Gweithgaredd Prosiect
- Proses dewis cyfranogwyr a dogfennaeth gefnogi
- Tystiolaeth i ddangos sut mae derbynnydd y grant yn cadarnhau bod cyfranogwr yn gymwys am gyllid ychwanegol
- Sut caiff costau teithio a chynhaliaeth yn cael eu dyrannu ac i bwy
Bydd gan yr archwiliad dri amcan
Boddhaol: mae tystiolaeth yn dangos cydymffurfiaeth lawn â gofynion y Canllaw Rhaglen perthnasol.
Rhannol foddhaol: mae oedi cyn i dderbynnydd y grant ddarparu’r dystiolaeth a/neu mae peth o’r dystiolaeth yn dangos diffyg cydymffurfio â gofynion y canllaw rhaglen, ond mae’r diffyg cydymffurfio yn fach neu gall fod o ganlyniad i gamgymeriad dynol.
Anfoddhaol: nid oes tystiolaeth ar gael gan dderbynnydd y grant, neu mae’r dystiolaeth a ddarparwyd yn dangos diffyg cydymffurfio â gofynion y Canllaw Rhaglen perthnasol.
Bydd y tîm Grantiau a Chyllid Taith yn trafod y camau nesaf â chi yn dilyn canlyniad yr archwiliad.