Cysylltwch
Cyhoeddi Digidol

Nodyn canllaw ar gyfer Archwiliad Bwrdd Gwaith Cyllid Ychwanegol

Costau ychwanegol ar gyfer cyfranogwyr anabl neu ddifreintiedig

Pan fyddwch chi wedi hawlio costau ychwanegol mewn perthynas â gwariant sy’n gysylltiedig â theithio ychwanegol i ddysgwyr o gefndiroedd difreintiedig, dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol neu ddysgwyr neu staff ag anableddau, caiff y costau hyn eu gwirio’n ôl i’ch cofnodion ariannol. 

Enghreifftiau o dystiolaeth dderbyniol: Anfonebau; derbynebau; archebion prynu a gymeradwywyd 

Gofynion penodol ar gyfer tystiolaeth / tystiolaeth ychwanegol a awgrymir: Rhaid i dderbynebau ac anfonebau ddatgan cost, cyflenwr, dyddiad, arian cyfredol a (lle bo’n berthnasol) y rhif TAW. Nid yw datganiadau cerdyn credyd yn dderbyniol fel tystiolaeth. 

Bydd tîm Taith yn gofyn i chi gadarnhau pa brosesau sydd gan eich sefydliad ar waith i wirio bod y cyfranogwyr y mae costau teithio ychwanegol neu gostau cynhwysiant yn cael eu hawlio ar eu cyfer yn bodloni’r diffiniadau ADY, anabledd a chefndiroedd difreintiedig a ddarperir yn Llawlyfrau Gweithredol Llwybr 1 neu Lwybr 2. 

Enghreifftiau o dystiolaeth dderbyniol: Sicrhau bod Gweithdrefn(au) Gweithredu Safonol er mwyn dethol cyfranogwyr; taenlenni sy’n cael eu cynnal gan y sefydliad sy’n derbyn y grant, cofnod o dystiolaeth a dderbyniwyd a gwiriadau priodol ar waith i sicrhau bod y dystiolaeth yn bodloni meini prawf Taith. 

Gofynion penodol ar gyfer tystiolaeth / tystiolaeth ychwanegol a awgrymir: Ar gyfer yr holl weithgareddau symudedd:  Dylai fod gennych chi drefniadau cadarn i ddiogelu’r holl ddata cyfrinachol a sensitif am gyfranogwyr unigol a gesglir yn ystod gwiriadau cymhwysedd a dylai fod modd dangos y rhain ar gais.