2. Pwy all wneud cais / gymryd rhan yn Llwybr 2
2.1. Sectorau cymwys
Mae cyllid Llwybr 2 ar gael i’r sectorau canlynol:
- Ysgolion
- Ieuenctid
- Addysg Bellach (AB) ac Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol (AHG)
- Addysg i Oedolion
Nid yw sefydliadau Addysg Uwch yn gymwys i geisio am gyllid ond gallant fod yn rhan o brosiect Llwybr 2 fel partner na chaiff ei gyllido.
Prosiectau traws-sector
Mae Taith yn deall beth yw gwerth gweithio ar draws sectorau a manteision dod â sefydliadau ar draws gwahanol sectorau ynghyd i weithio at nod cyffredin. Mae’r rhaglen felly’n cefnogi ac yn annog prosiectau gan sefydliadau mewn gwahanol sectorau yn gweithio mewn partneriaeth.
Ceir manylion am weithgareddau, costau, hyd a chyfranogwyr cymwys ar gyfer prosiectau Llwybr 2 yn adran 6.3.
2.2. Dwyochredd
Mae egwyddorion dwyochredd a dysgu ar y cyd yn ganolog i Taith. Gall sefydliadau sy’n gwneud cais am gyllid ar gyfer prosiectau Llwybr 2 Taith wneud cais am gyllid ychwanegol ar gyfer gweithgareddau partner rhyngwladol. Caiff hyn ei gyfrifo fel uchafswm o 30% o gyllideb y prosiect.
Ceir rhagor o fanylion am gyllid ar gyfer gweithgareddau partner rhyngwladol a’r hyn y gellir gwario’r cyllid hwn arno yn adran cymhwysedd y ddogfen hon.
Bydd cyllid ar gyfer symudedd mewnol yn cael ei gynnwys yn y dyfarniad grant i’r sefydliadau sy’n gwneud cais llwyddiannus yng Nghymru a’u cyfrifoldeb nhw fydd trosglwyddo’r cyllid dan sylw i’r sefydliad sy’n anfon, ac ar ran y sefydliad hwnnw.