3. Gwybodaeth am y Llwybr
![Ffurfiant craig mawr ac o’i amgylch mae nifer o goed gwahanol. Ceir awyr las.](https://www.taith.cymru/wp-content/uploads/2023/09/62-CMW-1-1280x720.jpg)
3.1. Themâu
Rhaid i brosiectau Llwybr 2 gyd-fynd ag o leiaf un o themâu Taith. Mae’r themâu ar gyfer galwad cyllid Llwybr 2 (2023) i’w gweld isod.
Gosodir y themâu’n flynyddol a gallant newid yn y dyfodol.
Datblygiadau ym maes addysg
Dylai prosiectau dan y thema hon gyd-fynd â datblygiad perthnasol sy’n digwydd o fewn sector y sefydliad sy’n cyflwyno cais. Os yw prosiectau ar draws sectorau, gall ymgeiswyr ddewis cyd-fynd â pha un bynnag sydd fwyaf perthnasol ar gyfer eu prosiect:
- Cwricwlwm i Gymru
- Strategaeth Gwaith Ieuenctid Cenedlaethol Cymru (gan gynnwys gwaith y Bwrdd Gweithredu Gwaith Ieuenctid Strategol)
- Y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (gan gynnwys y weledigaeth a’r dyletswyddau strategol ar gyfer y sector Addysg Oedolion)
Amrywiaeth a Chynhwysiant
Gallai enghreifftiau o fewn y thema hon gynnwys (ond heb eu cyfyngu i):
- Dwyieithrwydd, amlieithrwydd a diwylliant Cymru
- Hunaniaeth a pherthyn
- Anghydraddoldeb, mynediad a chynhwysiant cymdeithasol
Newid yn yr Hinsawdd
Gallai enghreifftiau o fewn y thema hon gynnwys (ond heb eu cyfyngu i):
- Datblygiadau ym maes addysg newid yn yr hinsawdd
- Datgarboneiddio
- Addasu a Lliniaru
3.2. Allbynnau prosiectau
Ffocws Llwybr 2 yw creu allbynnau prosiect o ansawdd uchel, ardrawiadol, mesuradwy, ac sydd o werth i sefydliadau eraill a’r sector(au) ledled Cymru.
Mae Taith yn agored i arloesedd a syniadau newydd ac mae’n croesawu ac yn annog sefydliadau sy’n gwneud cais i gynnig yr allbynnau prosiect sy’n gweithio orau iddyn nhw a’u sector. Gall allbynnau prosiect ddod mewn fformatau amrywiol megis ysgrifenedig, gweledol, fideo, gweithdai ac ati. Gallai enghreifftiau o allbynnau prosiect gynnwys (ond heb eu cyfyngu i):
- Modelau neu ddulliau newydd
- Adnoddau/pecynnau cymorth
- Deunyddiau hyfforddi/addysgu
- Adnoddau/allbynnau digidol
3.3. Lledaenu
Agwedd allweddol ar Lwybr 2 yw’r gofyniad bod allbynnau prosiect yn cael eu rhannu a’u lledaenu. Bydd angen i sefydliadau sy’n gwneud cais ddangos yn glir sut maent yn bwriadu rhannu canlyniadau eu prosiect, a gyda phwy. Rhaid i’r gweithgaredd lledaenu fod yn briodol ac yn hygyrch i’r sector(au), ac yn berthnasol i fformat a bwriad allbwn y prosiect. Gallai enghreifftiau o weithgareddau lledaenu gynnwys (ond heb eu cyfyngu i):
- Digwyddiad/cynhadledd/gweithdy
- Rhannu adnoddau drwy blatfform ar-lein, neu drwy ap (*sylwch na all Taith dalu costau cynnal megis ffi blynyddol i gadw’r adnodd)
- Sesiynau hyfforddi i unigolion/sefydliadau allu datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth