- Allbwn y prosiect
- Adnodd/deunydd/syniad diriaethol sy’n cael ei ddatblygu o ganlyniad i’r bartneriaeth gydweithredol ryngwladol a fydd yn cael ei rannu/ledaenu ar draws y sector(au).
- Buddiolwr
- Pan gaiff ei gymeradwyo ar gyfer cyllid prosiect, daw'r sefydliad sy'n gwneud cais yn Fuddiolwr y cyllid grant ac mae'n gyfrifol am lofnodi'r cytundeb grant.
- Consortiwm
- Dau neu ragor o sefydliadau sy'n cydweithio i ddatblygu a chyflawni prosiect neu weithgaredd o fewn prosiect.
- Costau cymwys
- Swm y grant (sy'n seiliedig fel arfer ar gyfradd grant) sy'n gysylltiedig â chynnal gweithgareddau prosiect.
- Cyfraddau grant
- Cyfraddau sefydlog sydd ar gael ar gyfer costau cymwys gwahanol.
- Cyfranogwr
- Unigolyn sy'n ymgymryd â symudedd rhyngwladol corfforol/rhithwir neu gyfunol mewn prosiect a ariennir gan Taith.
- Cyfranogwr difreintiedig
- Cyfranogwyr sy’n fyfyriwr neu’n berson ifanc sy'n cael eu hystyried dan anfantais yn unol ag un neu ragor o feini prawf Taith a byddant yn gymwys i gael cymorth ariannol ychwanegol. Gweler Atodiad 2 yng Nghanllaw'r Rhaglen am ragor o fanylion.
- Cyllid dwbl
- Ariennir y costau ar gyfer yr un gweithgaredd ddwywaith drwy ddefnyddio arian cyhoeddus. Er eglurder, ni chaniateir hyn ac ystyrir ei fod yn torri telerau ac amodau'r Cytundeb Grant.
- Cyllideb prosiect
- Cyfanswm yr arian a ddyrannwyd ar gyfer gweithgareddau y cytunwyd arnynt o fewn prosiect a ariennir gan Taith.
- Cynrychiolydd cyfreithiol
- Y person sydd â chyfrifoldeb cyfreithiol i gynrychioli sefydliad ac sydd â'r awdurdod cyfreithiol i ymrwymo i gontract cyfreithiol rhwymol, gan gynnwys, yng nghyd-destun Taith, yr awdurdod i lofnodi Cytundeb Grant.
- Cytundeb Grant
- Y cytundeb ysgrifenedig rhwng Taith a'r buddiolwr yn manylu ar delerau ac amodau'r dyfarniad cyllid a fydd wedi'i asesu i fod yn gyllidadwy ac wedi'i chymeradwyo i'w hariannu gan y pwyllgor perthnasol.
- Galwad am gyllid
- Y cyfnod o amser pryd y gellir cyflwyno ceisiadau am gyllid.
- Grant
- Y cyllid a ddyfernir gan Taith i sefydliad llwyddiannus sy’n gwneud cais.
- Gweithgaredd cymwys
- Gweithgaredd sy'n bodloni'r meini prawf a nodir yng Nghanllawiau Rhaglen Taith.
- Gweithgareddau lledaenu
- Y gweithgareddau a ddefnyddir i rannu allbwn y prosiect gyda sefydliadau/sector(au) eraill.
- Gweithgareddau partner rhyngwladol
- Y gweithgareddau a wneid gan y partner(iaid) rhyngwladol o dan unrhyw un o’r mathau o weithgareddau cymwys.
- Partneriaeth
- Cytundeb ffurfiol rhwng dau neu ragor o sefydliadau i gymryd rhan mewn prosiect a ariennir gan Taith ac i gymryd rhan mewn gweithgareddau a phrofiadau dysgu ar y cyd.
- Prosiect
- Gweithgareddau wedi'u trefnu a'u cynllunio y cytunir arnynt er mwyn cyflawni amcanion a chanlyniadau clir.
- Rhyngwladol
- Yng nghyd-destun Taith, unrhyw wlad y tu allan i'r Deyrnas Unedig.
- Sefydliad cymwys
- Sefydliad sy'n gallu gwneud cais am gyllid Taith.
- Sefydliad partner
- Term generig ar gyfer unrhyw sefydliad sy'n ymwneud yn ffurfiol â phrosiect a ariennir gan Taith, lle mae perthynas neu ryngweithio’n rhan o’r prosiect. Gall gynnwys y sefydliadau hynny a nodwyd fel sefydliad sy’n gwneud cais, cydlynydd, sefydliad sy'n derbyn neu sefydliad sy'n anfon yn ogystal ag eraill sy'n ymwneud â chyflawni'r prosiect.
- Sefydliadau sy’n anfon
- Sefydliadau sydd wedi'u cofrestru ac sy’n gweithredu y tu allan i'r DU ac yn anfon cyfranogwyr i sefydliad lletyol yng Nghymru yn ystod symudedd corfforol. Diffinnir sefydliadau anfon cymwys yn adrannau sector-benodol Canllawiau'r Rhaglen.
- Sefydliad sy’n derbyn
- Pan fydd unigolion neu grwpiau'n cymryd rhan mewn lleoliad wyneb yn wyneb drwy Taith, y sefydliad sy'n derbyn fydd eu sefydliad lletyol. Gellir cyfeirio at y sefydliad hwn yn aml fel lletywr neu bartner sefydliad rhyngwladol. Diffinnir sefydliadau derbyn cymwys yn adrannau sector-benodol Canllawiau'r Rhaglen.
- Sefydliad sy'n gwneud cais
- Y sefydliad yng Nghymru sy'n cyflwyno cais am gyllid i Taith. Gall sefydliad sy'n gwneud cais wneud hynny naill ai'n unigol neu ar ran consortiwm, sy'n cynnwys sefydliadau eraill sy'n ymwneud â'r prosiect.
- Symudedd allanol
- Cyfranogwyr o sefydliadau cymwys yng Nghymru sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau a gefnogir gan Taith mewn sefydliadau sy'n derbyn y tu allan i'r DU (neu mewn amgylchiadau eithriadol yn unig, y tu allan i Gymru mewn sefydliadau sy'n derbyn yng ngweddill y DU).
- Symudedd mewnol
- Cyfranogwyr o sefydliadau anfon cymwys sy'n dod i Gymru i gymryd rhan yn un o raglenni Taith.
- Teithio gwyrdd
- Dulliau trafnidiaeth cynaliadwy, h.y. teithio sy'n defnyddio dulliau trafnidiaeth ag allyriadau isel ar gyfer prif ran y daith. Er enghraifft, bysiau, trenau neu rannu ceir.