Cymhwysedd Dysgwr
Bydd gofyn i chi gadarnhau pa brosesau sydd ar waith yn eich sefydliad i wirio bod y cyfranogwyr yn gymwys ar gyfer y rhaglen yn unol â’r meini prawf a amlinellir yn y Canllaw Rhaglen Llwybr Taith perthnasol, er enghraifft os ydynt wedi’u cofrestru gyda sefydliad addysgol ar gwrs perthnasol o astudio.
Enghreifftiau o dystiolaeth dderbyniol: gweithdrefn(au) gweithredu safonol er mwyn dethol cyfranogwyr; taenlenni sy’n cael eu cynnal gan y sefydliad sy’n derbyn y grant, cofnod o dystiolaeth a dderbyniwyd a gwiriadau priodol ar waith i sicrhau bod y dystiolaeth yn bodloni meini prawf Taith.
Gofynion penodol ar gyfer tystiolaeth / tystiolaeth ychwanegol a awgrymir: Dylai fod gennych chi drefniadau cadarn i ddiogelu’r holl ddata cyfrinachol a sensitif am gyfranogwyr unigol a gesglir yn ystod gwiriadau cymhwysedd a dylai fod modd dangos y rhain ar gais. Gallai Gweithredydd y Rhaglen Taith adolygu’r holl dystiolaeth a gasglwyd gan eich sefydliad ynghylch cymhwysedd cyfranogwyr.