Cysylltwch
Cyhoeddi Digidol

Canllaw Rhaglen Llwybr 2 2023

Partneriaethau a Chydweithio Strategol Fersiwn 1.0, 5ed Hydref 2023

4. Gwneud cais ar gyfer Llwybr 2

Ffurfiant craig mawr ac o’i amgylch mae nifer o goed gwahanol. Ceir awyr las.

4.1. Amserlen

5 Hydref 2023: Agor galwad cyllid Llwybr 2 (2023).

30 Tachwedd 2023, 12yp: Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Ni fydd ceisiadau sy’n dod i law ar ôl y dyddiad hwn yn cael eu hasesu. 

Mis Mawrth 2024: Anfon hysbysiad canlyniad i bob un o’r sefydliadau sy’n gwneud cais.

1 Mai 2024: Gall prosiectau ddechrau.

4.2. Cyn cyflwyno cais

Cyn dechrau paratoi cais, argymhellwn fod ymgeiswyr yn:

  • Darllen Canllawiau Craidd y Rhaglen.
  • Cadarnhau bod y sefydliad yn gymwys i wneud cais.
  • Darllen y canllawiau hyn yn drylwyr, yn enwedig y wybodaeth ynghylch gweithgareddau cymwys, cyfranogwyr a hyd prosiectau.
  • Gwirio bod gan y sefydliad ddigon o gapasiti yn ariannol ac o ran gweithredu. 
  • Darllen meini prawf asesu Llwybr 2 – yn adran 5.2.
  • Darllen adnoddau Llwybr 2 a dod i’r digwyddiadau arweiniol a thiwtorial ar gwblhau cais.
  • Cysylltu â thîm Taith os oes gennych chi unrhyw gwestiynau.

4.3. Llenwi cais

I wneud cais am gyllid ar gyfer Llwybr 2, mae’n rhaid i sefydliadau ddefnyddio ffurflen gais Llwybr 2 a’r adnodd cyfrifo grant sydd ar gael trwy wefan Taith.

Mae’r ffurflen gais yn gofyn am ymatebion naratif ar gyfres o gwestiynau gan gynnwys trosolwg o’r prosiect, manylion am y gweithgareddau arfaethedig ac allbwn y prosiect, sut y bydd y dysgu’n cael ei ledaenu, rheolaeth y prosiect a rheoli ariannol, a sut a pham y dewiswyd partneriaid rhyngwladol. 

Hefyd bydd yn ofynnol i sefydliadau sy’n gwneud cais gwblhau adnodd cyfrifo grant. Bydd hwn yn cyfrifo cyfanswm y grant a geisir yn seiliedig ar yr amrywiol weithgareddau y gwneir cais amdanynt. Ceir gwybodaeth am y cyfraddau grant ar gyfer pob Llwybr yn Adran 7.

Yn rhan o’r broses ymgeisio, bydd angen i sefydliadau gadarnhau a ydynt am wneud cais am gyllid cyfatebol ar gyfer gweithgareddau’r partner rhyngwladol. Gall y cyllid ar gyfer y partner rhyngwladol fod hyd at 30% o gyfanswm y grant y prosiect. Bydd y cyllid sydd ar gael ar gyfer hyn yn cael ei gyfrifo’n awtomatig drwy’r adnodd cyfrifo grant. 

Asesir ceisiadau yn erbyn y meini prawf asesu ar gyfer Llwybr 2 a amlinellir yn adran 5.2. Argymhellir bod sefydliadau sy’n gwneud cais yn darllen drwy’r meini prawf asesu yn drylwyr cyn dechrau’r cais fel eich bod yn glir ynghylch sut caiff y cais ei asesu. 

Ceir amrywiaeth o adnoddau ysgrifenedig ac ar ffurf fideo ar wefan Taith i gefnogi sefydliadau gyda’u cais. 

Anogir pob ymgeisydd i gwblhau’r adrannau cais ansoddol all-lein, ac yna eu copïo a’u gludo i’r ffurflen gais ar-lein. Bydd hyn yn eu galluogi i weithio drwy’r adrannau wrth eu pwysau, heb y risgiau sy’n gysylltiedig â gweithio ar-lein. Pan fyddant wedi llenwi’r ffurflen gais all-lein, gallant gopïo’r cynnwys, ei ludo yn y mannau perthnasol ar-lein a chyflwyno’r cais.

Dim ond un cais y gall sefydliadau ei gyflwyno fesul sector, fesul galwad am geisiadau, ar gyfer pob Llwybr. Dylai ymgeiswyr sicrhau nad oes mwy nag un cais am yr un alwad am geisiadau ar gyfer Llwybr penodol yn cael eu cyflwyno gan wahanol bartïon yn yr un sefydliad.