Trefniadau Rheoli Prosiect
Bydd gofyn i chi ddarparu gwybodaeth am sut caiff y prosiect ei reoli – pwy sy’n gyfrifol am ei oruchwylio’n gyffredinol, sut mae’n cael ei fonitro a pha gamau dylid eu cymryd os na fydd y prosiect yn dilyn y cynllun gwreiddiol.
Enghreifftiau o dystiolaeth dderbyniol: cynllun prosiect; adroddiadau rheoli; cofnodion cyfarfodydd prosiect; cyfweliadau â phobl allweddol; cofrestr risgiau’r prosiect; deunydd hyrwyddo cyfleoedd prosiect Taith i ddarpar bartneriaid; gweithdrefnau gweithredu safonol y sefydliad mewn perthynas â rheoli gwariant mewn perthynas â chostau uned – rhestr o’r rhain i’w chynnwys fel enghreifftiau.
Gofynion penodol ar gyfer tystiolaeth: Dylai cynlluniau’r prosiect fod yn gyfredol, gan ddangos cyflwr presennol y cynnydd. Bydd archwiliadau ar y safle bob amser yn cynnwys cyfarfodydd â phobl allweddol yn eich sefydliad.