyn a darparu tystiolaeth fanwl sut bydd y partneriaethau’n datblygu a sut bydd yr allbynnau yn cael eu creu drwy ddulliau eraill.
Cap canrannol ar gyfer math o weithgaredd
Nid oes cap ar ganran y cyllid y gellir ei ddefnyddio ar gyfer symudedd. Rhaid i’r nifer o gyfranogwyr a anfonir gan y partner rhyngwladol fod yn gyfartal neu’n is na’r nifer o gyfranogwyr o Gymru a anfonir dramor.
Costau cymwys:
Staff:
- Grant at ddibenion cynhaliaeth.
- Grant teithio, gan gynnwys ‘atodol gwyrdd’ ar gyfer opsiynau teithio gwyrddach. Bydd costau teithio eithriadol o/i ardal anghysbell hefyd yn cael eu hystyried.
- 100% o’r costau gwirioneddol ar gyfer costau ychwanegol cysylltiedig â theithio e.e. fisas, pasbortau, yswiriant teithio, bagiau (lle bo angen) ar gyfer cyfranogwyr o gefndiroedd difreintiedig.
- 100% o’r costau cynhwysiant gwirioneddol a nodwyd ar gyfer staff ag anableddau ac anghenion ychwanegol. Bydd cyllid yn cael ei gadw’n ganolog gan Taith yn ystod y cam dyfarnu grant at y diben hwn.
Dysgwyr:
- Grant at ddibenion cynhaliaeth.
- Grant teithio, yn dibynnu ar bellter, gan gynnwys ‘ychwanegiad gwyrdd’ ar gyfer opsiynau teithio gwyrddach. Bydd costau teithio eithriadol o/i ardal anghysbell hefyd yn cael eu hystyried.
- 100% o’r costau gwirioneddol ar gyfer costau ychwanegol cysylltiedig â theithio e.e. fisas, pasbortau, yswiriant teithio, bagiau (lle bo angen) ar gyfer disgyblion o gefndiroedd difreintiedig.
- 100% o gostau cynhwysiant gwirioneddol a nodwyd ar gyfer disgyblion ag anableddau ac anghenion ychwanegol. Bydd cyllid yn cael ei gadw’n ganolog gan Taith yn ystod y cam dyfarnu grant at y diben hwn.
Mae costau symudedd cymwys ar gyfer pob sector yr un fath â chyfraddau symudedd staff a dysgwyr fesul sector ar gyfer Llwybr 1 2023. Lle mae prosiectau’n draws-sectoraidd, bydd y cyfraddau sector ar gyfer y sefydliad y mae’r staff neu’r dysgwr yn gysylltiedig ag ef yn berthnasol. Mae cyfraddau grant ar gyfer symudedd i’w gweld yn Adran 7.
Cyfraniad at gostau i alluogi’r gweithgaredd i ddigwydd. Gallai’r rhain gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, logi ystafell gyfarfod, lluniaeth, costau hwyluso, cyfieithu ar y pryd ar gyfer cyfarfodydd, costau gweinyddol ac ati.
Nid yw costau staff yn gymwys o dan y gweithgaredd hwn.
Cap canrannol ar gyfer math o weithgaredd
Nid oes cap ar ganran y cyllid y gellir ei ddefnyddio ar gyfer rheoli a gweithredu prosiect.
Mae hyn yn gyfraniad at y costau staffio sydd eu hangen i alluogi’r prosiect i ddigwydd. Dim ond ar gyfer costau staffio sy’n ymwneud yn uniongyrchol â datblygu, creu a lledaenu allbwn y prosiect y gellir defnyddio cyllid yn y categori hwn.
Cap canrannol ar gyfer math o weithgaredd
Gall y cyfraniad tuag at gostau staff fod hyd at 35% o ddyfarniad cyllid y prosiect.
Cyfrifir costau staff ar gyfradd ddyddiol. Ceir manylion y cyfraddau dyddiol fesul categori staff yn adran 7.
Cyfraniad at gostau rhannu a lledaenu allbwn y prosiect ar draws y sector(au) yng Nghymru ac yn rhyngwladol. Mae costau cymwys yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, ddigwyddiadau, marchnata, cynhyrchu adroddiadau, datblygu adnoddau ar-lein, datblygu cymhwysiad digidol neu lwyfan ar-lein.
Nid yw costau staff yn gymwys o dan y gweithgaredd hwn.
Rhaid i unrhyw weithgareddau/adnoddau lledaenu a grëir trwy Taith Llwybr 2 fod yn rhad ac am ddim i bawb sy’n cymryd rhan a pharhau felly cyhyd ag y cânt eu defnyddio/rhannu. Ni ellir datblygu’r adnoddau hyn na’u defnyddio at ddibenion masnachol.
Cap canrannol ar gyfer math o weithgaredd
Nid oes cap ar ganran y cyllid y gellir ei ddefnyddio ar gyfer costau lledaenu.
Cyfraniad at gostau cyfieithu yn ymwneud â chynhyrchu a lledaenu allbwn y prosiect. Mae costau cymwys yn cynnwys cyfieithu deunyddiau sy’n ymwneud ag allbwn y prosiect, cyfieithu ar y pryd ar gyfer digwyddiadau, sesiynau hyfforddi a seminarau ac ati.
Nid yw costau staff yn gymwys o dan y gweithgaredd hwn.
Cap canrannol ar gyfer math o weithgaredd
Nid oes cap ar ganran y cyllid y gellir ei ddefnyddio ar gyfer costau cyfieithu.