Cysylltwch
Cyhoeddi Digidol

Nodyn canllaw ar gyfer Archwiliad ar y Safle i brosiectau Llwybr 2

Allbynnau prosiect

Os ydych yn cynnal archwiliad ar ôl cwblhau’r prosiect, gwiriwch dystiolaeth o allbynnau’r prosiect gan gyfeirio at y cais gwreiddiol.

Enghreifftiau o dystiolaeth dderbyniol: Bydd hyn yn dibynnu ar y prosiect – gwiriwch y cais a gymeradwywyd yn wreiddiol.

Gofynion penodol am dystiolaeth / tystiolaeth ychwanegol a awgrymir: Lle cyfeiriwyd at ganlyniadau ac allbynnau yn y cais a gymeradwywyd yn wreiddiol, dylai hefyd fod tystiolaeth o’r rhain, e.e. data am allbynnau a wiriwyd yn ôl i’r system gwybodaeth o le cafodd ei dynnu a’i wirio.