Cysylltwch
Cyhoeddi Digidol

Nodyn canllaw ar gyfer Archwiliad Bwrdd Gwaith Cyllid Ychwanegol

Teithio gwyrdd

Pan fyddwch chi wedi hawlio’r ‘swm ategol gwyrdd’, rhaid darparu tystiolaeth eich bod chi wedi defnyddio dull teithio sy’n ecogyfeillgar. 

Enghreifftiau o dystiolaeth dderbyniol: Tocynnau; cadarnhad o archeb; cadw seddi; tocynnau mynediad; hawliad costau teithio sy’n dangos lle mae cyflogai wedi rhoi lifft i gydweithiwr (rhannu car) 

Gofynion penodol ar gyfer tystiolaeth: Mae dulliau teithio gwyrdd yn cynnwys: beic, trên, coets, bws mini neu rannu car. Rhaid cwblhau’r rhan fwyaf o’r daith mynd a dychwelyd gan ddefnyddio dull teithio gwyrdd i fodloni meini prawf cymhwysedd.